Facebook Pixel

Gosodwr nenfydau

Mae gosodwyr nenfydau yn gosod nenfydau crog ac yn cuddio ac yn diogelu deunyddiau hyll fel gwifrau, pibellau, systemau gwresogi ac aerdymheru. Maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid prosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol, neu gallant arbenigo mewn gwaith adnewyddu neu gynnal adeiladau treftadaeth.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut i fod yn osodwr nenfydau

Mae sawl ffordd o ddod yn osodwr nenfydau. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.  

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr nenfydau i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu’ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni gosod nenfydau yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. 

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd gosodwr systemau mewnol i ddod yn osodwr nenfydau.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel gosodwr nenfydau. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i osodwr nenfydau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr nenfydau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr nenfydau: 

  • Ffitrwydd corfforol a dycnwch
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Gallu i reoli eich amser a’ch llwyth gwaith
  • Bod â llygad am fanylion.

Cymwysterau


Beth mae gosodwr nenfydau yn ei wneud?

Fel gosodwr nenfydau, byddwch yn gyfrifol am sicrhau diogelwch a diddosrwydd nenfydau. Gallai swydd gosodwr nenfydau gynnwys: 

  • Gosod allan, torri a gosod y fframwaith alwminiwm i gynnal nenfwd newydd
  • Defnyddio offer llaw a phŵer a gweithio o lwyfannau mynediad, ysgolion neu sgaffaldiau
  • Gwneud yn siŵr bod y fframwaith yn llorweddol, gan ddefnyddio lefelau gwirod, laser neu ddŵr
  • Gosod paneli nenfwd ar y fframwaith
  • Torri a siapio paneli i ffitio o amgylch goleuadau a gosodiadau eraill
  • Gweithio yng nghartref neu fusnes y cleient.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr nenfydau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr nenfydau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gosodwyr nenfydau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gosodwyr nenfydau hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £35,000*
  • Gosodwyr nenfydau hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gosodwyr nenfydau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr nenfydau, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr tîm neu’n oruchwyliwr ac ennill cyflog uwch. 

Gallech symud i faes adeiladu cysylltiedig fel dylunio mewnol, cadwraeth hanesyddol neu ddylunio setiau. 

Neu, gallech hyfforddi i amcangyfrif neu reoli contractau.

Mae rhai gosodwyr nenfydau yn sefydlu eu busnesau eu hunain. Gallech weithio fel is-gontractwr hunangyflogedig ar brosiectau mwy a gosod eich cyfraddau tâl eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gosodwr nenfydau Mae'n gyfrifol am osod y nenfwd yn ei gyfanrwydd, o ffitio’r fframwaith i siapio...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr leinin sych Mae gweithiwr leinin sych yn creu'r waliau a'r ystafelloedd mewn adeilad. Mae he...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr Systemau Pared Mae gweithiwr systemau pared yn gyfrifol am rannu adeiladau yn adrannau neu ysta...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080