Cloddiwr ar waith yn symud deunydd

Gweithredwyr peiriannau neu reolwyr peiriannau sy’n ‘cymryd y pwysau’ ym maes adeiladu (yn llythrennol): yn ogystal â chloddio, rholio a dymchwel. Canfyddwch beth yw dyletswyddau gweithredwyr peiriannau, a beth mae goruchwylio gweithrediadau peiriannau yn ei olygu.

 

Beth yw gweithredwr peiriannau?

Mae gweithredwyr peiriannau ar safleoedd adeiladu yn defnyddio peiriannau trwm i gloddio, codi a symud deunyddiau ar ac o amgylch safleoedd.

Mewn adeiladwaith, gelwir unrhyw fath o gerbyd peiriannol fel cloddiwr, craen, rholer, tarw dur neu gywasgydd yn ‘plant’. Gall gweithredwyr peiriannau neu reolwyr peiriannau yrru’r cerbydau neu oruchwylio eu defnydd ar y safle ac fel arfer arbenigo mewn un math o offer.

 

Beth yw cyfrifoldebau gweithredwyr peiriannau a rheolwyr peiriannau o ddydd i ddydd?

Gall gweithredwyr peiriannau newid tirweddau yn ddramatig neu osod strwythurau trawiadol mewn amser byr. Maent yn gweithio’n agos gyda gweddill y tîm peiriannau. Gan eu bod yn gyfrifol am beiriannau trymion a all fod yn beryglus, rhaid iddynt fod yn ymwybodol o arferion iechyd a diogelwch. Mae cyfrifoldebau gweithredwr a rheolwr peiriannau’n cynnwys:

Goruchwylio gweithrediadau peiriannau adeiladu

  • Defnyddio cloddwyr 180 a 360
  • Symud pridd â chloddwyr, teirw dur a thryciau dympio
  • Llwytho rhawiau
  • Gweithredu craeniau anferth a chyfathrebu ag arwyddwyr slingwr drwy ddefnyddio radio – gweithwyr ar y llawr sy’n arwain symudiadau gweithredwyr craen
  • Defnyddio rigiau seilbyst, pympiau concrit a ffyrc codi

Cynnal a chadw ac atgyweirio

  • Cynnal gwiriadau diogelwch a chadw peiriannau’n rhedeg yn gywir
  • Newid bwcedi ac atodiadau peiriannau eraill
  • Cynnal a chadw offer a sicrhau bod peiriannau’n cael eu gwasanaethau’n rheolaidd
  • Cynnal atgyweiriadau lle bo angen
  • Rhoi gwybod i oruchwylwyr am unrhyw ddiffygion

Cadw at iechyd a diogelwch

Mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol ar reolwyr peiriannau i ddarparu hyfforddiant iechyd a diogelwch digonol i weithredwyr peiriannau trymion. Rhaid i weithredwyr peiriannau yn eu tro gydymffurfio â’r holl fesurau diogelwch, gwisgo dillad diogelwch priodol a gofalu am eu hiechyd a diogelwch eu hunain a’u cydweithwyr.

Delio â chontractwyr a gwerthwyr

Mae gan reolwyr peiriannau a chydlynwyr peiriannau rôl fwy goruchwyliol, a thra byddant yn gweithredu peiriannau, bydd disgwyl iddynt hefyd ymdrin â llawer o’r gwaith gweinyddol sy’n digwydd ar y safle. Maent yn negodi cytundebau rhentu, yn delio â chwmnïau llogi, contractwyr a gwerthwyr, ac yn rheoli gwaith papur swyddogol y peiriannau.  

Cadw data a chofnodi cyffredinol

Mae angen i reolwyr peiriannau gadw cofnodion o beiriannau y maent yn berchen arnynt neu’n eu rhentu, a meddu ar ddealltwriaeth dda o gyllidebau a rhagolygon. Bydd disgwyl iddynt wneud rhagamcanion elw a cholled a chreu adroddiadau a thaenlenni.

 

Canfod mwy am yrfa fel gweithredwr peiriannau

Mae gweithio fel gweithredwr peiriannau yn gofyn am ystod o wahanol sgiliau, megis ymwybyddiaeth ofodol dda, sylw i fanylion, amynedd a’r gallu i weithio’n dda o fewn tîm. Byddwch yn gweithio ar safleoedd adeiladu swnllyd yn gwneud gwaith corfforol beichus, felly efallai na fydd at ddant pawb. Os ydych chi’n hoffi gweithio yn yr awyr agored ac â’ch dwylo, efallai mai dyma’r swydd i chi.

Ewch i Talentview i ddod o hyd i gyfleoedd i weithredwyr peiriannwyr

  • Gweld y swyddi gweigion diweddaraf i Weithredwyr Peiriannau ar Talentview