Emma Fawcett
Mae Emma Fawcett yn Beiriannydd Priffyrdd gyda Chyngor Sir Swydd Lincoln.
Rwy'n gweithio mewn adran sy'n dylunio priffyrdd ac yn rheoli prosiectau i amrywiaeth o gleientiaid o fewn y cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys amryw o adrannau fel y pedair isadran priffyrdd, y bartneriaeth ymchwilio i ddamweiniau a datblygwyr allanol.
Gallwn fod yn gweithio ar nifer o wahanol gynlluniau ar unrhyw adeg, ac mae fy swydd o ddydd i ddydd yn cynnwys dylunio prosiectau, rheoli a goruchwylio safleoedd. Mae hefyd yn cynnwys caffael gwaith, gweinyddu contractau a chydgysylltu'r holl isadrannau cyfleustodau, sy'n cynnwys nwy, trydan, goleuadau ac ati.
Rwyf hefyd yn gweithio ar iechyd a diogelwch a rheoli traffig ac yn defnyddio systemau TG arbenigol fel meddalwedd dylunio ffyrdd Mx ac Autocad. Rwyf hefyd yn cydgysylltu meysydd gwaith eraill fel goleuadau stryd a goleuadau traffig.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Fy niddordeb mewn lluniadu technegol a'm denodd at beirianneg sifil yn y lle cyntaf. Dechreuais ar fy ngyrfa gydag Anglian Water yn y swyddfa lluniadu peirianneg ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid. Roeddwn yn 16 oed a newydd adael yr ysgol gyda naw TGAU ar radd C ac uwch. Es i i'r coleg am ddiwrnod astudio am bedair blynedd a chefais fy Nhystysgrif Genedlaethol Gyffredin a Thystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC mewn peirianneg sifil.
Bûm yn gweithio gydag Anglian Water am ddeng mlynedd, ac yna cefais seibiant gyrfa er mwyn cael plant. Dechreuais ar fy ngyrfa unwaith eto gyda fy nghyflogwr presennol, ond ym maes dylunio priffyrdd y tro hwn. Rwyf wedi bod yma ers mwy nag 11 o flynyddoedd. Gwelais fod y camau rheoli prosiect ym maes peirianneg sifil yn debyg ac mai'r hyn yr oedd angen i mi ei ddysgu oedd yr elfen dylunio priffyrdd a sut mae llywodraeth leol yn gweithio. Rwyf bellach yn aelod o Sefydliad y Peirianwyr Sifil fel peiriannydd corfforedig, gyda chefnogaeth fy nghyflogwr.
Beth rydych yn ei fwynhau am eich swydd?
Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth a'r hyblygrwydd. Mae pob prosiect yn wahanol ac rwy'n wynebu heriau newydd bob dydd. Yn benodol, rwy'n mwynhau creu lluniadau a'r rhan o'r swydd sy'n ymwneud â goruchwylio safleoedd. Mae gweithio gyda'r contractwr a gweld fy nyluniad yn cael ei adeiladu yn rhoi boddhad mawr i mi. Rwy'n gallu gweithio oriau rhan-amser, hyblyg, sy'n ddelfrydol tra bod gennyf blant oed ysgol.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch?
Mae angen i chi fod yn drefnus, yn drylwyr ac yn greadigol, a gallu ymdopi ag amrywiaeth a'i mwynhau. Mae hefyd angen sgiliau cyfathrebu da arnoch a'r gallu i ddatrys problemau.
Yr hyn rydych fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Ennill fy nghymhwyster proffesiynol mewn peirianneg sifil. Hefyd, dylunio, goruchwylio a chyflawni prosiect i wella tair cyffordd yn Lincoln ar ran archfarchnad. Cafodd y prosiect hwn ei gwblhau ym mis Tachwedd 2010 a chymerodd y gwaith adeiladu ddau fis a hanner ar y safle.
Beth yw eich uchelgais?
Bod yn uwch beiriannydd.
Unrhyw gyngor ar ymuno â'r diwydiant adeiladu?
Mae'n ddiwydiant lle mae swyddi ar gael yn awr a hyd y gellir rhagweld. Mae angen diddordeb mewn rhyw fath o beirianneg arnoch, ac awydd i weld pethau'n cael eu hadeiladu neu eu datblygu. Gall peirianneg fod yn heriol iawn felly byddwch yn barod i bob diwrnod fod yn wahanol.