Facebook Pixel

Swyddog adfywio

Mae swyddog adfywio yn darparu rhaglenni sydd wedi’u dylunio i wella ac adnewyddu adeiladau ac ardaloedd lleol er mwyn eu diweddaru o ran dyluniad, cydymffurfiad iechyd a diogelwch, a’r defnydd presennol. Gall hyn gynnwys gwella ardaloedd difreintiedig, a chael gafael ar y grantiau a’r cyllid sy’n angenrheidiol er mwyn bwrw ymlaen â phrosiectau.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£80000

Sut i fod yn swyddog adfywio

Mae sawl ffordd o ddod yn swyddog adfywio. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych rywfaint o brofiad blaenorol.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i chi gael gradd i fod yn swyddog adfywio. Dyma rai pynciau perthnasol:

  • Adeiladu
  • Peirianneg
  • Peirianneg sifil
  • Astudiaethau amgylcheddol.

Fel arfer bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech ddechrau ar eich taith i fod yn swyddog adfywio drwy astudio cwrs coleg mewn peirianneg sifil, adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, neu astudiaethau busnes.

Fel arfer, bydd angen i chi gael 4 -5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, a gall fod angen 1-2 lefel A i astudio peirianneg sifil.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth cynllunio trefol i’ch rhoi ar ben ffordd ar eich llwybr gyrfa i ddod yn swyddog adfywio.

Mae prentisiaeth gydag awdurdod lleol yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad blaenorol mewn awdurdod lleol (mewn cynllunio trefol neu ddatblygu busnes, er enghraifft), efallai y gallech wneud cais yn uniongyrchol i gael profiad ar safle fel swyddog adfywio. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i swyddog adfywio mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel swyddog adfywio. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel swyddog adfywio: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sylw da i fanylion
  • Sgiliau rheoli prosiectau a chyllidebau
  • Gallu datrys problemau a meddwl yn ddadansoddol
  • Gweithio a chyfathrebu'n dda mewn tîm.

Cymwysterau


Beth mae swyddog adfywio yn ei wneud?

  • Trafod
  • Diogelu treftadaeth ynghyd â dylunio ar gyfer y dyfodol
  • Rheolaeth ariannol
  • Dod o hyd i atebion hyblyg i broblemau
  • Cyfathrebu â’r gymuned leol, rhanddeiliaid ac uwch reolwyr ynglŷn â chynnydd prosiectau
  • Rhoi cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd ar waith
  • Asesu effeithiau amgylcheddol
  • Rheoli ymgynghoriadau gyda thirfeddianwyr a datblygwyr
  • Defnyddio adborth i lunio cynigion
  • Cysylltu ag adrannau eraill
  • Gweithio ochr yn ochr â’r cyngor lleol, tirfeddianwyr perthnasol a datblygwyr eraill
  • Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod prosiect adfywio yn addas i’r diben
  • Creu briffiau prosiect er mwyn comisiynu'r gwaith
  • Pennu blaenoriaethau allweddol sydd angen sylw

Faint o gyflog allech chi ei gael fel swyddog adfywio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i swyddog adfywio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall swyddogion adfywio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £35,000
  • Gall swyddogion adfywio gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £45,000
  • Gall uwch swyddogion adfywio ennill £45,000 - £80,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer swyddogion adfywio: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel swyddog adfywio, gallech symud ymlaen i rôl fel cynllunydd tref neu ymgynghorydd treftadaeth.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Swyddog adfywio Dal gafael ar hanes adeilad, gan ddod ag ef i’r dyfodol gyda’ch dyluniadau. Dysg...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cynllunydd tref Rheoli datblygiad dinasoedd, trefi a chefn gwlad ar lefel genedlaethol a chynort...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Ymgynghorydd Treftadaeth Cynnig arweiniad, ymchwilio i safleoedd a helpu i reoli materion treftadaeth ar ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080