Facebook Pixel

Rheolwr safle

Mae rheolwyr safle yn trefnu gwaith ar safleoedd adeiladu, gan sicrhau fod y gwaith wedi'i gwblhau'n ddiogel, ar amser ac o fewn y gyllideb. Fel rheolwr safle, ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn cysylltu â phenseiri, syrfewyr ac adeiladwyr i sicrhau fod prosiect ar y trywydd iawn a bod digon o staff, peiriannau a deunyddiau i gyflawni'r swydd.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i ddod yn rheolwr safle

Mae yna sawl llwybr i ddod yn rheolwr safle. Gallech wneud cwrs prifysgol, prentisiaeth, neu anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr.

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Os ydych yn gweithio yn y diwydiant adeiladu eisoes, efallai y gallwch ddod yn rheolwr safle trwy gwblhau rhai cyrsiau rhan-amser. 

Y Brifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd israddedig wedi'i hachredu gan Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys astudiaethau adeiladu, adeiladu neu beirianneg sifil, syrfeo neu amcangyfrif.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech ddechrau ar eich gyrfa fel prentis yn y mwyafrif o grefftau adeiladu ac yna gweithio’ch ffordd i fyny i fod yn rheolwr safle. Fel arall, gallech ymgeisio am uwch-brentisiaeth mewn rheoli adeiladu. 

I wneud hyn, bydd angen 4 - 5 cymhwyster TGAU arnoch, â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau Safon Uwch (neu gyfwerth).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os ydych yn amcangyfrifwr, technegydd adeiladu, syrfëwr neu oruchwyliwr safle profiadol, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am swydd rheolwr safle. 

Os oes gennych brofiad o reoli mewn diwydiant perthnasol (fel peirianneg sifil), efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 

Cymwysterau


Beth mae rheolwr safle yn ei wneud?

Fel rheolwr safle, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Cysylltu â chleientiaid ac adrodd am gynnydd i staff a'r cyhoedd 
  • Goruchwylio gweithwyr adeiladu a chyflogi isgontractwyr
  • Prynu deunyddiau ar gyfer bob rhan o'r prosiect
  • Monitro costau adeiladu a chynnydd prosiect
  • Cynnal archwiliadau ansawdd a diogelwch
  • Gwirio a pharatoi adroddiadau, dyluniadau a lluniadau safle
  • Cynnal gwiriadau rheoli ansawdd
  • Ysgogi’r gweithlu
  • Datrys problemau beunyddiol ac ymdrin ag unrhyw faterion sy’n codi
  • Defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol arbenigol i reoli prosiectau
  • Gweithio ar safle beth bynnag fo'r tywydd, ym musnesau cleientiaid neu mewn swyddfa.

Faint allech ei ennill fel rheolwr safle?

  • Gall cynorthwyydd/hyfforddeion ennill £25,000 - £35,000
  • Gall rheolwyr safle wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £38,000 - £40,000
  • Gall rheolwyr safle uwch neu siartredig ennill £45,000 - £50,000.*

Mae cyflogau'n dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel y cyfrifoldeb. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa hefyd yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr safleoedd: 

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Gall rheolwyr safle ddatblygu yn eu gyrfa i ddod yn rheolwyr contract neu'n ymgynghorwyr prosiect. Efallai y byddwch yn penderfynu arbenigo a symud i faes arall megis amcangyfrif, iechyd a diogelwch, neu archwilio adeiladau. 

Bydd eich rhagolygon gyrfa yn gwella os yr ymgeisiwch i ddod yn siartredig trwy un o gyrff y diwydiant megis y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB).


Dyluniwyd y wefan gan S8080