Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae peirianwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC) yn gosod ac yn gwasanaethu systemau ansawdd aer a thymheredd mewn cartrefi, busnesau a cherbydau.
£20000
-£35000
48-50
Mae sawl llwybr i fod yn beiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC). Gallech chi gwblhau cwrs coleg, neu brentisiaeth.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannydd HVAC i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn beiriannydd HVAC, fel:
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi hyfforddi i fod yn beiriannydd HVAC drwy gwblhau prentisiaeth ganolraddol neu uwch mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu neu beirianneg oeri, aerdymheru a phympiau gwres. Neu, gallech chi gofrestru ar brentisiaeth ganolradd mewn gosodiadau plymio neu drydanol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, a sgiliau ymarferol da, gallech wneud cais am swydd fel mêt, hyfforddai neu gynorthwyydd trydanwr neu blymiwr. Gallech chi wedyn gael rhagor o hyfforddiant i ddatblygu eich sgiliau neu arbenigo mewn gwresogi, awyru ac aerdymheru.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd HVAC. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd HVAC:
Fel peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC), byddwch yn sicrhau bod systemau awyru a thymheredd yn gweithio’n effeithlon ac yn ddiogel.
Mae swydd peiriannydd HVAC yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd HVAC yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr HVAC:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel peiriannydd HVAC, gallech chi naill ai weithio i fusnes sefydledig, neu sefydlu eich hun fel gosodwr neu ymgynghorydd hunangyflogedig.