Facebook Pixel

Peiriannydd gwasanaethau adeiladu

A elwir hefyd yn -

Technegwyr peirianneg y gwasanaethau adeiladu

Mae peirianwyr gwasanaethau adeiladu yn gosod, yn cynnal ac yn dylunio’r systemau sy’n gwneud adeiladau’n ddiogel, yn gyfleus ac yn gyfforddus. Fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu, gallech fod yn gosod neu’n gwasanaethu offer mewn adeiladau fel swyddfeydd, ysbytai neu ganolfannau siopa.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

39-41

Sut i fod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu

Gallwch fynd i'r swydd hon drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ddelweddwr 3D, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech ddod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu drwy astudio ar gyfer gradd sydd wedi’i hachredu gan Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE). Dyma rai pynciau perthnasol:

  • Peirianneg gwasanaethau adeiladu
  • Peirianneg bensaernïol
  • Gwasanaethau adeiladu a pheirianneg fecanyddol
  • Peirianneg drydanol
  • Adeiladu a’r amgylchedd adeiladu
  • Adeiladu cynaliadwy 

Ar gyfer gradd israddedig, bydd angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth
  • 2 i 3 Lefel A, neu gyfwerth.

Coleg

Gallech ddilyn cwrs yn eich coleg lleol a fyddai'n eich galluogi i ymuno â chwmni fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu dan hyfforddiant. Dyma rai cyrsiau o’r fath:

  • Lefel T mewn Dylunio, Syrfeo a Chynllunio
  • Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Gwasanaethau Adeiladu, neu Beirianneg Fecanyddol a Thrydanol.

Efallai y bydd angen y canlynol arnoch:

  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (lefel T)
  • 1 neu 2 Lefel A, neu gyfwerth (HND).

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth uwch ar gyfer technegwyr peirianneg gwasanaethau adeiladu neu beirianwyr rheolaethau rheoli ynni adeiladau. Gallech chi hefyd gwblhau gradd-brentisiaeth peiriannydd dylunio gwasanaethau adeiladu. 

Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer uwch brentisiaeth neu radd-brentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Efallai y gallwch chi ddod o hyd i waith fel technegydd gwasanaethau adeiladu a chwblhau cymwysterau yn y gwaith, neu’n rhan-amser gyda darparwr hyfforddiant i ddod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu.

Efallai y bydd modd i chi wneud cais yn uniongyrchol am swydd fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu os oes gennych chi rywfaint o brofiad ym maes peirianneg. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad peirianneg perthnasol o ddiwydiannau eraill yn fawr. Byddai parch mawr yn cael ei roi i sgiliau mewn peirianneg drydanol, fecanyddol, amgylcheddol, acwstig neu bŵer.  

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu: 

  • Gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg
  • Gwybodaeth am Fathemateg
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Sylw da i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun

Beth mae peiriannydd gwasanaethau adeiladu yn ei wneud?

Fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu, byddwch yn gyfrifol am amryw o dasgau sy’n ymwneud â chynllunio, dylunio, monitro ac archwilio systemau mewn adeiladau fel swyddfeydd, cartrefi ac ysbytai. Gallech fod yn treulio amser yn gweithio mewn swyddfa, neu ar y safle. 

Mae swydd peiriannydd gwasanaethau adeiladu yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynllunio, dylunio, monitro ac archwilio systemau 
  • Cynghori cleientiaid a phenseiri ar faterion sy’n ymwneud â gwasanaethau adeiladu
  • Negodi a datblygu contractau prosiect a chytuno ar y rhain gyda chleientiaid
  • Gwneud penderfyniadau ynghylch cylch oes offer systemau presennol a lleoliad priodol offer newydd
  • Dylunio systemau gyda chymorth meddalwedd dylunio â chymorth cyfrifiadur
  • Rheoli a rhagweld gwariant a sicrhau bod y gwaith yn cadw at y gyllideb
  • Dylunio offer sy’n benodol i’r safle yn ôl yr angen
  • Comisiynu, trefnu ac asesu gwaith contractwyr
  • Arolygu a goruchwylio’r gwaith o osod systemau adeiladu a nodi gweithdrefnau cynnal a chadw a gweithredu
  • Monitro systemau a phrosesau adeiladu
  • Sicrhau bod dyluniad a systemau cynnal a chadw adeilad yn bodloni gofynion deddfwriaethol ac iechyd a diogelwch
  • Cwrdd â gwneuthurwyr cynnyrch adeiladu i ddysgu am y cynnyrch diweddaraf
  • Asesu hyd oes adeiladau a’u gwasanaethau cydrannol er mwyn lleihau’r adnoddau a ddefnyddir a’r effaith ar yr amgylchedd. 

Sut beth yw bod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu?

Shaun Ackerley


Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd gwasanaethau adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peiriannydd gwasanaethau adeiladu sydd newydd eu hyfforddi ennill £24,000 - £27,000
  • Gall peiriannydd gwasanaethau adeiladu hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £27,000 - £35,000
  • Gall uwch beirianwyr gwasanaethau adeiladu ennill £35,000 - £50,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr gwasanaethau adeiladu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu, gallech chi ennill profiad a symud i uwch dîm rheoli prosiectau, arolygu meintiau, neu ddylunio peirianneg. Gallech chi hefyd weithio fel ymgynghorydd.

Ar ôl i chi gymhwyso’n llawn, gallech chi wneud cais am statws siartredig i Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) neu sefydliad peirianneg adeiladu arall sydd wedi’i drwyddedu gan y Cyngor Peirianneg. Byddai hyn yn gwella eich rhagolygon swydd, ac yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd gwasanaethau adeiladu Mae peirianwyr gwasanaethau adeiladu yn gweithio gyda thimau adeiladu a chleient...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd deunyddiau Maent yn gyfrifol am gaffael a phrofi'r holl ddeunyddiau a ddefnyddir wrth adeil...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080