Yng Nghaerdydd, maen nhw ar fin mynd â seilwaith gwyrdd i’r lefel nesaf.

Gyda chyfrifoldeb corfforaethol a datblygu cynaliadwy yn dod yn bwysicach yn y diwydiant adeiladu heddiw, mae’r ras yn mynd rhagddi i ddatblygu technegau adeiladu gwell. 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth â Phrifysgol Florida a Phrifysgol Indonesia i ymchwilio i sut y gall ardaloedd trefol mwy gwyrdd leihau effaith amgylcheddol adeiladau a dinasoedd, gwella’r drefn rheoli dŵr a hybu cynaliadwyedd.

Bydd y prosiect dwy flynedd, sy’n rhan o’r Fenter Arloesi Byd-eang, yn ymchwilio ac yn datblygu ffyrdd newydd o ‘adeiladu gyda natur’ y gellir ei ddefnyddio mewn gwahanol safleoedd. Mae Dr Andrea Frank, arweinydd prosiect Caerdydd yn yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth yn dweud fod seilwaith gwyrdd fel hyn yn ffordd o “weithio gyda byd natur a manteisio ar ei nodweddion, yn hytrach na brwydro yn ei erbyn.”

Gweithdai adeiladu cynaliadwy

Bydd prifysgolion partner yng Nghaerdydd, Jakarta a Florida yn cynnal gweithdai i ddod ag arbenigwyr ym meysydd adeiladu gwyrdd, modelu ynni, defnyddio dŵr, dylunio trefol a chynllunio at ei gilydd i rannu syniadau.

Galwodd Evan Ryan, Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol dros Faterion Addysgol a Diwylliannol, am gyfle i “ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol nid yn unig i’r Unol Daleithiau ac i Ewrop, ond hefyd i wledydd datblygol ledled y byd.”

Mae hyn yn debyg o barhau â rôl Cymru, a Chaerdydd yn enwedig, fel canolfan ar gyfer cynaliadwyedd a byw’n wyrdd yn y DU (Ffynhonnell: Wales Online)

Gweithio gyda natur

Mae coedwigaeth drefol yn enghraifft boblogaidd o’r math hwn o seilwaith gwyrdd. Mae plannu coed unigol a chlystyrau mwy o goedwigoedd mewn trefi a dinasoedd wedi arwain at effeithiau cadarnhaol ar reoli dŵr storm a rheoli tymheredd. Fe’i defnyddiwyd hefyd fel rhan o brosiectau i adfywio tir halogedig. 

Mae toeon gwyrdd yn ddull arall, lle mae toeau’n cael eu gorchuddio’n rhannol neu’n gyfan gwbl mewn llystyfiant. Mae hyn yn helpu i amsugno’r glaw tra’n gwella insiwleiddio. Fel coedwigaeth drefol, mae hefyd yn gallu helpu i ostwng y tymheredd mewn trefi a dinasoedd.

Yn sgil ei boblogrwydd cynyddol, mae mwy o ddarparwyr sgiliau adeiladu, fel Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn cynnig cymwysterau NVQ yn y pwnc

Adeiladu 2025

Mae’r datblygiadau hyn yn newyddion da i strategaeth Adeiladu 2025 y llywodraeth i gael diwydiant adeiladu carbon isel sy’n fwy gwyrdd. Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn effeithio ar bopeth o dechnegau adeiladu, i arferion ar y safle a’r gadwyn gyflenwi.

Wrth i bwysau i gyflawni targedau godi yn y diwydiant dros y 10 mlynedd nesaf, mae’n debyg y bydd mwy o alw am weithwyr sydd wedi cael hyfforddiant cynaliadwyedd. Mae’n debygol hefyd y bydd marchnadoedd newydd fel ôl-osod ynni yn dod yn bwysicach o lawer i gyflogwyr adeiladu.

Sgiliau cynaliadwyedd

Mae adeiladu’n faes cyffrous i weithio ynddo oherwydd mae wastad her newydd neu ffordd well o weithio yn ein cyrraedd. Mae cynaliadwyedd a dulliau mwy gwyrdd o adeiladu yn rhan bwysig o hyn. Mae safle Hyfforddiant Cynaliadwyedd yr Amgylchedd Adeiledig (BEST) yn adnodd defnyddiol ar gyfer hyfforddiant a gwybodaeth.