Facebook Pixel

Peiriannydd simneiau

A elwir hefyd yn -

Technegydd simneiau

Mae peirianwyr simneiau yn gosod ac yn cynnal systemau simneiau a ffliwiau yn unol â’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth adeiladu gyfredol. Fel peiriannydd simneiau, bydd angen i chi ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch caeth, oherwydd efallai y byddwch yn gweithio mewn mannau uchel, gyda chymorth harnais a chyfarpar diogelu.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£20000

Oriau arferol yr wythnos

40-41

Sut i fod yn beiriannydd simneiau

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn beiriannydd simneiau, mae sawl llwybr y gallech eu dilyn i'ch helpu i gael y rôl hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannydd simneiau, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er mwyn bod yn beiriannydd simneiau, gallech chi weithio tuag at Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg Simneiau.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond byddai cael hyd at 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch yn fanteisiol.

Mae llawer o beirianwyr simneiau yn dechrau fel bricwyr ac yna’n arbenigo mewn adeiladu simneiau.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth adeiladu neu beirianneg sifil i’ch helpu i ddod yn beiriannydd simneiau.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i ddilyn prentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech ddechrau gweithio fel cynorthwyydd peiriannydd mewn cwmni adeiladu a chael profiad a sgiliau mewn amgylchedd gwaith. Gallwch chi gwblhau hyfforddiant yn y gwaith i ddod yn beiriannydd simneiau cymwys drwy gwblhau Diploma NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg Simneiau.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd simneiau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau a rhinweddau dymunol ar gyfer peiriannydd simneiau yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am ganllawiau a rheoliadau diogelwch cyfredol
  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Meddu ar hyder i weithio mewn mannau uchel, ym mhob tywydd
  • Sgiliau ymarferol a’r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer
  • Sgiliau cyfathrebu da.

Beth mae peiriannydd simneiau yn ei wneud?

Fel peiriannydd simneiau, byddwch yn gyfrifol am ddylunio a gosod systemau simneiau a ffliwiau sy’n cyd-fynd â gofynion cleientiaid ac sy’n unol â’r ddeddfwriaeth adeiladu gyfredol. 

Mae dyletswyddau peiriannydd simneiau yn cynnwys: 

  • Archwilio systemau simneiau a ffliwiau presennol
  • Atgyweirio ac adnewyddu’r systemau simneiau a ffliwiau presennol
  • Paratoi a chadw at asesiadau risg iechyd a diogelwch
  • Gweithio o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol
  • Gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • Defnyddio harnais corff llawn a systemau rhag cwympo os ydych chi’n gweithio mewn mannau uchel
  • Gweithio yng nghartrefi a busnesau pobl.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd simneiau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd simneiau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr simneiau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall peirianwyr simneiau hyfforddedig ennill hyd at £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr simneiau:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd simneiau, gallech chi symud ymlaen i swydd reoli fel peiriannydd safle a gofalu am ochr dechnegol prosiectau adeiladu. 

Gallech hefyd symud ymlaen i rôl rheolwr contractau yn eich sefydliad.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd simneiau Mae peirianwyr simneiau yn gyfrifol am ddylunio a gosod yr holl systemau simneia...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080