Amrywiaeth a diwylliant ym maes adeiladu
Dysgwch am rwydweithiau sy’n gweddnewid pethau o ran cynrychiolaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wrth ddylunio ac adeiladu’r amgylchedd adeiledig.
Yn wir, mae dros ddwy filiwn o bobl yn gweithio mewn gwahanol swyddi adeiladu, sy’n golygu mai dyma un o’r sectorau mwyaf yn y wlad, a’r un mwyaf amrywiol!
Mae cyflogwyr yn y DU yn defnyddio sgiliau pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd i fanteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau mewn technoleg a gwahanol ffyrdd o weithio.
Wrth i’r diwydiant esblygu, mae swyddi adeiladu a gweithleoedd wedi dod yn decach, yn gynhwysol ac yn fwy parchus, gyda chwmnïau’n canolbwyntio ar feithrin a chadw staff sy’n perfformio’n dda o bob cefndir.
Cafwyd canlyniadau trawiadol i ymchwil a wnaed gan Gyngor y Diwydiant Adeiladu i arferion gweithio yn y crefftau adeiladu:
Mae unigolion blaenllaw yn y diwydiant yn rhoi cydraddoldeb wrth galon eu busnes. Mae cyflogwyr yn chwilio am ffyrdd o greu gweithle cynhwysol er mwyn denu talent newydd, sicrhau bod staff yn hapus ac yn ymroddedig, a gwella cynhyrchiant. Ar ben hynny, mae rhai o gwsmeriaid mwyaf y diwydiant yn dewis cyflogi cwmnïau adeiladu gan fod ganddynt staff o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Cadwch lygad am gwmnïau sydd wedi cofrestru ar y cynlluniau canlynol sydd â’r nod o hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol:
Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cwmnïau adeiladu yn galw am dalent o grwpiau amrywiol i sicrhau bod y diwydiant yn gweld newidiadau cadarnhaol mewn diwylliant gwaith am flynyddoedd lawer.
Mae Pensaernïaeth yn ymwneud â dylunio a datblygu adeiladau ac amgylcheddau ar gyfer cymdeithas; mae’n effeithio ar y boblogaeth gyfan a dylai fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
Mae Accessing Architecture yn gyfres o dri chanllaw sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth ymarferol i bobl ag anableddau ar bob cam o’u gyrfa, o ystyried swydd pensaer, symud ymlaen drwy addysg bensaernïol, ac yna gweithio i gyflawni eu potensial yn y proffesiwn.