Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Technegwyr ffeibr optig sy’n cynnal systemau ffeibr optig a digidol ac yn gosod rhwydweithiau rhyngrwyd band eang a ffôn.
£16000
-£30000
39-42
Mae sawl ffordd o fod yn dechnegydd ffeibr optig. Gallech gwblhau cwrs coleg, neu brentisiaeth.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn dechnegydd ffeibr optig, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn dechnegydd ffibr optig, fel:
Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i wneud y cyrsiau hyn.
> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech chi hyfforddi i fod yn dechnegydd ffibr optig drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr maes telegyfathrebu, neu brentisiaeth uwch fel technegydd cyfathrebiadau neu osodwr ceblau.
Bydd angen o leiaf yr isod arnoch:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd ffeibr optig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel technegydd ffeibr optig:
Fel technegydd ffeibr optig, byddwch yn gosod ac yn cynnal telegyfathrebiadau ffeibr optig, fel rhwydweithiau band eang, ffonau symudol a ffonau llinell dir, a systemau digidol.
Mae swydd technegydd ffeibr optig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd ffeibr optig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr ffeibr optig:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel technegydd ffeibr optig, gallech ymgymryd â hyfforddiant i symud ymlaen i rôl fel arweinydd tîm neu symud ymlaen i beirianneg drydanol.
Gallech chi hefyd fod yn hunangyflogedig a sefydlu eich busnes gosod trydanol eich hun.