Facebook Pixel

Peiriannydd amgylcheddol

Mae peirianwyr amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod yr amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau naturiol, yn helpu i ddatblygu adnoddau ynni adnewyddadwy ac yn gwneud cymaint o ddefnydd â phosibl o ddeunyddiau presennol. Maen nhw’n dylunio technolegau a phrosesau sy’n rheoli llygredd ac yn glanhau unrhyw halogiad.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£90000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn beiriannydd amgylcheddol

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd amgylcheddol. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, neu gallech chi wneud cais am brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. Mae hefyd yn bosibl symud i faes peirianneg amgylcheddol o alwedigaethau cysylltiedig eraill, megis ymgynghoriaeth neu gynaliadwyedd amgylcheddol.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannydd amgylcheddol, i weld pa un yw’r un iawn i chi.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallwch ddod yn beiriannydd amgylcheddol drwy gwblhau gradd mewn pwnc perthnasol fel:

  • Peirianneg sifil
  • Peirianneg amgylcheddol
  • Peirianneg forol
  • Peirianneg fecanyddol
  • Peirianneg gemegol
  • Peirianneg prosesau.

Gallwch chi hefyd astudio ar gyfer rhaglen ôl-radd berthnasol, mewn meysydd fel monitro amgylcheddol, tir halogedig neu beirianneg amgylcheddol, a allai eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwr. Fodd bynnag, gallwch weithio yn y maes hwn heb gymhwyster ôl-radd drwy gynllun i raddedigion, ac mae llawer o gyflogwyr yn cynnig hyn yn y maes hwn.

Yn gyffredinol, bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni amgylcheddol neu awdurdod lleol yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth fel ymarferydd amgylcheddol i’ch helpu i ddod yn beiriannydd amgylcheddol.

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis gradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol neu gymwysterau perthnasol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu neu awdurdod lleol i ennill profiad fel peiriannydd amgylcheddol. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd amgylcheddol mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd amgylcheddol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

  • Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd amgylcheddol:

  • Yn chwilfrydig yn dechnegol
  • Dawn am gasglu a dadansoddi data gwyddonol
  • Cyfathrebwr rhagorol
  • Sgiliau trefnu da
  • Gallu gweithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser llym ar gyfer prosiectau.

Beth mae peiriannydd amgylcheddol yn ei wneud?

Fel peiriannydd amgylcheddol, byddwch chi’n gyfrifol am amrywiaeth o dasgau sy’n ymwneud ag adrodd ar effeithiau amgylcheddol gwaith adeiladu. Gallech fod yn ymweld â safleoedd ac yn darllen, yn datblygu atebion sy’n ymwneud â phroblemau, neu’n cael gafael ar ddogfennau cyfreithiol.

Mae swydd peiriannydd amgylcheddol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Cynnal asesiadau ar safleoedd
  • Cynnal archwiliadau technegol
  • Gwerthuso effaith amgylcheddol
  • Gwneud argymhellion ynghylch gweithgareddau glanhau, adfer a rheoli gwastraff
  • Asesu sut mae safle’n cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol
  • Defnyddio technegau mathemategol a modelu cyfrifiadurol i asesu neu ragweld problemau amgylcheddol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol
  • Dylunio, datblygu, profi a gweithredu atebion technegol a fydd yn helpu sefydliadau i leihau eu heffaith negyddol ar yr amgylchedd
  • Dehongli data
  • Bod yn ymwybodol o newidiadau deddfwriaethol mewn cyfraith amgylcheddol
  • Nodi ac ystyried ffynonellau halogi posibl
  • Cael a chynnal cynlluniau, trwyddedau a gweithdrefnau gweithredu safonol

Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd amgylcheddol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd amgylcheddol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr amgylcheddol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr amgylcheddol hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £30,000 - £55,000
  • Gall peirianwyr amgylcheddol uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £90,000*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa yn gwella os bydd gennych statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr amgylcheddol:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Wrth i chi gael profiad o amrywiaeth eang o brosiectau, efallai y byddwch yn dewis arbenigo mewn maes penodol o beirianneg amgylcheddol megis adfer tir, gwaredu gwastraff neu reoli llygredd aer a dŵr.

Neu, gallech chi ddewis dilyn llwybr rheoli a goruchwylio peirianwyr neu dechnegwyr eraill, neu reoli prosiectau cyfan. Os yw arweinyddiaeth yn apelio atoch chi, gallech anelu at swydd weithredol mewn sefydliad.

Gyda phrofiad sylweddol, efallai y byddwch yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun, gan gynnig eich sgiliau a’ch gwybodaeth dechnegol i amrywiaeth o gleientiaid, neu sefydlu eich ymgynghoriaeth peirianneg amgylcheddol eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd amgylcheddol Helpu i warchod yr amgylchedd yn ystod prosiectau adeiladu drwy leihau llygredd....
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Cynghorydd amgylcheddol Mae cynghorwyr amgylcheddol yn mynd i’r afael â materion fel ansawdd aer, llygre...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arbenigwr adfer Atal safleoedd rhag cael eu llygru drwy ddylunio a rhoi cynlluniau gweithredu ad...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080