Facebook Pixel

Gweithiwr adeiladu cyffredinol

A elwir hefyd yn -

Labrwr adeiladu, gweithiwr tir

Mae gweithwyr adeiladu yn ymgymryd â llawer o wahanol dasgau ymarferol ar safle adeiladu, gan gynnwys paratoi’r tir cyn dechrau’r gwaith adeiladu, a gwneud gwaith llaw yn ystod prosiect. Gallai hyn amrywio o gymysgu a thywallt concrid, gosod pibellau draenio, symud deunyddiau a mwy.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut mae dod yn weithiwr adeiladu cyffredinol

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn weithiwr adeiladu cyffredinol, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr adeiladu cyffredinol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol, byddai unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel gweithiwr adeiladu cyffredinol yn elwa ar ennill cymwysterau TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg.

Gallech astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu neu Dystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu i wella eich gallu a’ch rhagolygon gwaith.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallech wneud cais am brentisiaeth ganolradd fel gweithiwr tir neu weithiwr adeiladu gyda chwmni adeiladu.

Bydd angen 2 - 3 TGAU arnoch, sydd fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i fod yn weithiwr adeiladu cyffredinol, yn labrwr ar safle neu’n hyfforddai, yn enwedig os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol o weithio ar safle. Byddai hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gan aelodau mwy profiadol o’r tîm, ac efallai y bydd eich cyflogwr yn darparu hyfforddiant i’ch helpu i arbenigo mewn maes adeiladu penodol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr adeiladu cyffredinol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae natur amrywiol swydd gweithiwr adeiladu cyffredinol yn golygu bod meddu ar amrywiaeth o sgiliau yn ddelfrydol. Mae’r sgiliau dymunol yn cynnwys: 

  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Peidio â bod ofn uchder
  • Gallu deall cyfarwyddiadau a’u dilyn 
  • Dealltwriaeth gyffredinol o faterion iechyd a diogelwch.

Beth mae gweithiwr adeiladu cyffredinol yn ei wneud?

Fel un o’r swyddi gorau i rywun sy’n awyddus i ddechrau ei yrfa ym maes adeiladu, mae gweithiwr adeiladu cyffredinol yn gyfrifol am amrywiaeth o ddyletswyddau gwahanol, gan gynnwys: 

  • Helpu crefftwyr medrus gyda phob agwedd ar y broses adeiladu
  • Bod yn rhan o brosiectau o’r dechrau i’r diwedd
  • Dilyn yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch
  • Cymysgu a thywallt concrid i wneud sylfeini, trawstiau neu loriau
  • Cloddio ffosydd ar gyfer sylfeini
  • Gosod sgaffaldiau a fframiau adeiladu
  • Gosod palmentydd ac ailwynebu ffyrdd
  • Cynorthwyo bricwyr, seiri coed a chydweithwyr eraill ar y safle, drwy ddarparu deunyddiau
  • Marcio’r ardal ar gyfer y safle gan ddefnyddio llinellau llinyn a gosod rhwystrau ac arwyddion diogelwch
  • Gosod pibellau draenio, palmentydd a chaeadau tyllau archwilio
  • Defnyddio peiriannau llaw fel driliau, pympiau a chywasgyddion
  • Defnyddio peiriannau fel peiriannau tyrchu a thryciau dadlwytho
  • Gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr adeiladu cyffredinol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr adeiladu cyffredinol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr adeiladu cyffredinol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithwyr adeiladu cyffredinol hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000*
  • Gweithwyr adeiladu cyffredinol hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr adeiladu cyffredinol:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr adeiladu cyffredinol, gallech gwblhau cymwysterau a hyfforddiant i ddod yn grefftwr cymwys, fel briciwr, saer, gweithredwr peiriannau neu fwy. 

Gyda mwy o brofiad, gallech chi symud ymlaen i swyddi uwch fel goruchwyliwr safle, arweinydd tîm neu reolwr adeiladu.

Neu, gallech sefydlu eich hun fel contractwr hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr adeiladu cyffredinol Dyma un o’r swyddi gorau i ddechrau eich gyrfa ym maes adeiladu, a byddwch yn he...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithredwr peiriannau Mae gweithredwyr peiriannau yn defnyddio peiriannau trwm i balu, codi a symud de...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Technegydd peirianneg sifil Yn cyfuno gwyddoniaeth a thechnoleg, mae Technegwyr Peirianneg Sifil yn datrys l...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Technegydd cynnal a chadw priffyrdd Byddwch yn rhan o’r tîm sy’n ymwneud ag archwilio ffyrdd a nodi materion diogelw...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Clerc gwaith Mae clerc gwaith (a elwir hefyd yn arolygydd safle neu swyddog ansawdd adeiladu)...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr adeiladu Mae gofyn i reolwyr adeiladu ddelio â’r ochr ymarferol o reoli a chynllunio’r br...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080