Facebook Pixel

Trosolwg o’r gystadleuaeth toi gyda llechi a theils

Bydd disgwyl i’r cystadleuwyr ymgymryd â phrosiect penodol lle bydd gofyn iddynt ddangos y sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu heddiw.

Mae towyr yn gweithio ar haenau gwarchodol adeilad sy’n gwahanu’r tu mewn oddi wrth yr elfennau gan ddefnyddio amryw o ddeunyddiau, dulliau a strwythurau. Mae towyr llechi a theils yn gosod ac yn atgyweirio’r holl orchudd sy’n dal dŵr ar gyfer adeiladau drwy osod llechi neu deils ar fframwaith wedi’i ddylunio, fel to tŷ. Mae’r sgiliau ar gyfer y rôl hon yn cynnwys deall darluniau a manylebau i wybod pa ddeunyddiau i’w defnyddio, gosod is-haen, rhoi deunydd inswleiddio a gorchuddion to yn eu lle, atgyweirio toeau hen neu ddiffygiol, gan sicrhau bod unrhyw orchudd newydd yn diogelu rhag y tywydd.

Gall arbenigwyr treftadaeth weithio ar doeau sy’n amrywio o dai teras Fictoraidd i eglwysi hynafol. Mae towyr llechi a theils modern wedi’u hyfforddi i ddefnyddio deunyddiau wedi’u gwneud â llaw o oesau cynharach, gan gynnwys teils clai a gwahanol fathau o gerrig neu lechi naturiol.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei chynllunio i adlewyrchu rôl töwr llechi a theils, a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o'r gystadleuaeth

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny

Gwybodaeth gyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, 18 awr yw’r amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Dehongli darluniau
  • Gosod is-haenau, estyll stribed a theils
  • Mesur, marcio a thorri teils
  • Arddangos technegau torri
  • Defnyddio technegau pwyntio
  • Sicrhau bod adeiladwaith wedi’i osod yn ddiogel drwyddo
  • Sicrhau nad oes diffygion yn yr adeiladwaith
  • Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel
Dyluniwyd y wefan gan S8080