Facebook Pixel

Technegydd pensaernïol

A elwir hefyd yn -

Technolegydd pensaernïol

Mae technegwyr pensaernïol yn arbenigo mewn cyflwyno dyluniadau adeiladu gan ddefnyddio technoleg. Maen nhw’n rhoi arweiniad technegol i gleientiaid ac yn cysylltu â thimau dylunio adeiladu i ddod â strwythurau newydd yn fyw. Fel technegydd pensaernïol, byddech yn gweithio gyda phenseiri i helpu i ddatblygu modelau adeiladu, cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£48000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i ddod yn dechnegydd pensaernïol

Mae sawl ffordd o ddod yn dechnegydd pensaernïol. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn dechnegydd pensaernïol, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallwch ddod yn dechnegydd pensaernïol neu’n dechnolegydd pensaernïol drwy gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd sylfaen mewn technoleg bensaernïol, neu mewn pwnc arall sy’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig. Dylai Sefydliad Siartredig y Technolegwyr Pensaernïol (CIAT) gymeradwyo eich cwrs,

Bydd arnoch angen 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer gradd sylfaen neu HND.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i ddod yn dechnegydd pensaernïol, fel Tystysgrif Lefel 3 mewn Dylunio 3D, Diploma Lefel 3 mewn Dylunio Amgylcheddau Adeiledig, neu lefel T mewn Dylunio, Tirfesur a Chynllunio.

Efallai y bydd angen y canlynol arnoch:

  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (lefel T).

Os oes gennych Ddiploma Genedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) perthnasol, efallai y bydd modd i chi gymhwyso’n llawn fel technolegydd pensaernïol siartredig. Efallai y bydd angen i hyfforddeion eraill gymhwyso fel technegydd pensaernïol yn gyntaf fel rhan o’u cynnydd i statws siartredig llawn.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth i ddod yn dechnegydd pensaernïol neu dechnolegydd pensaernïol.

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu neu bensaernïol yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech hyfforddi i fod yn dechnegydd peirianneg ddigidol neu ddilyn prentisiaeth uwch mewn dylunio ac amgylchedd adeiledig.

Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer uwch brentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni pensaernïol os oes gennych ddiddordeb neu brofiad blaenorol yn y math hwn o waith. Gallech ddechrau eich gyrfa fel cynorthwyydd pensaernïol a chwblhau cymwysterau yn rhan amser i’ch helpu i fod yn dechnegydd neu dechnolegydd pensaernïol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd pensaernïol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel technegydd pensaernïol:

  • Gallu i dynnu lluniad llawrydd
  • Sgiliau cyfrifiadurol
  • Sgiliau mathemategol cryf
  • Sgiliau trefnu cryf
  • Llygad dda am fanylion a dyluniad
  • Dealltwriaeth o dechnoleg adeiladu
  • Ymwybyddiaeth o sut y defnyddir adeiladau a gofod
  • Sgiliau cyfathrebu.

Beth mae technegydd pensaernïol yn ei wneud?

Mae technegydd pensaernïol yn gyfrifol am gefnogi prosiect pensaernïol o'r cysyniad hyd ei gwblhau. Mae’n helpu i ddarparu modelau adeiladu technegol, sy'n cael eu creu gan ddefnyddio technoleg gyfredol a dulliau traddodiadol.

Mae'r gwahanol ofynion ar dechnegydd pensaernïol yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys: 

  • Coladu a threfnu gwybodaeth am adeiladu technegol gan benseiri
  • Paratoi dyluniadau gan ddefnyddio meddalwedd CAD (dylunio â chymorth cyfrifiadur) a dulliau lluniadu traddodiadol
  • Ymweld â safleoedd
  • Ymchwilio a chynnig cyngor technegol ar ffactorau sy’n effeithio ar ddatblygiadau adeiladu, gan gynnwys anghenion defnyddwyr, arolygon safle ac adeiladau, a gofynion rheoliadol
  • Monitro dyluniadau ar gyfer iechyd a diogelwch a chyfrannu at asesiadau risg
  • Cydlynu gwybodaeth am ddyluniadau manwl
  • Paratoi manylebau ar gyfer gwaith adeiladu
  • Paratoi lluniadau, cynlluniau a dogfennau ar gyfer cymeradwyaeth statudol
  • Cael tendrau ar gyfer gwaith adeiladu
  • Paratoi ceisiadau i'w cymeradwyo gan gyrff rheoleiddio
  • Cyfrannu at gyfarfodydd a pharatoi dogfennau
  • Ymchwilio i brosesau dylunio newydd, deddfwriaeth adeiladu a thechnoleg.

Faint allech chi ei ennill fel technegydd pensaernïol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd pensaernïol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall technegwyr pensaernïol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £26,000
  • Gall technegwyr pensaernïol hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £26,000 - £35,000
  • Gall uwch dechnegwyr pensaernïol ennill £35,000 - £48,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr pensaernïol:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel technegydd pensaernïol, gallech symud ymlaen yn eich gyrfa i fod yn dechnolegydd pensaernïol, sy’n galw am ystod ychydig yn ehangach o sgiliau. Yn y rôl hon, byddwch yn cyfrannu mwy at y broses ddylunio ac adeiladu ac yn y gwaith o reoli contractau.

Gallech arbenigo mewn gweithio fel technegydd modelu gwybodaeth am adeiladu (BIM) neu barhau i astudio i fod yn bensaer cwbl gymwys.


Dyluniwyd y wefan gan S8080