Y newid diwylliant yn y maes adeiladu
Dysgwch fwy am sut mae’r diwydiant adeiladu’n newid drwy arloesi.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o sylfeini'r diwydiant adeiladu. Efallai y bydd yn eich synnu, o ystyried y camsyniadau sy'n dal i fodoli, ynghylch pa mor amrywiol a chynhwysol yw adeiladu. Gall gwerthoedd hen ffasiwn barhau mewn rhai mannau, ond nid ydynt yn cyd-fynd â'r realiti.
Darganfyddwch straeon yr unigolion dawnus a medrus sy'n gwneud cymaint i wneud gwahaniaeth i amrywiaeth yn y gweithle a gwneud y diwydiant adeiladu yn un y mae croeso i bawb ynddo - waeth beth fo'u rhyw, hil, anabledd neu hunaniaeth rywiol.
O ba gefndir bynnag yr ydych, mae lle i chi yn y diwydiant adeiladu. Mae gweithlu amrywiol yn dod â manteision i'r cyflogai a'r cyflogwr. Dysgwch sut mae'r diwydiant adeiladu yn croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.