A group of women sitting around a table in a meeting room.

Mae dihareb Affricanaidd sy’n dweud ‘os am fynd yn gyflym, ewch eich hun. Os am fynd ymhell, ewch gyda’ch gilydd.’ Mae nifer o rwydweithiau ar gael yn y DU a thu hwnt sy’n cefnogi ymdrechion i gynyddu cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y diwydiant adeiladu.

 

BAME in Property

Mae BAME in Property yn helpu cwmnïau yn y diwydiant eiddo i fod yn fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, ymgynghoriaeth a gweithdai, mae cyflogwyr yn cael gweld sut gallant ddilyn polisïau recriwtio sy’n fwy amrywiol o ran ethnigrwydd, sut gallant gyrraedd ymgeiswyr o gefndiroedd ac ethnigrwydd sy’n cael eu tangynrychioli, a sut gallant gyfeirio darpar weithwyr at sefydliadau sydd wedi ymrwymo i feithrin diwylliannau cynhwysol.

Gan weithio’n agos gyda sefydliadau blaenllaw ym maes eiddo a chynllunio, mae BAME in Property yn hyrwyddo swyddi gwag diweddaraf y diwydiant ac yn sicrhau eu bod yn cael eu gweld gan ystod mor amrywiol â phosib o ymgeiswyr. Mae BAME in Property hefyd yn cynhyrchu adnoddau sy’n gallu cyfrannu at ei genhadaeth o wella amrywiaeth ethnig.

Os am fynd yn gyflym, ewch eich hun. Os am fynd ymhell, ewch gyda’ch gilydd.

African Proverb

BAME Planners Network

Mae BAME Planners Network, a sefydlwyd yn 2020, yn rhwydwaith proffesiynol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector cynllunio yn y DU ac Iwerddon. Ei nod yw cefnogi a chodi proffil cynllunwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac annog pobl o’r cymunedau hynny i ymuno â’r proffesiwn cynllunio. Mae’r rhwydwaith yn cynnal digwyddiadau rheolaidd i’w aelodau, fel cynadleddau bwrdd crwn a sesiynau mentora, yn cynnal arolygon amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cyhoeddus i gyflawni ei nodau.

Mae BAME Planners Network, sy’n llwyfan cyfeillgar ar gyfer ymgysylltu, cefnogi a meithrin gallu gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio, yn gymharol newydd. Ond mae eisoes wedi cyflawni llawer wrth geisio gwneud y sector yn fwy cynrychioliadol o’r gymdeithas ehangach a sicrhau newid mewn bylchau cyflog ac agweddau at amrywiaeth yn y proffesiwn.

 

BPIC Network

Mae gan BPIC Network, sydd wedi ymrwymo i wella amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, ethos o rymuso ac addysg. Mae’n hybu pwysigrwydd amrywiaeth a chynyddu cyfranogiad pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ym maes adeiladu, ac yn darparu atebion i gwmnïau sy’n ei chael hi’n anodd creu amgylcheddau gwaith amrywiol. Gall cyflogwyr elwa ar y gwasanaeth ymgynghori a gynigir gan BPIC Network, sy’n cynnwys asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, adolygiadau o brosesau a pholisïau caffael presennol, mentora ac archwiliadau mewn cysylltiad â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Bob blwyddyn, mae’r rhwydwaith yn cynnal Gwobrau BPIC, sy’n dathlu’r cynnydd y mae unigolion a sefydliadau’n ei wneud tuag at amrywiaeth ethnig yn y diwydiant adeiladu.

 

Paradigm                                                 

Mae Paradigm yn rhwydwaith amrywiaeth sydd wedi cael sylw gan Am Adeiladu o’r blaen – ac mae’n parhau i fod yn ffynhonnell bwysig iawn o gymorth proffesiynol i benseiri Du ac Asiaidd, a gweithwyr adeiladu proffesiynol eraill. Ei nod yw annog rhagor o amrywiaeth ym maes adeiladu drwy newid wyneb y diwydiant – yn llythrennol. Mae Paradigm yn bodoli i gefnogi a helpu penseiri talentog o gefndiroedd Du ac Asiaidd i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, drwy amrywiaeth o ddulliau. Drwy ddarparu modelau rôl i bobl ifanc sy’n ystyried pensaernïaeth ac adeiladu fel gyrfa, a hybu datblygiad arferion pensaernïol sy’n cael eu harwain gan Bobl Ddu ac Asiaidd, mae Paradigm am gynyddu cynrychiolaeth Du ac Asiaidd.

Mae aelodau’r pwyllgor yn cynnwys rhai o’r doniau mwyaf disglair ym maes pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig yn y DU heddiw, gan gynnwys Tara Gboladé, a ddywedodd wrth Am Adeiladu yn 2020: “Pan ydych chi’n dechrau astudio ym maes pensaernïaeth, dydych chi ddim yn gweld llawer iawn o bobl sy’n edrych fel chi. Mae llawer o aelodau Paradigm yn tynnu sylw at yr heriau maen nhw’n eu hwynebu pan nad oes ganddyn nhw’r system gymorth yn y proffesiwn – a dyna pam mae cael rhwydwaith sy’n hybu cynrychiolaeth BAME yn eithriadol o bwerus.”

 

NAMC

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Ethnig Leiafrifol (NAMC) yn gymdeithas fasnach yn yr Unol Daleithiau sy’n cynrychioli buddiannau gweithwyr adeiladu o gefndiroedd lleiafrifol yn yr Unol Daleithiau. Amcangyfrifir bod tua 25 miliwn yn dod o’r cymunedau Hisbanig, Latino, Affricanaidd-Americanaidd a chymunedau lleiafrifol eraill yn yr Unol Daleithiau, ac mae NAMC wedi rhoi llais i’r gweithwyr hyn ers sefydlu’r gymdeithas yn 1969. Mae’n cymryd rhan weithredol yn yr ymgyrch i roi diwedd ar anghydraddoldeb hiliol ac economaidd yn yr Unol Daleithiau, ac mae’n gweithio gyda’i gilydd drwy rwydwaith o benodau lleol i helpu aelodau i feithrin gallu drwy ddarparu mynediad at gyfleoedd, eiriolaeth a hyfforddiant datblygu contractwyr.

 

NOMA

Mae gan rwydwaith arall o America, Sefydliad Cenedlaethol Penseiri Ethnig Leiafrifol (NOMA), hanes cyfoethog o weithredu a meithrin cyfathrebu a chymrodoriaeth ymysg penseiri o gymunedau lleiafrifol yn yr Unol Daleithiau. Mae ei nodau a’i amcanion yn cynnwys rhoi rhwydwaith cymorth i weithwyr proffesiynol, siarad â llais cyffredin ar bolisi cyhoeddus ac ysbrydoli pobl ifanc o gefndiroedd lleiafrifol yn yr Unol Daleithiau i ddilyn gyrfa mewn pensaernïaeth.

Dysgwch fwy am sut mae’r diwydiant adeiladu’n dod yn fwy amrywiol

Dysgwch fwy am yr hyn y mae’r diwydiant adeiladu yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth ethnig yn y diwydiant, darllenwch am ferched llwyddiannus sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd ym maes adeiladu, a sut mae hanes, crefydd a phrofiad bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol yn amlwg mewn adeiladau hanesyddol.