Facebook Pixel

Peiriannydd draenio

A elwir hefyd yn -

Technegydd draenio

Mae peiriannydd draenio’n gyfrifol am ddylunio systemau sy’n symud dŵr neu garthion o un lle i’r llall, mor ddiogel ac mor effeithlon â phosibl. Gall hyn gynnwys ymweld â safleoedd i gael dealltwriaeth o ofynion prosiectau, yn ogystal â dylunio a goruchwylio’r gwaith o osod y systemau hyn.

Cyflog cyfartalog*

£23000

-

£70000

Sut i fod yn beiriannydd draenio

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd draenio. Mae’n debygol y bydd disgwyl i chi fod â gradd prifysgol, ond gallech hefyd gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych brofiad perthnasol.   

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Fel arfer, bydd disgwyl i chi feddu ar radd sylfaen mewn pwnc perthnasol i fod yn beiriannydd draenio. Dyma rai pynciau o’r fath:

  • Daeareg
  • Daearyddiaeth
  • Geoffiseg
  • Geodechnoleg
  • Peirianneg Sifil 
  • Ffiseg
  • Peirianneg
  • Gwyddor yr amgylchedd
  • Peirianneg amgylcheddol.

I astudio gradd sylfaen, fel arfer bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol arnoch. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd angen i chi fynd i goleg neu at ddarparwr hyfforddiant arbenigol i ddechrau ar eich taith i fod yn beiriannydd draenio.

Gallech gwblhau tystysgrif genedlaethol uwch fel HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil, neu HND Lefel 5 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Ar ôl hyn, efallai y byddwch yn gallu gweithio fel peiriannydd dan hyfforddiant a chael hyfforddiant yn y gwaith i gymhwyso.  

Bydd arnoch angen 1 - 2 lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) ar gyfer y cyrsiau hyn, gan gynnwys mathemateg.

Byddai cwrs coleg sy’n arbenigo mewn cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD) yn rhoi sgiliau defnyddiol i chi i’ch helpu ar eich taith i fod yn beiriannydd draenio. Byddwch yn debygol o fod angen cymwysterau TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, ar gyfer hyn

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn beiriannydd draenio.

Mae prentisiaeth gyda chwmni draenio neu waith dŵr yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Neu, gallech gwblhau prentisiaeth peirianneg sifil uwch cyn arbenigo mewn peirianneg draenio.

Ar gyfer prentisiaeth peirianneg sifil uwch, bydd angen y canlynol arnoch:

  • 5 TGAU (gan gynnwys Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol
  • 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol.

Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) yn rhestru’r cyfleoedd prentisiaeth diweddaraf ar eu gwefan.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad mewn rôl beirianyddol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel peiriannydd draenio. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd draenio mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd draenio. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd draenio: 

  • Gwybodaeth am fathemateg, daearyddiaeth a gwyddoniaeth
  • Gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Beth mae peiriannydd draenio yn ei wneud?

Fel peiriannydd draenio, byddwch yn gyfrifol am ddylunio systemau draenio i sicrhau bod dŵr neu garthffosiaeth yn llifo’n ddiogel. Gall y dyletswyddau gynnwys ymweliadau safle, cyfarfodydd prosiect, a gwaith dylunio technegol. Mae peirianneg draenio yn ddisgyblaeth mewn peirianneg sifil, ac felly gall rhai dyletswyddau orgyffwrdd rhwng y rolau hyn. 

Mae swydd peiriannydd draenio yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Arwain cyfarfodydd prosiect
  • Ymweld â safleoedd i feithrin dealltwriaeth o’r prosiect
  • Cynllunio systemau draenio gan ddefnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol
  • Cysylltu â thimau ac adrannau eraill
  • Paratoi costau ac amserlenni
  • Gweithio gyda chleientiaid i sicrhau bod eu gofynion yn cael eu cyflawni a bod eu disgwyliadau’n cael eu bodloni
  • Defnyddio offer modelu cyfrifiadurol uwch
  • Asesu effaith amgylcheddol y gwaith arfaethedig
  • Dilyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n newid er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth
  • Ateb ymholiadau technegol
  • Ymweld â’r safle yn ystod y gwaith adeiladu i wneud yn siŵr bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â’r fanyleb
  • Helpu i ddylunio systemau amddiffyn neu reoli llifogydd
  • Cyfuno dealltwriaeth fanwl o offer dylunio cyfrifiadurol a ffiseg.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd draenio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd draenio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr draenio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £23,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr draenio hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £45,000
  • Gall peirianwyr draenio uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £70,000*
  • Peirianwyr draenio hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr draenio: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd draenio, gallech chi weithio tuag at drosglwyddo eich sgiliau i rôl beirianyddol debyg, fel peiriannydd strwythurol neu beiriannydd geo-dechnegol. Gallech hefyd symud i fyny yn y rôl a dod yn arweinydd tîm, neu'n rheolwr.

Mae peirianneg draenio yn ddisgyblaeth peirianneg sifil, ac o’r herwydd gallech drosglwyddo eich sgiliau i’r rôl hon. 

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd draenio Mae gan beiriannydd draenio rôl dechnegol iawn mewn unrhyw fusnes adeiladu, ac m...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd geo-dechnegol Oes gennych chi ddiddordeb mewn dadansoddi’r risg o beryglon daearegol er mwyn c...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080