Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Yn y diwydiant adeiladu, mae arbenigwyr cynaliadwyedd yn asesu ôl troed carbon prosiectau ac yn awgrymu ffyrdd i leihau’r effaith amgylcheddol ar y byd yn ehangach. Maent yn helpu busnesau i arbed arian a datblygu datblygiadau, wrth gadw llygaid ar y bobl a’r ecosystemau, ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol.
£30000
-£60000
40 - 41
I ddod yn arbenigwr cynaliadwyedd, mae sawl llwybr ar gael. Gallech wneud cwrs yn y brifysgol neu brentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I ddod yn arbenigwr cynaliadwyedd gallech gwblhau gradd israddedig mewn syrfeo, peirianneg neu adeiladu.
Ar gyfer swydd uwch, gallech gwblhau gradd ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol, neu ennill statws siartredig. Gall rhai cwmnïau gynnig hyfforddiant ôl-raddedig.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
Gallech gwblhau prentisiaeth i ddod yn arbenigwr cynaliadwyedd.
Mae gwneud prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda o ymuno â’r diwydiant.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Os oes gennych rywfaint o brofiad blaenorol o ddefnyddio meddalwedd modelu neu gymwysterau cynaliadwyedd perthnasol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad o weithio ar safle fel arbenigwr cynaliadwyedd. I ddechrau, efallai y byddwch yn gweithio fel cynorthwyydd ac yn camu ymlaen wrth i’ch gallu ddatblygu.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel arbenigwr cynaliadwyedd. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae sgiliau ychwanegol a all fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel arbenigwr cynaliadwyedd yn cynnwys:
Fel arbenigwr cynaliadwyedd, byddech yn adnabod ffyrdd o wella cynaliadwyedd prosiectau adeiladu. Gall eich asesiadau fod yn adrodd ar ddeunyddiau a ddefnyddir ar brosiect, y llygrydd a geir, effaith prosiect ar gymunedau ac ecosystemau lleol, y defnydd egni maes o law, a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol. Gallech fod yn gyfrifol am ddatblygiadau preswyl, prosiectau nwy ac olew artraeth ac alltraeth, neu isadeiledd cludiant neu ddiwydiannol.
Mae dyletswyddau arbenigwr cynaliadwyedd fel a ganlyn:
Mae cyflog disgwyliedig arbenigwr cynaliadwyedd yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi arbenigwyr cynaliadwyedd sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel arbenigwr cynaliadwyedd, gallech ddatblygu i rolau rheoli prosiect neu ymgynghorol uwch.
Dewis arall yw mynd yn ymgynghorydd hunangyflogedig.
Gallech gynyddu eich siawns i gael swydd drwy ennill statws siartredig.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod