Mae Jamie O'Brien yn osodwr lloriau gyda Puma Floors
Beth rydych yn ei wneud?
Yn bennaf, rwy'n gosod gwahanol fathau o loriau ar gais y cwsmer. Rwy'n hoffi gweld cwsmer bodlon ar ôl i mi gwblhau'r gwaith a gwybod fy mod wedi cyrraedd y safon.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Dysgais fy nghrefft yn syth allan o'r ysgol ac rwyf wedi gweithio yn y diwydiant ers hynny.
Beth rydych yn ei hoffi am eich gwaith?
Mae'r rôl yn amrywio'n fawr ac rwyf bob amser yn dysgu pethau newydd ac yn gweithio mewn mannau gwahanol. Nid wyf yn gaeth i ddesg a chaf weld llefydd newydd a chwrdd â gwahanol bobl. Mae pob tasg yn wahanol ac mae llawer o ddeunyddiau newydd i weithio â nhw.
Pa sgiliau sydd gennych?
Rwyf wedi meithrin llawer o sgiliau ers dechrau yn y diwydiant. Y prif rai yw mathemateg a sgiliau cyllell. Rwy'n defnyddio mathemateg gryn dipyn fel rhan o'r gwaith a gwn fy mod wedi gwella heb os.
Yr hyn rydych fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Rwy'n falch iawn fy mod wedi gweithio'n barhaus ers i mi adael yr ysgol. Ers ymuno â'r diwydiant hwn rwyf wedi bod mewn gwaith o hyd ac ystyriaf fy hyn yn ffodus iawn.
Ble fyddwch ymhen 10 mlynedd?
Yn dal i osod lloriau fwy na thebyg! Rwy'n hapus a bodlon yn fy ngwaith.
Cyngor ar ymuno â'r diwydiant adeiladu?
Ewch amdani!
Mae Calum Gillies yn Brentis Gosod Lloriau gyda Islay Flooring and Home Furniture. Ef hefyd yw enillydd cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn 2016 y Contract Flooring Journal a'r Gymdeithas Lloriau Contract.
Beth rydych yn ei wneud?
Rwy'n gosod amrywiaeth eang o loriau ac yn cael cyfle i weld llawer o wahanol fathau o brosiectau. Rwy'n hoffi gwneud yn siŵr fy mod yn gweithio i safon uchel, fel bod y cleientiaid, yn ogystal â'm cyflogwyr, yn fodlon ar safon y gwaith.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Dechreuais osod lloriau pan oeddwn yn 18 oed. Nid hon oedd fy swydd gyntaf, ond dim ond gwaith tymhorol roeddwn wedi'i wneud cyn hynny. Felly, pan glywais fod cwmni lleol am gyflogi prentis, cysylltais i holi am y swydd. Gwnaeth y cwmni fy ateb a chynnig mis o brofiad gwaith i mi. Achubais ar y cyfle a mwynheais y gwaith yn fawr.
Beth rydych yn ei hoffi am eich swydd?
Un o'm hoff bethau am y swydd yw'r ffaith nad wyf byth yn aros yn yr un lle yn rhy hir. Mae pob prosiect yn teimlo'n wahanol, a gall rhai fod yn fwy heriol na'i gilydd, felly rydych yn dysgu drwy'r amser.
Pa sgiliau sydd gennych?
Sgiliau cyllell da, sy'n datblygu gydag ymarfer yn unig, ac ers i mi fod yn y swydd hon, mae fy sgiliau mathemateg yn sicr wedi gwella. Mae gennyf sgiliau rhyngbersonol da hefyd, ac rwyf bob amser yn gwrtais â'r cwsmeriaid ac yn deall eu hanghenion.
Beth rydych yn fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Ennill gwobr 'Prentis y Flwyddyn' y Contract Flooring Journal a'r Gymdeithas Lloriau Contract.
Ble rydych yn gweld eich hun ymhen deng mlynedd?
Yn dal yn hapus yn gweithio yn y diwydiant gosod lloriau, gobeithio.
Unrhyw gyngor i rywun sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu?
Cysylltwch â pherchenogion cwmnïau yn uniongyrchol a dangoswch frwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol tuag at y swydd.