Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae contractwr hunangyflogedig yn gweithio drosto’i hun, naill ai drwy ddod o hyd i’w brosiectau ei hun ac ymgymryd â nhw neu ddod o hyd i waith drwy asiantaeth. Fel contractwr hunangyflogedig, efallai eich bod yn gweithio ar eich pen eich hun neu fel aelod o gang adeiladu, neu efallai eich bod yn cyflogi pobl eraill yn eich cwmni eich hun. Mae’n bosib bod yn hunangyflogedig mewn sawl maes gwaith, p’un a oes gennych grefft fedrus, fel gwaith coed neu beintio ac addurno, neu gallwch chi gynnig eich gwasanaethau fel peiriannydd ymgynghorol neu bensaer.
£19000
-£50000
I fod yn gontractwr hunangyflogedig, bydd angen profiad arnoch mewn crefft neu broffesiwn penodol, a’r gallu i reoli eich materion ariannol a’ch llwyth gwaith eich hun. Yn dibynnu ar y swydd sydd ei hangen, efallai y bydd angen i chi feddu ar gymwysterau penodol i brofi eich bod yn gymwys mewn gwaith plymio, gwresogi, nwy neu drydan, er enghraifft. Po fwyaf o gymwysterau sydd gennych, y mwyaf o sgiliau fydd gennych chi, ac felly byddwch yn fwy tebygol o gael busnes newydd.
Gallech ddod yn gontractwr hunangyflogedig ar ôl cwblhau gradd prifysgol, cyrsiau coleg, prentisiaeth, neu ar ôl cael profiad yn y gweithle.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Efallai y bydd angen i chi gael gradd israddedig neu ôl-raddedig berthnasol i’ch helpu i ennill y sgiliau angenrheidiol, os ydych chi’n bwriadu gweithio mewn meysydd adeiladu penodol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi astudio cwrs coleg i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn maes adeiladu penodol. Mae colegau a darparwyr hyfforddiant yn cynnig cyrsiau mewn sawl pwnc, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio fel contractwr hunangyflogedig yn y diwydiant adeiladu.
Mae’n bosib bod yn brentis mewn sawl maes gwaith, p’un ai a ydych chi’n anelu at fod yn ddodrefnwr siopau, mecanig peiriannau, rheolwr safle, peiriannydd, neu weithio mewn rôl arall yn y diwydiant.
Bydd gwahanol ofynion mynediad ar gyfer pob cwrs, ond gall TGAU mewn Saesneg a Mathemateg helpu i’ch paratoi ar gyfer prentisiaeth adeiladu.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os ydych chi wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu am nifer o flynyddoedd, efallai y byddwch yn penderfynu mentro i fod yn hunangyflogedig. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ceisio arweiniad ynghylch rheoli eich treth a’ch arian eich hun.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel contractwr hunangyflogedig:
Fel contractwr hunangyflogedig yn y diwydiant adeiladu, gallech fod yn gyfrifol am unrhyw nifer o dasgau gwahanol, yn dibynnu ar eich proffesiwn.
Gall swydd contractwr hunangyflogedig gynnwys y dyletswyddau canlynol:
Fel contractwr hunangyflogedig, byddwch yn gallu gosod eich cyfraddau cyflog eich hun.
Yn dibynnu ar y tasgau rydych chi’n eu gwneud, a’ch sgiliau, gallech chi ennill unrhyw beth rhwng £19,000 a £50,000.*
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Gan fod y rôl yn un hunangyflogedig, gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am fod yn hunangyflogedig drwy fynd i wefan gov.uk.
Fel contractwr hunangyflogedig, gallech chi ehangu eich busnes i gyflogi mwy o staff a chynnig rhagor o wasanaethau.
Wrth i’ch busnes dyfu, efallai y byddwch yn penderfynu ymgymryd â rôl cyfarwyddwr adeiladu.