Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae peiriannydd systemau rheilffordd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd peirianneg dechnegol ar brosiectau a systemau rheilffordd fel pŵer tyniant, rheolyddion signalau trenau a thraffig, casglu tocynnau, cerbydau rheilffyrdd a mwy.
£25000
-£70000
40-42
Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd systemau rheilffordd. Gallech gwblhau gradd prifysgol neu gwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Yn y rhan fwyaf o achosion, er mwyn dod yn beiriannydd systemau rheilffordd, bydd angen gradd arnoch. Mewn rhai achosion, bydd gofyn i chi hefyd feddu ar radd ôl-raddedig mewn peirianneg, neu fod wedi ennill statws siartredig gyda chorff peirianneg perthnasol. Dyma rai pynciau a argymhellir:
Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
I ddechrau ar eich taith i fod yn beiriannydd systemau rheilffordd, gallech gofrestru ar gwrs coleg perthnasol fel:
Fel arfer, bydd angen y canlynol arnoch:
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth mewn peirianneg sifil i ddod yn beiriannydd systemau rheilffordd.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych brofiad mewn rôl debyg, fel peirianneg sifil, neu eich bod chi wedi gweithio fel technegydd systemau rheilffordd, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel peiriannydd systemau rheilffordd. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd systemau rheilffordd mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd systemau rheilffordd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd systemau rheilffordd:
Fel peiriannydd systemau rheilffordd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth dechnegol am brosiectau peirianneg rheilffyrdd ar gyfer amrywiaeth o systemau gwahanol.
Gall swydd peiriannydd systemau rheilffordd gynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd systemau rheilffordd yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr systemau rheilffordd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel peiriannydd systemau rheilffordd, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr peirianneg rheilffyrdd neu’n uwch-reolwr. Neu gallech drosglwyddo eich sgiliau i rôl debyg fel peirianneg strwythurol neu beirianneg sifil.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod