Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr desg llogi peiriannau yn gyfrifol am drefnu i logi peiriannau, offer a chyfarpar i gwsmeriaid a chwmnïau adeiladu. Fel rheolwr desg llogi peiriannau, bydd disgwyl bod gennych sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol a’ch bod yn datblygu perthnasoedd proffesiynol â chleientiaid.
£19000
-£35000
37-42
Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau, mae sawl llwybr y gallech chi eu dilyn i'ch helpu yn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn rheolwr desg llogi peiriannau, byddai TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch o fudd i unrhyw un sy’n ystyried hyn fel gyrfa.
Gallech hefyd ddilyn cwrs coleg fel Dyfarniad Lefel 2 neu Lefel 3 mewn Datblygu Busnes neu Werthu, i’ch paratoi ar gyfer bod yn rheolwr desg llogi peiriannau.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae prentisiaeth gyda chwmni llogi peiriannau yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd fel rheolwr desg llogi peiriannau.
Efallai y bydd angen rhywfaint o gymwysterau TGAU arnoch, neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i wneud prentisiaeth ganolradd.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennych chi brofiad neu gymwysterau blaenorol ym maes adeiladu, rhedeg warysau neu werthu, efallai y gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel rheolwr desg llogi peiriannau.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr desg llogi peiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
I unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel rheolwr desg llogi peiriannau, mae’r sgiliau canlynol yn ddymunol:
Prif gyfrifoldeb rheolwr desg llogi peiriannau yw delio ag ymholiadau ac archebion cwsmeriaid mewn modd proffesiynol.
Dyma rai o ddyletswyddau bob dydd rheolwr desg llogi peiriannau:
Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr desg llogi peiriannau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr desg llogi peiriannau:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel rheolwr desg llogi peiriannau, gallech chi symud i rôl fel gweithredwr peiriannau neu fecanig peiriannau.
Fel arall, gallech chi symud ymlaen i swydd uwch fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr depo.v