Mae Mark Maguire yn deilsiwr waliau a lloriau dan hyfforddiant yn WB Simpsons.
Beth rydych yn ei wneud?
Rwy'n astudio teilsio waliau a lloriau yng Ngholeg De Birmingham ac yn gweithio yng Nghofentri i WB Simpsons, sef cwmni teilsio waliau a lloriau. Rwy'n cymysgu glud, yn gorchuddio waliau ag ef, yn gosod teils a growt. Rwy'n hoffi'r ffaith fy mod yn gallu edrych yn ôl ar ddiwedd y dydd a bod yn falch o'r hyn rwyf wedi ei wneud. Gallaf ddweud mai fi sy'n gyfrifol am y gwaith hwnnw.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Dewisais wneud prentisiaeth adeiladu am fod ffrind i'r teulu, sef perchennog y cwmni, wedi dweud wrthyf am bobl eraill a oedd wedi dilyn cwrs CITB ac wedi ennill NVQ o'i herwydd. Roedd gennyf ddiddordeb felly cefais y cyfle i ddilyn prentisiaeth. Cefais fy ysbrydoli am i mi gael y cyfle i ddysgu crefft a gweithio mewn tîm.
Beth yw'r prosiect gorau rydych wedi gweithio arno hyd yn hyn?
Rwy'n edrych ymlaen at weithio ar bwll hyfforddi Olympaidd ym Mryste.
Beth rydych yn ei hoffi am eich gwaith?
Mae gen i grefft nawr. Rwy'n hapus fy myd a gobeithio y byddaf yn gwneud hyn am weddill fy ngyrfa. Rwy'n falch fy mod yn gallu gwneud popeth, o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r tîm rwy'n gweithio ynddo yn dda oherwydd os bydd unrhyw broblemau'n codi byddwn yn cydweithio i'w datrys a chael ychydig o hwyl hefyd.
Eich uchelgais fawr?
Hoffwn redeg fy nghwmni llwyddiannus fy hun a chyflogi sawl prentis.
Rhowch gynnig ar ein Cwis Personoliaeth er mwyn gweld pa un o'r gyrfaoedd adeiladu niferus sy'n addas i chi.