Gweithgaredd Chwalu Mythau Adeiladu
Enw’r Gweithgaredd:
Gweithgaredd Chwalu Mythau Adeiladu
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Gweithgaredd gyrfaoedd rhyngweithiol sy’n annog cyfranogwyr i ysgogi trafodaeth er mwyn herio’r stereoteipiau a’r canfyddiadau sy’n gysylltiedig â’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael dwy set o gardiau – un set gyda’r label “myth” a’r llall gyda’r label ‘chwalu’, a’u tasg fydd paru’r cardiau ‘chwalu’ â’r cardiau ‘myth’ i greu atebion sy’n chwalu’r mythau am y diwydiant adeiladu.
Nod y Gweithgaredd:
Ysgogi trafodaeth er mwyn herio’r stereoteipiau a’r canfyddiadau sy’n gysylltiedig â’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):
- Pob oedran
- Yn Cynnwys Dylanwadwyr e.e. athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd

Maint y Grŵp: Gall cyfranogwyr weithio mewn grwpiau bach/timau o 2 -4 o bobl, ond nid oes cyfyngiad ar faint cyffredinol y grŵp.
Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i’r daflen Crynodeb o’r Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:
- Paratoi a’r Adnoddau y byddwch eu hangen
- Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestyn
- Amserlen a Awgrymir
Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Llwytho’r holl ddogfennau i lawr ar gyfer Gweithgaredd Chwalu’r Mythau Adeiladu.