Hidlo yn ôl llythyren
Rhowch enw'r swydd neu'r rôl isod
Rhestr A - Y
-
360 excavator operator
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
A 360 excavator operator controls a large digging machine which sits on a rotating base, allowing them to pick up large amounts of earth or other materials, and move them anywhere within the vehicle’s radius. 360 excavator operators use these machines to clear ground for new developments such as housing or roads and may also dig foundations.
-
Amcangyfrifwr
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae amcangyfrifwr (neu beiriannydd costau) yn cyfrifo cost cyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau i gleient. Yn y bôn, maent yn gwneud yr holl symiau cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
-
Arbenigwr Adfer
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rôl Arbenigwyr Adfer yn ymwneud â thrin pridd a dŵr daear a'u dadhalogi.
-
Arbenigwr amlen adeilad
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Fel arbenigwr amlen adeilad, byddech yn gosod a thrwsio gorchuddion anadeileddol ar adeiladau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau fel pren, gwydr a metel.
-
Arbenigwr cynaliadwyedd
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Yn y diwydiant adeiladu, mae arbenigwyr cynaliadwyedd yn asesu ôl troed carbon prosiectau ac yn awgrymu ffyrdd i leihau’r effaith amgylcheddol ar y byd yn ehangach. Maent yn helpu busnesau i arbed arian a datblygu datblygiadau, wrth gadw llygaid ar y bobl a’r ecosystemau, ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol.
-
Archaeolegydd
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae archeolegwyr yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r gorffennol dynol trwy ddadorchuddio ac amddiffyn olion ac arteffactau. Bydd y rhain yn cael eu dadorchuddio’n aml ar safleoedd adeiladu a bydd archeolegwyr yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a gellir eu hychwanegu at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Fel archeolegydd, byddwch yn ymwneud â’r prosiect yn ystod y cyfnod cynllunio. Gallech gynnal ymchwil gychwynnol a gwaith cloddio archwiliadol cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau er mwyn diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.
-
Arolygwr offer
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr offer yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu cyfrifeg a’r gweithgareddau ariannol o ran ffatrïoedd offer. Fel arolygwr offer byddech yn asesu data er mwyn asesu perfformiad yr offer ac yn trosglwyddo’r darganfyddiadau i uwch reolwyr.
-
Arolygydd safle
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arolygwyr safle yn monitro'r holl waith a wneir ar safle adeiladu er mwyn sicrhau bod diogelwch a safonau yn cael eu cynnal.
-
Arolygydd/Archwilydd Cyfarpar Codi
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Fel y mae teitl y rôl yn awgrymu, mae gweithio yn y diwydiant adeiladu fel arolygydd cyfarpar codi yn cynnwys asesu, atgyweirio a gwasanaethu peiriannau codi.
-
Arweinydd / Rheolwr Anfon
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Arweinwyr/Rheolwyr Anfon sy'n gyfrifol am reoli'r broses o anfon archebion sydd wedi'u cwblhau o'r cyfleuster cynhyrchu neu'r warws i'r cwsmer, a hynny ar amser.
-
Arweinydd tîm/goruchwyliwr galwedigaethol
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arweinydd tîm neu oruchwyliwr galwedigaethol yn gyfrifol am grŵp o grefftwyr ar brosiect adeiladu.
-
Asbestos surveyor
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Asbestos surveyors inspect buildings and collect samples to determine the presence of asbestos. Asbestos is a mineral-based fibre which was once widely used for insulation, but is now banned due to health risks. Asbestos surveyors carry out tests and may recommend professional removal of dangerous materials before renovations or demolitions are carried out.
-
Asffaltwr mastig
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Caiff asffalt mastig ei wneud o gymysgedd o galchfaen a bitwmen. Caiff ei daenu ar safleoedd adeiladu gan asffaltwyr mastig er mwyn creu arwynebau caled, diddos.
-
Asiedydd
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae asiedwyr yn gweithio gyda phren er mwyn creu grisiau, drysau a ffenestri, dodrefn, ceginau, cypyrddau a gwaith pren mewnol.
-
Bancwr/Arwyddwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Bancwyr/Arwyddwyr yw llygaid a chlustiau gyrwyr cerbydau a gweithredwyr peiriannau. Mae bancwr yn gyfrifol am gyfarwyddo cerbydau sy'n symud ar safle neu'n agos ato. Mae'r rôl yn hollbwysig o ran sicrhau iechyd a diogelwch ar y safle a darparu systemau gwaith diogel.
-
Bench joiner
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
A bench joiner works offsite, cutting wood and timber to required lengths for building projects. They may work for a builders’ merchant or inside a workshop, making structures to be assembled onsite such as door or window fittings, timber frame buildings and more.
-
Briciwr
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae bricwyr yn gosod brics, cerrig wedi'u torri, blociau concrid a mathau eraill o flociau adeiladu mewn morter er mwyn adeiladu a thrwsio waliau, sylfeini, parwydydd, bwâu a strwythurau eraill.
-
Carpet fitter
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Carpet fitters lay carpets and vinyl floor coverings in homes and business premises. As a carpet fitter, you’d measure up rooms, stairs, and hallways, estimate the materials needed for the job, and install the floor covering onsite, cutting it to fit and securing it.
-
Clerc gwaith
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae clerc gwaith yn arolygu crefftwaith, ansawdd a diogelwch gwaith ar safleoedd adeiladu ac yn adrodd am hynny i uwch reolwyr a chleientiaid. Fel clerc gwaith, byddech yn cynnal archwiliadau rheolaidd o safleoedd ac yn gwirio bod cynlluniau adeiladu yn cael eu dilyn yn gywir. Byddech yn gwirio bod gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â'r manylebau cywir a’r safonau cyfreithiol, diogelwch ac amgylcheddol.
-
Codwr dur
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae codwyr dur yn creu sgerbwd cadarn adeilad neu strwythur dros dro drwy osod a glynu hytrawstiau dur, pibellau a thrawstiau.
-
Contractwr / is-gontractwr hunangyflogedig
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae contractwr neu is-gontractwr hunangyflogedig yn rhedeg ei fusnes adeiladu ei hun.
-
Contractwr Geodechnegol
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Contractwr Geodechnegol yn fath o Beiriannydd Sifil sy'n canolbwyntio ar sylfeini adeiladau.
-
Cydgysylltydd CSR
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn gweithredu fel ‘cydwybod’ cwmni, yn codi llais ac yn datblygu’r ochr foesegol, ecogyfeillgar ac ymwybyddiaeth gymdeithasol cwmni. Mae’r swydd yn cynnwys creu cysylltiadau rhwng busnes a chymuned, yn cynyddu ymwybyddiaeth gadarnhaol o ymrwymiad sefydliad i gyfrifoldeb cymdeithasol cynaliadwy.
-
Cydgysylltydd Gwasanaethau Cymorth Peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Cydgysylltwyr Gwasanaethau Cymorth Peiriannau yn gyfrifol am gydgysylltu symudiadau tîm o beirianwyr er mwyn cynnal ymweliadau â safleoedd ac edrych ar beiriannau.
-
Cydgysylltydd Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Cydgysylltydd Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus yn gyfrifol am reoli enw da cwmni, gan ddylanwadau ar farn ac ymddygiad drwy sianelau cyfathrebu amrywiol.
-
Cyfarwyddwr adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cyfarwyddwyr adeiladu yn gyfrifol am fonitro gwaith ar brosiectau adeiladu. Maent yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau'n brydlon ac o fewn y gyllideb, i’r safon a ddisgwylir o’r cwmni. Mae cyfarwyddwyr adeiladu yn rheoli amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i uwch gydweithwyr a'u timau, er mwyn sicrhau fod pob cam o'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau yn ôl y bwriad.
-
Cyfarwyddwr prosiect
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan gyfarwyddwyr prosiect gyfrifoldeb cyffredinol am gwblhau prosiectau adeiladu yn llwyddiannus. Maent yn goruchwylio rheolwyr prosiect, sy'n cydlynu timau i sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb, i safon uchel. Mae cyfarwyddwyr prosiect yn darparu arweinyddiaeth i reoli risg yn strategol, monitro cyllid a sicrhau fod pob cam o'r gwaith yn cael ei ddechrau neu ei gwblhau yn brydlon.
-
Cyfrifydd
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae staff cyfrifeg a chyllid yn cadw golwg ar yr arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o fusnes. Fel cyfrifydd, gallech fod yn paratoi cofnodion ariannol er mwyn eu cyflwyno a’u harchwilio, a goruchwylio cyflwyniadau treth a TAW, a chyflogau. Mae llawer o gyfrifwyr yn gweithio ar draws ystod o wahanol ddiwydiannau, ac mae eraill yn arbenigo mewn sector penodol.
-
Cynghorydd Amgylcheddol
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae ymgynghorydd amgylcheddol yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau a thargedau amgylcheddol. Maent yn cynllunio’n strategol ffyrdd o gadw llygriad llygredd aer neu ddŵr a phridd yn isel, lleihau gwastraff deunyddiau a sicrhau bod unrhyw wastraff angenrheidiol yn cael ei waredu yn y modd cywir.
-
Cynghorydd Cyfreithiol
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Caiff Cynghorwyr Cyfreithiol eu cyflogi gan gwmnïau mawr i roi cyngor ar faterion cyfreithiol.
-
Cynghorydd Diogelwch, Iechyd, Yr Amgylchedd Ac Ansawdd (SHEQ)
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Cynghorwyr SHEQ yn rhoi cyngor ac arweiniad ar bob mater sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd ac ansawdd o fewn sefydliad.
-
Cynghorydd Gwerthu
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
O drafod telerau â chwsmeriaid i gwblhau gwaith gweinyddol, Cynghorwyr Gwerthu sy'n gyfrifol am y broses o werthu eiddo ar y safle.
-
Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr proffesiynol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn helpu i ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu polisïau a gweithdrefnau.
-
Cynghorydd Trawsgludo
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynghorydd trawsgludo yn gyfrifol am reoli'r broses o drosglwyddo perchenogaeth eiddo o un perchennog (a allai fod yn unigolyn neu'n fusnes) i un arall.
-
Cynllunydd
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynllunwyr yn creu rhaglenni o'r holl waith sydd ei angen ar brosiectau adeiladu mawr a gweithgareddau uniongyrchol. Fel cynllunydd, byddwch yn goruchwylio logisteg, yn trefnu gweithwyr, yn rheoli cyllidebau ac yn sicrhau fod y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â'r amserlen. Byddwch yn cydweithio'n agos ag amcangyfrifwyr, peirianwyr, syrfewyr a phenseiri i gadw prosiectau ar y trywydd iawn a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
-
Cynllunydd Adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Cynllunydd sydd ag un o'r swyddi pwysicaf yn y diwydiant adeiladu – penderfynu ar y dulliau gorau o fynd i'r afael â phrosiect a'r drefn fwyaf effeithlon ar gyfer gwneud y gwaith.
-
Cynllunydd Tref
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynllunydd tref yn rheoli'r gwaith o ddatblygu dinasoedd, trefi a chefn gwlad. Maent yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn gweithio'n dda gyda'r amgylchedd adeiledig er mwyn creu cymunedau cynaliadwy.
-
Cynllunydd Tref (Prif)
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae prif gynllunwyr yn cymryd rôl arweiniol wrth warchod a datblygu ein dinasoedd, trefi a chefn gwlad. Maent yn sicrhau bod ein hamgylcheddau naturiol ac adeiledig yn cydweithio er mwyn creu cymunedau cynaliadwy ac amrywiol.
-
Cynorthwyydd Cyfreithiol
Mae cyflogau oddeutu £26,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Caiff cynghorwyr cyfreithiol eu cyflogi gan gwmnïau mawr i roi cyngor ar faterion cyfreithiol.
-
Cynorthwyydd cyfrifon
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynorthwywyr cyfrifon yn helpu i gadw llygad ar yr arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o fusnes. Fel cynorthwyydd cyfrifon, byddwch yn rhoi cefnogaeth cadw cyfrifon a gweinyddol i staff cadw cyfrifon a chyllid i sicrhau bod cyfrifon cwsmeriaid a chyflenwyr yn gywir; derbyn, prosesu a ffeilio gwaith papur; a rheoli trafodiadau arian mân.
-
Dadansoddwr Cymorth TG
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae dadansoddwr cymorth TG yn datrys problemau gyda rhaglenni a systemau cyfrifiadurol ac yn canfod datrysiadau TG i wella gweithrediadau, effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnes
-
Darlithydd
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae darlithwyr addysg uwch yn addysgu oedolion ac yn gwneud gwaith ymchwil mewn prifysgolion a rhai colegau.
-
Darlithydd addysg uwch (AU)
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae darlithwyr addysg uwch yn gwneud ymchwil ac yn dysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant adeiladu mewn prifysgolion a cholegau addysg uwch. Fel darlithydd mewn maes sy’n berthnasol i adeiladu byddwch yn arbenigo mewn un maes ymchwil penodol megis pensaernïaeth, peirianneg, busnes a rheoli, cynllunio, syrfeo a mwy.
-
Delweddwr 3D
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae delweddwyr 3D yn dod â syniadau penseiri’n fyw drwy gymryd cynlluniau, darluniau pensaernïol a deunyddiau cyfeirio eraill a'u defnyddio i greu delweddau neu animeiddiadau 3D ffoto-realistig o adeiladau a datblygiadau arfaethedig. Fel delweddwr 3D, bydd angen i chi fod yn greadigol ac yn dechnegol eich meddwl er mwyn modelu adeiladau arfaethedig a fydd yn gweithio’n dda yn ogystal ag edrych yn dda.
-
Dodrefnwr siopau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Defnyddir y term gosodwr siopau yn y sector contractio mewnol i nodi beth yw ansawdd y crefftwr a fydd yn gweithio ar brosiect penodol.
-
Domestic energy assessor
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Domestic energy assessors calculate the energy efficiency of homes, apartments and other domestic buildings.
-
Ecolegydd
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae ecolegydd yn gyfrifol am astudio'r anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw mewn amgylchedd penodol, ac adrodd ar effeithiau tebygol unrhyw waith adeiladu arfaethedig. Bydd y rôl hon hefyd yn cynnwys gwneud argymhellion ar faterion amgylcheddol.
-
Economegydd
Mae cyflogau oddeutu £85,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae economegydd yn gyfrifol am astudio data ac ystadegau cymhleth a'u defnyddio i lunio rhagfynegiadau o dueddiadau'r dyfodol. Gellir defnyddio hyn i bennu gofynion o ran hyfforddi neu fuddsoddi, neu i asesu dichonolrwydd prosiect arfaethedig.
-
Electrical distribution worker
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Electrical distribution workers are responsible for the maintenance of power lines that connect buildings to the national grid.
-
Electrical project manager
Mae cyflogau oddeutu £75,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Electrical project managers oversee the installation of electrical systems and supply of electricity to homes, businesses and infrastructure, such as roads or power stations.
-
Electrical tester
Mae cyflogau oddeutu £36,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Electrical testers survey, test and inspect electrical installations in homes and businesses. They identify faults and complete test reports to confirm which equipment is working safely and efficiently and which are condemned as unsafe to use.
-
Energy manager
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Energy managers ensure organisations meet their energy, carbon and water reduction responsibilities.
-
Ffurfweithiwr
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae ffurfweithwyr yn gwneud strwythurau dros dro allan o bren neu fetal at ddiben mowldio concrid.
-
Fibre optic technician
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Fibre optic technicians maintain digital and fibre optic systems and install broadband internet and phone networks.
-
Finishing foreman
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
A finishing foreman works with managers, contractors and other onsite workers to ensure construction jobs are successfully completed on time, within budget, and finished to the standard and specification agreed with the client.
-
Goods in Manager
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Goods In Managers are responsible for managing the in-bound process of receiving goods and materials into a facility.
-
Gorffennwr Concrid
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Gorffenwyr Concrid yn llyfnhau ac yn gorffen arwynebau agored lloriau a strwythurau eraill concrid sydd wedi'u gwneud o goncrid wedi'i arllwys.
-
Goruchwyliwr Craeniau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Goruchwylwyr Craeniau yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau codi a dilyn y cynllun codi sydd wedi'i baratoi gan yr Unigolyn Penodedig.
-
Goruchwyliwr Gwaith Galwedigaethol
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Goruchwyliwr Gwaith Galwedigaethol yn ymgymryd â rôl arweiniol ar y safle, gan oruchwylio a chyfarwyddo gweithrediadau ar brosiect adeiladu er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau yn ddiogel, ar amser ac yn unol â'r gyllideb.
-
Gosod Dalennau Plwm / Gwaith Plwm
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Caiff gwaith Gosod Dalennau Plwm/Gwaith Plwm ei wneud gan Dowyr sy'n arbenigo mewn gwaith gosod dalennau plwm ar amrywiaeth o adeiladau, o dai domestig i eglwysi, eglwysi cadeiriol a strwythurau rhestredig.
-
Gosodwr ceginau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ceginau yn gosod ceginau cyfan yng nghartrefi pobl ac mewn eiddo masnachol a gweithleoedd. Maent yn mesur ac yn cydosod pob uned cegin, ac yn torri a gosod wynebau gweithio gan gynnwys cornisau a phlinthau.
-
Gosodwr deunydd selio
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr deunydd selio yn selio uniadau i sicrhau fod adeilad yn aerdyn ac yn dal dŵr. Fel gosodwr deunydd selio, gallech fod yn selio fframiau drysau a ffenestri, ffasadau adeiladau, neu faddonau a sinciau. Gallech hefyd fod yn gwneud gwaith bondio strwythurau, megis selio gwydr i wydr.
-
Gosodwr diogelwch tân
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan osodwr diogelwch tân rôl bwysig mewn sicrhau fod adeiladau wedi’u hinsiwleiddio ac wedi’u gwarchod yn strwythurol rhag risg tân. Gall hyn gynnwys gosod fframiau gwarchodol, waliau a nenfydau gwrth-dân, a gosod triniaethau gwrth-dân, yn benodol ar adeiladau treftadaeth.
-
Gosodwr dur
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr dur yn defnyddio bariau a rhwyllau dur mewn concrid wedi'i atgyfnerthu i gryfhau adeiladau a strwythurau mawr eraill.
-
Gosodwr Gwasanaeth Nwy
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
O adeiladau newydd i sawl safle cymhleth, mae gosodwyr gwasanaethau nwy yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan osod gwasanaethau nwy.
-
Gosodwr Lloriau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Gosodwr Lloriau yn grefftwr hyfforddedig a medrus sy'n gosod gorchuddion a gorffeniadau llawr.
-
Gosodwr lloriau mynediad
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr lloriau mynediad yn gosod lloriau uchel drwy ddefnyddio offer a thechnegau arbenigol. Gallai hyn gynnwys gosod lloriau uchel yn unrhyw le lle mae eu hangen ‒ o dai i glybiau nos ac o feysydd awyr i swyddfeydd.
-
Gosodwr nenfwd
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr nenfwd yn gosod nenfydau crog. Fel gosodwr nenfwd, byddwch yn helpu i guddio a diogelu deunyddiau salw a pheryglus o bosibl fel gwifrau, pibellwaith, a systemau gwresogi ac awyru.
-
Gosodwr ystafelloedd gwely
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ystafelloedd gwely yn gosod dodrefn ystafelloedd gwely, gan gynnwys dodrefn fflatpac ac unedau a adeiladir yn bwrpasol.
-
Gosodwr ystafelloedd ymolchi
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ystafelloedd ymolchi yn gosod holl elfennau ystafelloedd ymolchi gan gynnwys cawodydd, baddonau, sinciau, toiledau ac unedau storio. Mae llawer o osodwyr ystafelloedd ymolchi yn gweithio fel rhan o dîm, sy'n cynnwys arbenigwyr. Felly, gallech fod yn tynnu hen unedau, gosod rhai newydd, gosod lloriau, plastro neu deilsio waliau, paentio ac addurno, plymio neu hyd yn oed gwneud gwaith trydanwr.
-
Gweinyddwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweinyddwyr yn helpu i redeg swyddfeydd yn ddidrafferth trwy gyflawni tasgau clerigol a phrosiectau. Fel gweinyddwr yn y diwydiant adeiladu, gallech fod yn trefnu cyfarfodydd prosiectau. Byddech yn teipio dogfennau, yn ymateb i ymholiadau busnes, yn llunio contractau ac yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn debygol o fod yn prosesu llawer o wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur, felly bydd angen sgiliau TG cryf arnoch. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd yn bwysig, er mwyn sicrhau bod y swyddfa'n gweithredu'n effeithlon. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa fel gweinyddwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau.
-
Gweithiwr atal drafftiau
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithiwr atal drafftiau’n sicrhau bod adeiladau wedi’u fentio tra hefyd yn cadw gwres. Maent yn ceisio cynnal defnydd egni effeithlon trwy sicrhau nad oes egni’n cael ei wastraffu mewn adeilad oherwydd gollyngiadau mewn ffenestri a drysau allanol, ac felly’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
-
Gweithiwr atal lleithder
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae lleithder yn achosi problemau difrifol i adeiladau a gall beryglu iechyd pobl. Fel gweithiwr atal lleithder, byddech yn atal lleithder rhag treiddio i mewn i adeiladau o'r ddaear, a thrwy waliau a chraciau. Gallech fod yn gosod cynhyrchion atal lleithder ac yn diogelu brics a phren. Efallai y byddwch hefyd yn atgyweirio difrod strwythurol a bydd angen deall systemau draenio ac awyru.
-
Gweithiwr leinin sych
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr leinin sych yn creu waliau ac ystafelloedd mewn adeiladau. Maent yn defnyddio plastrfwrdd i guddio pibellau a gwifrau, yn creu lle ar gyfer deunydd inswleiddio ac yn llyfnhau arwynebau anwastad yn ystod gwaith adnewyddu. Gallent adeiladu nenfydau crog, lloriau wedi’u codi, a darparu deunyddiau gwrthsain arbenigol. Mae'r rôl yn cynnwys mesur, torri a gosod plastrfwrdd (atgyweirio), a selio uniadau rhwng byrddau i lyfnhau'r ymylon (gorffen).
-
Gweithiwr Tynnu Asbestos
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Gweithiwr Tynnu Asbestos yn ymgymryd â thynnu'n ddiogel ddeunyddiau y ceir eu bod yn cynnwys Asbestos a all ddod o unrhyw le, gan gynnwys safleoedd diwydiannol, siopau/swyddfeydd a hyd yn oed cartrefi pobl. Mae'r gwaith hwn ledled y DU ac mae'n darparu cyfleoedd i deithio yn ogystal â chyfle i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector.
-
Gweithredwr Adeiladu Cyffredinol (Gweithiwr Daear)
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwr adeiladu cyffredinol (neu labrwr) yn gwneud llawer o bethau ar safle adeiladu, o gymysgu concrid i balu tyllau.
-
Gweithredwr CAD
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) yn defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i gynhyrchu lluniadau 2D a 3D ar gyfer prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu. Fel gweithredwr CAD, efallai y byddwch yn dylunio adeiladau, peirianwaith neu gydrannau. Byddech yn cymryd gwybodaeth gymhleth ac yn ei defnyddio i gynhyrchu diagramau adeiladu technegol ar gyfer penseiri, peirianwyr a gweithredwyr adeiladu eraill.
-
Gweithredwr Craeniau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Gweithredwyr Craeniau yn gweithredu amrywiaeth o beiriannau er mwyn codi a symud deunyddiau, cyfarpar neu gynnyrch yn ddiogel ac yn effeithlon.
-
Gweithredwr cynnal a chadw
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr cynnal a chadw yn cadw adeiladau mewn cyflwr gweithredol da drwy wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyffredinol.
-
Gweithredwr cynnal a chadw priffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr cynnal a chadw priffyrdd yn helpu i sicrhau bod ffyrdd, palmentydd a rhwydweithiau traffyrdd yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
-
Gweithredwr drilio diemwnt
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan weithredwyr llifio a drilio diemwnt un o'r rolau mwyaf medrus ac arbenigol yn y diwydiant adeiladu - torri drwy'r deunyddiau caletaf ar safle adeiladu.
-
Gweithredwr drilio tir
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Pan fydd angen archwilio'r ddaear ar safle adeiladu, anfonir am weithredwr drilio tir.
-
Gweithredwr dymchwel
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr dymchwel yn datgymalu adeiladau a strwythurau peryglus neu hynafol. Maent yn tynnu ffitiadau, deunyddiau peryglus ac yn achub unrhyw beth y gellir ei ail-ddefnyddio, cyn defnyddio offer, peiriannau neu ffrwydron i ddymchwel strwythur.
-
Gweithredwr peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr peiriannau'n defnyddio peiriannau trwm i gloddio, codi a symud deunyddiau ar safleoedd adeiladu. Gallant newid tirweddau yn ddramatig neu osod strwythurau trawiadol o fewn amser byr. Mae gweithredwyr peiriannau fel arfer yn arbenigo mewn un math o gyfarpar, megis turiwr neu graen anferth, ac mae angen ymwybyddiaeth ofodol dda arnynt i symud peiriannau ar raddfa fawr.
-
Gweithredwr pyst sylfaen
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr pyst sylfaen yn gyrru colofnau pren, dur neu goncrid i mewn i'r ddaear er mwyn cynnal strwythurau fel adeiladau, pontydd a glanfeydd.
-
Gweithredwr Toeau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr toeau yn gweithio ar haenau amddiffynnol adeilad sy'n diogelu'r tu mewn rhag yr elfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, dulliau a strwythurau.
-
Gweithredwr twneli leinin concrid wedi'i chwistrellu
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr twneli leinin concrid wedi'i chwistrellu yn defnyddio cyfarpar pwrpasol ileinio twneli â choncrid wedi'i chwistrellu.
-
Gweithredwr twnelu
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Gweithredwyr twnelu sy'n adeiladu'r twneli tanddaearol sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau fel rheilffyrdd a gwaith dŵr.
-
Gweithredwyr paredau
Mae cyflogau oddeutu £24,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwr paredau yn rhannu adeilad yn bob math o ofodau y tu mewn.
-
Gwneuthurwr weldio
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gwneuthurwyr weldio yn torri, uno a siapio metel a deunyddiau eraill, gan ddefnyddio gwres ac amrywiaeth o offer. Mae gofyn am wneuthurwyr weldio ar brosiectau adeiladu o bob maint, i wneud unrhyw beth o drwsio peiriannau i adeiladu pontydd. Gall weldwyr helpu i adeiladu’r fframiau dur ar gyfer adeiladau, cefnogi prosiectau diwydiannol, neu hyd yn oed weithio o dan ddŵr ar rigiau olew.
-
Gwydrwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gwydrwr yn mesur, gosod a newid gwahanol fathau o wydr mewn pob math o adeilad a strwythur.
-
Gyrrwr Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV)
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gyrwyr HGV yn cludo nwyddau rhwng lleoliadau. Maent yn symud eitemau ar gyfer cyflenwyr a chwsmeriaid, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Fel gyrrwr lori, byddwch yn treulio llawer o amser ar y ffordd a gallech fod oddi cartref yn aml. Byddwch yn cynllunio amserlenni dosbarthu ac yn sicrhau fod llwythi yn cael eu danfon yn brydlon i'r lleoliadau cywir.
-
Gyrrwr rig
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gyrwyr rig yn gweithredu offer adeiladu er mwyn gyrru colofnau o bren, dur neu goncrid yn y ddaear i gynnal adeiladau, pontydd, pierau a strwythurau eraill.
-
Gyrrwr Siyntiwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Gyrwyr Siyntwyr sy'n gyfrifol am symud cerbydau trwm yn ddiogel ar y safle.
-
Gyrrwr Wagen Fforch Godi
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Gyrwyr Wagenni Fforch Godi yn symud llwythi rhwng gwahanol leoliadau.
-
Heating, ventilation and air conditioning (HVAC) engineer
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Heating, ventilation and air conditioning (HVAC) engineers install and service air quality and temperature systems in homes, businesses and transport.
-
Hyfforddwr / aseswr / tiwtor
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae hyfforddwyr / aseswyr / tiwtoriaid Addysg Bellach (AB) yn addysgu sgiliau a theori adeiladu i oedolion a phobl ifanc dros 16 oed.
-
Inswleiddiwr Waliau Dwbl
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae inswleiddwyr waliau dwbl yn gosod deunyddiau inswleiddio mewn adeiladau, fel diogelu rhag lleithder, inswleiddio lloftydd ac inswleiddio waliau dwbl.
-
Interior designer
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Interior designers work with clients to create inside spaces that are functional and attractive. They help to plan the layout and decor of building interiors, and may work with contractors to bring their designs to life.
-
Land and property valuer
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Land and property valuers give professional advice to individuals and businesses who buy, sell, and rent land and property. They estimate the market value of land, buildings, and real estate, to help their clients maximise their profit from a sale or rental agreement.
-
Lifting equipment operator
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Lifting equipment operators use machinery such as cherry pickers, forklift trucks, scissor lifts, suspension equipment, telehandlers, and suspension equipment to lift and hoist heavy loads.
-
Mecanydd peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae mecanyddion peiriannau yn trwsio ac yn cynnal a chadw'r peiriannau anferth ar safleoedd adeiladu, gan gynnwys cymysgwyr concrid, cloddwyr, symudwyr pridd, craeniau, teirw dur a lorïau dadlwytho.
-
Modelwr CAD
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegydd CAD yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadur i greu cynlluniau dylunio 2D neu 3D ar gyfer adeiladau neu brosiectau peirianneg sifil strwythurol. Mae hon yn yrfa lle mae angen dawn greadigol yn ogystal â sgiliau technegol.
-
Peintiwr ac Addurnwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae paentwyr ac addurnwyr yn dod â lleoedd bob dydd yn fyw. Maent yn paratoi ac yn gosod paent, papur wal a gorffeniadau eraill ar arwynebau, dan do ac yn yr awyr agored. Fel paentiwr ac addurnwr, bydd galw mawr amdanoch. Gallech chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid prosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol, neu arbenigo mewn adnewyddu neu gynnal a chadw adeiladau treftadaeth.
-
Peiriannydd amgylcheddol
Mae cyflogau oddeutu £90,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianneg amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod yr amgylchedd trwy leihau gwastraff a llygredd. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol, yn helpu i ddatblygu adnoddau egni adnewyddadwy a defnyddio mwy o ddeunyddiau sy’n bodoli’n barod. Maent yn dylunio technolegau a phrosesau sy’n rheoli llygredd ac yn glanhau llygriad.
-
Peiriannydd Awyru Twneli
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Peirianwyr Awyru Twneli yn cynllunio, dylunio a hwyluso systemau awyru mewn prosiectau twnelu.
-
Peiriannydd Contractau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Rôl y peiriannydd contractau yw datblygu cynigion a chontractau er mwyn sicrhau bod y prosiect yn diwallu anghenion y cwsmer. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud fel y cytunwyd arno yn y contract.
-
Peiriannydd dargludydd mellt
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr dargludydd mellt yn sicrhau nad yw adeiladau a strwythurau eraill yn mynd ar dân os bydd mellt yn eu taro.
-
Peiriannydd deunyddiau
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr deunyddiau yn cyrchu, profi ac yn asesu'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu. Maent yn sicrhau bod sylfeini a deunyddiau adeiladu yn addas ac yn cynnig cyfarwyddyd ar y deunyddiau gorau i'w defnyddio ar gyfer prosiect, yn seiliedig ar eu priodweddau unigol, costau prosiect ac amserlenni.
-
Peiriannydd Draenio
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peiriannydd draenio yn gyfrifol am gynllunio systemau sy'n symud dŵr neu garthffosiaeth o un lle i'r llall, mor ddiogel ac effeithlon â phosibl. Mae'n rôl hynod dechnegol sy'n cynnwys defnyddio cyfarpar modelu cyfrifiadurol soffistigedig.
-
Peiriannydd geodechnegol
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peiriannydd geodechnegol yn dadansoddi pridd, creigiau, dŵr daear a deunyddiau tir eraill cyn i brosiectau adeiladu mawr ddechrau. Mae'n edrych ar y risg o beryglon daearegol ac yn gwneud yn siŵr bod unrhyw ffactorau sy'n effeithio ar waith peirianneg yn cael eu nodi a'u rheoli.
-
Peiriannydd Gosod Allan
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr gosod yn defnyddio cynlluniau safleoedd, technoleg ac offerynnau manwl cywir i nodi a marcio nodweddion strwythurol uwchlaw ac o dan y ddaear cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Maent yn defnyddio marcwyr clir i nodi ble mae strwythurau'n mynd i gael eu gosod, gan gynnwys mynediad ffyrdd, sylfeini, nwy, cyfleusterau trydan a dŵr, a systemau draenio. Maent yn sicrhau fod gweithwyr ar y safle yn cadw at y marciau hyn.
-
Peiriannydd gwasanaethau adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr gwasanaethau adeiladu’n gosod, yn cynnal a chadw ac, yn aml, yn dylunio’r systemau sy’n gwneud adeiladau’n ddiogel, yn gyfleus ac yn gyfforddus. Fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu, gallech fod yn gosod neu’n gwasanaethu cyfarpar mewn adeiladau megis swyddfeydd, ysbytai neu ganolfannau siopa.
-
Peiriannydd Peiriannau a Rhannau Mecanyddol
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Peirianwyr Peiriannau a Rhannau Mecanyddol yn dylunio, gosod ac atgyweirio peiriannau a rhannau peiriannau.
-
Peiriannydd pren
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr pren yn gyfrifol am drosi lluniadau yn gydrannau drwy ddefnyddio peiriannau i brosesu pren yn gywir ac yn effeithlon.
-
Peiriannydd priffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr priffyrdd yn sicrhau bod y miloedd o filltiroedd o ffyrdd a geir ledled Prydain mewn cyflwr da – ac yn helpu i adeiladu rhai newydd lle bo angen.
-
Peiriannydd Prosesau Niwclear
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr prosesau niwclear yn gyfrifol am ddylunio a rheoli'r broses o redeg gorsafoedd ynni niwclear mewn ffordd ddiogel a chynhyrchiol.
-
Peiriannydd Rhannau Twneli
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr rhannau twneli yn cynllunio ac yn rhaglennu gwaith ar gyfer amrywiaeth o brosiectau rhannau twneli.
-
Peiriannydd sifil
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, dylunio a rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth a strwythurau mawr eraill. Maent yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau i greu glasbrintiau prosiect. Mae'r cynlluniau hyn yn cynghori contractwyr ar y ffordd orau o weithredu ac yn helpu i leihau effaith a risg amgylcheddol.
-
Peiriannydd simnai
Mae cyflogau oddeutu £20,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr simnai yn gosod a chynnal a chadw simnai a systemau ffliw mewn cytundeb â deddfwriaethau a rheoliadau adeiladu presennol. Fel peiriannydd simnai, byddwch angen dilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym, gan y gallech fod yn gweithio ar uchder, gyda chefnogaeth harnais ac offer amddiffynnol.
-
Peiriannydd strwythurol
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr strwythurol yn sicrhau y gall strwythurau wrthsefyll y straen a'r pwysau a roddir arnynt gan ddefnydd a'r amgylchedd. Maent yn cyfrifo sefydlogrwydd, cryfder ac anhyblygrwydd ac yn sicrhau fod y deunyddiau cywir yn cael eu defnyddio ar gyfer pob prosiect, p’un a yw'n adeilad newydd, yn addasiad neu'n waith adnewyddu. Fel peiriannydd strwythurol, gallech weithio ar brosiectau preswyl, siopau a swyddfeydd, pontydd a rigiau ar y môr, theatrau, amgueddfeydd ac ysbytai, neu hyd yn oed loerennau gofod.
-
Peiriannydd Systemau Rheilffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Peirianwyr Systemau Rheilffyrdd yn dylunio prosiectau rheilffyrdd ac yn rhoi gwybodaeth arbenigol a thechnegol sy'n ymwneud â'u peirianneg.
-
Peiriannydd trydanol
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, datblygu a chynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Maent yn gweithio o fewn ac ar draws sawl diwydiant, megis adeiladu, trafnidiaeth, ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy), gwasanaethau adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae peirianwyr trydanol angen dealltwriaeth dda o wyddor peirianneg, a meddu ar sgiliau mathemateg a chyfrifiadurol cryf.
-
Peiriannydd weldio
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr weldio yn weldwyr hyfforddedig sy’n gweithio ar ddyluniad, gwaith cynnal a chadw a datblygiad amrywiaeth eang o systemau weldio o fewn diwydiannau fel aerofod, gweithrediadau adeiladu a pheirianneg sifil. Efallai y byddent yn ymchwilio i dechnegau weldio mwy effeithiol neu ddylunio cyfarpar mwy effeithlon er mwyn helpu yn y broses o weldio.
-
Peiriannydd/Technegydd Safle
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr/technegwyr safle yn gyfrifol am elfennau technegol, trefnu a goruchwylio prosiectau adeiladu – o dai newydd i ffyrdd a rheilffyrdd gwerth miliynau o bunnau.
-
Pennaeth Trac
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Pennaeth Trac yn goruchwylio gweithrediadau busnes o fewn cylch gwaith peirianneg rheilffyrdd, gan roi cyngor arbenigol ar beirianneg i brosiectau o bob math yn y maes hwn.
-
Pensaer
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae penseiri yn llunio ein hamgylchedd yn greadigol trwy ddylunio'r adeiladau a'r gofodau o'n cwmpas. Maent yn dod â strwythurau newydd yn fyw ac yn adfer neu'n adnewyddu'r rhai presennol. Mae penseiri yn cydweithredu ag eraill i sicrhau bod dyluniadau'n addas at y diben ac yn ddiogel, p'un a ydynt yn gweithio ar adeiladau unigol neu ddatblygiadau mawr.
-
Pensaer tirwedd
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae penseiri tirlunio yn creu llefydd i bobl fyw, weithio a chwarae, a llefydd i blanhigion ac anifeiliaid ffynnu. Fel pensaer tirlunio, nid oes yr un diwrnod yr un fath; un diwrnod gallech fod allan yn syrfeo safleoedd neu wneud asesiadau effaith amgylcheddol, y diwrnod wedyn gallech fod yn y swyddfa’n ysgrifennu adroddiadau a chreu cytundebau.
-
Personél Adnoddau Dynol
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr adnoddau dynol yn datblygu polisïau sy’n gysylltiedig ag ymarferion gwaith y sefydliad y maent yn gweithio ynddo ac yn eu rhoi ar waith. Maent yn cyflogi gweithwyr ac yn eu helpu i gael hyfforddiant a datblygiad i symud eu gyrfa ymlaen. Maent yn allweddol i oruchwylio amodau cyflogaeth, termau cytundebol, trafodaethau a materion tâl sy’n gysylltiedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
-
Plastrwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae plastrwyr yn llyfnu neu'n creu gorffeniad addurnol ar waliau a nenfydau mewnol. Maent hefyd yn rhoi rendr a gorffeniadau ar waliau allanol. Mae'r rhan fwyaf o adeiladau newydd a llawer o brosiectau adnewyddu yn galw am blastrwr, i roi naws newydd i ystafell, atgyweirio difrod neu ddod â lle yn ôl yn fyw.
-
Plymwr
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae plymwyr yn gosod ac yn cynnal systemau dŵr mewn adeiladau. Mae hyn yn cynnwys toiledau, baddonau, cawodydd, sinciau, peiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri. Gallent hefyd osod systemau gwres canolog ond mae angen cymwysterau ychwanegol arnynt i weithio â boeleri nwy. Mae plymwyr yn gosod pibellau newydd, yn gwasanaethu systemau hŷn, yn adnabod ac yn atgyweirio diffygion, a gallent ateb galwadau brys pan fydd systemau dŵr neu wresogi wedi'u difrodi.
-
Prif Ddylunydd
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae prif ddylunwyr yn rheoli mesurau atal risgiau yn ystod cam cyn-adeiladu prosiect.
-
Prynwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Yn y diwydiant adeiladu, prynwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau adeiladu yn cael eu darparu yn unol â'r amserlen a'r cyllidebau rhagamcanol.
-
Prynwr/Trafodwr Tir
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Prynwr Tir neu Drafodwr Tir yn chwilio am gyfleoedd datblygu i'w cyflwyno i gleientiaid.
-
Quarry worker
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Quarry workers use powerful machinery to dig and drill rock, sand, slate, gravel, and minerals from quarries and mines. They crush, transport, and process these aggregates for use, often on construction sites.
-
Receptionist
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Yn y diwydiant adeiladu, derbynyddion yw pwynt cyswllt cyntaf cleientiaid, isgontractwyr a chyflenwyr. Fel derbynnydd, chi fydd wyneb blaen y sefydliad yn cyfarch gwesteion a chontractwyr, ac yn ymateb i ymholiadau dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd angen sgiliau trin pobl rhagorol arnoch er mwyn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid.
-
Renewable energy analyst
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Renewable energy analysts measure the efficiency of renewable energy sources and develop sustainable energy models for buildings.
-
Rheolwr / Cydgystlitydd Cynaliadwyedd
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr/cydgysylltwyr cynaliadwyedd yn goruchwylio'r ffordd y caiff strategaethau cynaliadwyedd eu gweithredu yn ystod prosiect.
-
Rheolwr adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr adeiladu’n gyfrifol am y rheoli a’r cynllunio ymarferol o bob cam o brosiect adeiladu. Maent yn sicrhau bod prosiectau adeiladu’n cael eu cwblhau yn ddiogel, o fewn y gyllideb ac ar amser. Fel rheolwr adeiladu, byddwch yn goruchwylio amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i’ch tîm i sicrhau bod pob cyfnod o’r adeiladu’n cael ei wireddu.
-
Rheolwr asedau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr asedau yn rheoli ac yn monitro asedau cwmni. Gall hyn gynnwys eiddo, arian, stociau, cyfranddaliadau a bondiau, nwyddau, ecwiti a chynhyrchion ariannol eraill. Fel rheolwr asedau, byddech yn anelu at sicrhau'r enillion mwyaf posibl ar fuddsoddiad eich cyflogwr. Byddech yn sicrhau bod eu prosiectau'n gwella incwm a sefydlogrwydd ariannol.
-
Rheolwr bidio
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr bidio’n gyfrifol am baratoi ac ysgrifennu’r dogfennau masnachol manwl, megis holiaduron cyn-gymhwyso a thendrau, y mae cwmnïau yn eu cyflwyno i ennill contractau newydd. Mae’n safle pwysig iawn o fewn sefydliad gan ei fod yn gofyn am sgiliau trefnu rhagorol ac yn hanfodol i gwmnïau ennill contractau newydd.
-
Rheolwr caffael
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr caffael yn canfod ac yn sicrhau'r gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen i gyflawni prosiect adeiladu, a hynny am y gwerth gorau.
-
Rheolwr Caffael
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Rheolwyr Caffael yn canfod ac yn sicrhau'r gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen i gyflawni prosiect adeiladu, a hynny am y gwerth gorau.
-
Rheolwr contractau
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr contractau yn nodi, sicrhau a rheoli prosiectau a chontractau. Bydd yn rhannu ei arbenigedd a'i wybodaeth er mwyn sicrhau bod holl ofynion prosiect yn cael eu bodloni ar amser ac yn unol â'r fanyleb.
-
Rheolwr cydymffurfio
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr cydymffurfio’n sicrhau bod busnes, cyflogeion a phrosiectau’n cydymffurfio â’r holl reoliadau a gofynion perthnasol. Gallai hyn gynnwys safonau iechyd a diogelwch, safonau amgylcheddol, safonau cyfreithiol neu safonau ansawdd, yn ogystal ag unrhyw bolisïau moesegol a all fod gan y busnes.
-
Rheolwr cyfleusterau
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr cyfleusterau yn goruchwylio gweithrediadau a chynnal a chadw adeiladau a thiroedd trwy ymateb i anghenion defnyddwyr. Fel rheolwr cyfleusterau, gallech fod yn gyfrifol am wasanaethau gan gynnwys adeiladau, glanhau, arlwyo, lletygarwch, diogelwch neu barcio. Bydd angen sicrhau fod y mannau rydych yn eu rheoli yn bodloni safonau iechyd a diogelwch ac yn gweithredu yn ôl y bwriad.
-
Rheolwr Datblygu Busnes
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Rheolwyr Datblygu Busnes sy'n gyfrifol am sbarduno twf busnes drwy ddatblygu contractau, nodi cyfleoedd yn y farchnad a chynyddu gwerthiant.
-
Rheolwr Depo
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr depo yn gyfrifol am reoli holl swyddogaethau depo llogi offer/peiriannau neu nwyddau adeiladu prysur, o staffio a chydberthnasau â chwsmeriaid, i drafnidiaeth a chynnal a chadw peiriannau – ac, yn y pen draw, proffidioldeb y gangen.
-
Rheolwr Desg Llogi Peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Rheolwyr Desg Llogi Peiriannau yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rhagorol i'r sector adeiladu.
-
Rheolwr dogfennau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolydd dogfennau yn cynnal dogfennau prosiectau. Maent yn sicrhau fod y wybodaeth gywir yn cael ei dosbarthu drwy’r sefydliad, yn brydlon, i’r bobl sydd ei angen. Yn y diwydiant adeiladu, mae rheolyddion dogfennau yn gweithio â dogfennau technegol megis glasbrintiau ac adroddiadau. Maent yn trefnu ac yn storio dogfennau electronig a chopïau caled ar gyfer dylunwyr, syrfewyr, penseiri a chydweithwyr eraill.
-
Rheolwr dylunio
Mae cyflogau oddeutu £90,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr dylunio yn cydlynu'r holl waith dylunio sydd eu hangen yn ystod prosiectau adeiladu. Maent yn rheoli'r gwaith o gynhyrchu lluniadau technegol a chynlluniau a ddefnyddir i adeiladu strwythur. Mae rheolwyr dylunio yn dod â phenseiri, peirianwyr strwythurol a gwasanaeth, dylunwyr arbenigol a thechnegwyr BIM ynghyd i greu dyluniadau cydlynol y gellir eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu ac i helpu i gynnal a chadw’r strwythur ar ôl ei gwblhau.
-
Rheolwr Dysgu a Datblygu
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Rheolwyr dysgu a datblygu sy'n gyfrifol am hyfforddiant a datblygiad proffesiynol cyflogeion cwmni
-
Rheolwr Logisteg a Pheiriannau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Rheolwr Logisteg a Pheiriannau yn y diwydiant adeiladu yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o logi, prynu, cyflenwi a defnyddio peiriannau a chyfarpar ar safleoedd adeiladu.
-
Rheolwr masnachol
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Y rheolwr masnachol yw'r unigolyn ag awdurdod sy'n rheoli'r gyllideb ac yn cadw golwg ar yr holl gostau sy'n gysylltiedig â phrosiectau adeiladu mawr.
-
Rheolwr modelu gwybodaeth am adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £90,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr modelu gwybodaeth am adeiladu yn gweithredu fel canolwr rhwng dylunwyr, cleientiaid a phenseiri. Fel rheolwr modelu gwybodaeth am adeiladu, byddwch yn goruchwylio’r cynhyrchiad o gynlluniau pensaernïol manwl, cydrannau a deunyddiau ar gyfer prosiectau adeiladu.
-
Rheolwr peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr peiriannau yn gyfrifol am yr holl beiriannau trwm a ddefnyddir ar safleoedd adeiladu.
-
Rheolwr Peirianneg Rheilffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Rheolwyr Peirianneg Rheilffyrdd yn gyfrifol am arwain a gweithredu gwaith dylunio peirianneg ar gyfer prosiectau rheilffyrdd o bob math.
-
Rheolwr priffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr priffyrdd yn gweithio gyda chynghorau lleol a chwmnïau cyfleustodau i ddarparu gwasanaethau fel gwaith cynnal a chadw priffyrdd a goleuadau stryd. Mae hefyd yn cynnal rhwydweithiau dŵr a nwy.
-
Rheolwr prosiect
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr prosiect yn goruchwylio'r gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau adeiladu. Maent yn sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Maent yn trefnu logisteg, yn dirprwyo gwaith ac yn cadw llygaid ar wariant. Fel rheolwr prosiect, byddech yn cysylltu â chleientiaid a gweithwyr adeiladu proffesiynol i drefnu amserlenni a chyfarwyddo gweithgarwch.
-
Rheolwr prynu
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr prynu (neu gaffael) yn prynu cyfarpar, nwyddau a gwasanaethau ar gyfer eu cwmnïau – gan gymharu costau, ansawdd a gwasanaeth er mwyn cael y gwerth gorau am arian.
-
Rheolwr risg
Mae cyflogau oddeutu £75,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr risg yn nodi ac yn asesu bygythiadau posibl i brosiectau adeiladu. Maent yn ystyried risgiau ariannol, cyfreithiol, amgylcheddol ac enw da, ynghyd â risgiau i'r gweithlu a'r sefydliad y maent yn gweithio iddo. Maent yn cydweithio'n agos â rheolwyr prosiectau, timau iechyd a diogelwch, a thimau adnoddau dynol a chyfreithiol. Bydd rheolwyr risg yn creu polisïau i amddiffyn asedau a lleihau damweiniau, camgymeriadau, colledion ariannol neu atebolrwydd cyhoeddus.
-
Rheolwr safle
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr safle yn trefnu gwaith ar safleoedd adeiladu, gan sicrhau fod y gwaith wedi'i gwblhau'n ddiogel, ar amser ac o fewn y gyllideb. Fel rheolwr safle, ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn cysylltu â phenseiri, syrfewyr ac adeiladwyr i sicrhau fod prosiect ar y trywydd iawn a bod digon o staff, peiriannau a deunyddiau i gyflawni'r swydd.
-
Rheolwr sicrhau ansawdd
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr sicrhau ansawdd yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau'n cyrraedd y safon gywir er mwyn sicrhau bod pawb o fewn cwmni adeiladu, a'r tu allan iddo, yn hapus.
-
Rheolwr trafnidiaeth
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Rheolwyr trafnidiaeth sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludiant ffyrdd yn cael eu bodloni. Maent yn gyfrifol am wneud trefniadau i sicrhau bod gyrwyr yn cydymffurfio â rheoliadau gyrwyr, rheolau tacograff a chyfyngiadau cyflymder.
-
Rheolww tirlunio
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr tirlunio yn cynllunio, datblygu ac yn gofalu am fannau awyr agored, er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu eu defnyddio a’u mwynhau, nawr ac yn y dyfodol. Maent yn defnyddio’u gwybodaeth am ecosystemau ac ymddygiad pobl i gynghori ar brosiectau adeiladu.
-
Rigiwr Rhwydi Diogelwch
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rigwyr rhwydi diogelwch yn crynhoi, gosod, lleoli a diogelu rhwydi diogelwch ar gyfer amrywiaeth o brosiectau adeiladu.
-
Saer
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae seiri yn creu ac yn gosod ffitiadau a gosodiadau pren fel rhan o brosiectau adeiladu.
-
Saer maen
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae seiri maen yn creu eitemau ymarferol neu hardd (neu'r ddau yn aml) o garreg a all bara am ganrifoedd.
-
Sgaffaldiwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae sgaffaldwyr yn gosod ac yn datgysylltu'r strwythurau metel mawr a godir o amgylch adeiladau sydd angen gwaith.
-
Simneiwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae simneiwyr yn ymdrin â'r gwaith adeiladu ac atgyweirio sydd ei angen ymhell uwchlaw'r ddaear.
-
Solar panel installer
Mae cyflogau oddeutu £36,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Solar panel installers set up solar panels on roofs and structures on land, to convert solar power into renewable energy. Installers are also responsible for maintaining solar panels and ensuring the wiring systems safe and efficient.
-
Swyddog / Cydgysylltydd Adfywio
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddogion/cydgysylltwyr adfywio yn cyflawni rhaglenni sydd â'r bwriad o wella ac adnewyddu adeiladau, neu ddatblygiadau cyfan, hyd yn oed, er mwyn sicrhau eu bod yn gyfoes o ran dyluniad, cydymffurfio ag iechyd a diogelwch, a'r ffordd y cânt eu defnyddio ar hyn o bryd.
-
Swyddog Diogelwch a Rheoli Traffig
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddogion diogelwch a rheoli traffig yn gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â'r ffyrdd gorau o gynllunio a rheoli traffig, ar gyfer trefniadau dros dro ac wrth ddylunio systemau traffig parhaol.
-
Swyddog Trafnidiaeth dechnegol
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddogion trafnidiaeth dechnegol yn arwain prosesau rheoli trafnidiaeth a gwelliannau diogelwch ar y ffordd. Fel swyddog trafnidiaeth dechnegol byddech yn gweithio’n rhan o dîm sy’n gyfrifol am sicrhau effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd rheoli rhwydweithiau signal trafnidiaeth ar draws y wlad.
-
SYRFËWR
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr yn darparu cyngor proffesiynol ar ystod o faterion yn ymwneud ag adeiladu. Gallen nhw fod yn sicrhau bod eiddo newydd yn cael ei adeiladu yn unol â rheoliadau a manylebau; cynghori ar gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau presennol neu asesu difrod at ddibenion cyfreithiol ac yswiriant. Mae llawer o syrfewyr yn arbenigo mewn un maes gan fod gan y rôl lawer o gyfrifoldebau.
-
Syrfëwr Adeiladau
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr adeiladu’n gyfrifol am roi cyngor i gleientiaid ar sut i ddylunio, adeiladu, cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau. Maent yn syrfeo adeiladau, yn rhoi gwybod am eu canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion.
-
Syrfëwr hydrograffig
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfëwr hydrograffig yn mesur ac yn mapio arwynebeddau tanddwr y byd ac yn astudio adeiledd gwely'r môr.
-
Syrfëwr meintiau
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr meintiau yn amcangyfrif ac yn rheoli costau ar gyfer prosiectau adeiladu mawr. Maent yn sicrhau fod strwythurau'n bodloni safonau cyfreithiol ac ansawdd. Mae syrfewyr meintiau yn rhan o bob cam o'r prosiect. P’un a ydynt yn gweithio ar brosiectau preswyl, masnachol neu ddiwydiannol, mae cleientiaid yn dibynnu arnynt i sicrhau fod y canlyniad terfynol yn cynnig gwerth am arian.
-
Syrfëwr mewn triniaethau adfer
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr mewn triniaethau adfer yn ymweld â safleoedd i bennu lefel unrhyw ddifrod er mwyn rhoi cyngor ar y ffordd orau o'i gywiro. Fel arfer, byddant yn chwilio am arwyddion o leithder, pydredd, a phlâu pen, ymhlith problemau eraill.
-
Syrfëwr rheoli adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr rheoli adeiladu yn gwneud yn siŵr bod rheoliadau'n cael eu dilyn ar safleoedd a phrosiectau adeiladu.
-
Syrfëwr tir
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr tir yn mesur ac yn mapio siâp tir. Maent yn casglu data ar gyfer prosiectau peirianneg sifil ac adeiladu fel y gellir lluniadu cynlluniau safle cywir. Fel syrfëwr, byddwch chi'n rhan o ddiwydiant cyflym, datblygedig yn dechnolegol. Fe dreulir llawer o'ch amser ar y safle, gan ddefnyddio offerynnau technegol i gofnodi'r amgylchedd.
-
Technegydd adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr adeiladu yn helpu gyda thasgau angenrheidiol ynghylch prosiectau adeiladu a gweithiau adeiladu. Fel technegydd adeiladu, gallech fod yn goruchwylio amrywiaeth o dasgau, o fonitro cynnydd adeiladu, i drafod â chyflenwyr, paratoi cynlluniau safle ac amcangyfrif costau.
-
Technegydd BIM
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr BIM (Modelu Gwybodaeth Adeiladu) yn defnyddio technoleg gyfrifiadurol i ddod â'r holl wybodaeth am brosiect adeiladu ynghyd mewn un dyluniad. Fel technegydd BIM, byddwch yn defnyddio rhaglenni CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur) i fodelu prosiect yn fanwl gywir mewn sawl dimensiwn. Yn ogystal â manylu ar gynlluniau pensaernïol, cydrannau, deunyddiau a gweithdrefnau adeiladu, byddwch yn cynnwys gwybodaeth am sut y bydd y strwythur yn gweithredu ac yn cael ei gynnal.
-
Technegydd cynnal a chadw priffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegydd cynnal a chadw priffyrdd yn gweithio mewn tîm er mwyn cyflawni rhaglenni cynnal a chadw priffyrdd.
-
Technegydd Maes
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegydd maes yn ymwneud â gwasanaethu, asesu ac atgyweirio cynnyrch neu gyfarpar trydanol cwmni ar safle. Gall hyn amrywio o gyfrifiaduron, systemau gwresogi ac oeri, systemau diogelwch, peirianwaith trwm, a mwy. Efallai y bydd technegwyr maes yn gweithio ar safle mewn ffatrïoedd, yn gweithgynhyrchu offer ar neu safleoedd adeiladu.
-
Technegydd peirianneg gwasanaethau adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr peirianneg gwasanaethau adeiladu yn helpu peirianwyr i ddylunio, cynllunio a gosod systemau trydanol a mecanyddol o fewn adeiladau. Gallai hyn olygu datblygiadau newydd sbon neu wella rhai sydd eisoes yn bodoli.
-
Technegydd peirianneg sifil
Mae cyflogau oddeutu £37,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegydd peirianneg sifil yn rhoi cefnogaeth dechnegol i beirianwyr ar brosiectau adeiladu. Maent yn dueddol o arbenigo mewn maes peirianneg benodol megis dylunio, cynllunio neu logisteg ac yn gallu bod yn rhan o brosiectau sy’n amrywio o adeiladu pontydd, i ledu ffyrdd, neu greu isadeiledd newydd.
-
Technegydd peirianneg strwythurol
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr peirianneg strwythurol yn rhan allweddol o'r tîm dylunio ac adeiladu, gan gydweithio â'r tîm dylunio ac adeiladu ehangach.
-
Technegydd pensaernïol
Mae cyflogau oddeutu £48,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr pensaernïol yn delio ag ochr dechnegol pensaernïaeth, dylunio adeiladau a gwaith adeiladu.
-
Technical coordinator
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Technical coordinators handle technical aspects of a project. Depending on the area of construction they work in, they could be handling enquiries, helping to produce and interpret technical diagrams, plans and paperwork, drawing up delivery schedules, and dealing with project administration.
-
Technolegydd Pensaernïol
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technolegydd pensaernïol yn troi syniadau pensaer yn adeilad go iawn lle mae popeth yn gweithio'n gywir ac yn ddiogel.
-
Teilsiwr waliau a lloriau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae teilsiwr yn gorchuddio waliau, lloriau ac arwynebau â theils
-
Tiwtor Addysg Bellach
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae tiwtoriaid Addysg Bellach yn dysgu myfyrwyr a phrentisiaid sydd dros 16 oed. Maent yn datblygu dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau a’u hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu neu beirianneg.
-
Töwr Systemau Gwrth-ddŵr Hylifol
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae towyr systemau gwrth-ddŵr hylifol yn gosod croenynnau hylifol amddiffynnol ar strwythurau to gwastad er mwyn sicrhau eu bod yn ddiddos.
-
Transport modeller
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae modelwyr trafnidiaeth yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i helpu i ddylunio a datblygu modelau trafnidiaeth i ragweld defnydd yn y dyfodol, gan olygu y gellir rhagweld ac osgoi problemau posibl ymlaen llaw.
-
Trydanwr
Mae cyflogau oddeutu £36,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae trydanwyr yn darparu ynni i adeiladau i oleuo ystafelloedd, cynhesu dŵr a phweru dyfeisiau. Maent yn gosod, archwilio a phrofi offer trydanol, gan sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn ac yn ddiogel. Fel trydanwr, gallech fod yn cynnal systemau traddodiadol mewn cartrefi, siopau a swyddfeydd. Mae rhai trydanwyr yn gweithio â thechnoleg adnewyddadwy neu opteg ffibr. Mae eraill yn gwasanaethu moduron, trawsnewidyddion, goleuadau stryd neu systemau traffig, neu'n gweithio ar brosiectau peirianneg.
-
Uwch Beiriannydd Deunyddiau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr deunyddiau uwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau.
-
Uwch reolwr/Pennaeth adran
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae uwch reolwyr a phenaethiaid adran yn gyfrifol am arwain timau o bobl sy'n gweithio ar bob math o brosiectau adeiladu. Yr unigolion hyn sy'n meddwl am strategaethau ar gyfer cyflawni gwaith yn effeithlon, ac yna'n sicrhau bod pobl yn eu dilyn.
-
Water resources planner
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Water resources planners develop plans for clean and wastewater management, based on current and future demand.
-
Wind energy analyst
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Wind energy analysts test wind turbine technology and measure the efficiency of wind projects.
-
Wind turbine engineer
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Wind turbine engineers research, design and oversee the build of onshore and offshore wind farms and power plants.
-
Window fitter
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Window fitters install windows, doors, conservatories, and glazed curtain walls in buildings and structures. They may work on new-build properties, upgrade old fittings, or help restore heritage buildings.
-
Ymgynghorydd Treftadaeth
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae Ymgynghorwyr Treftadaeth yn rhoi arweiniad arbenigol ac yn ffurfio strategaethau er mwyn rheoli'r materion sy'n ymwneud â threftadaeth ar safleoedd adeiladu.