Facebook Pixel

Peiriannydd mecanyddol a pheiriannau

A elwir hefyd yn -

Mecanydd Peiriannau Adeiladwaith, Peiriannydd Peiriannau, Peiriannydd Mecanyddol

Fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau, byddwch yn archwilio, dylunio, gosod, neu atgyweirio peiriannau ac offer i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, yn gweithio’n ddiogel ac yn rhedeg yn llyfn.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

40-44

Sut i ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau

Mae sawl llwybr i ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau. Gallech wneud gradd yn y brifysgol, cwrs coleg, prentisiaeth neu drwy hyfforddiant wrth weithio.

Dylech archwilio’r llwybrau hyn i ganfod pa un yw’r un cywir i chi. Er bod gan rai o’r opsiynau hyn ofynion cymhwyster penodol, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, yn barod i ddysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

University

Prifysgol

Gallech astudio ar gyfer gradd sylfaen neu ddiploma cenedlaethol uwch mewn peirianneg fecanyddol.

Canfyddwch beth yw’r gofynion mynediad lle rydych chi’n byw.

Coleg/darparwr hyfforddiant

I ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau gallech ddechrau trwy ddilyn cwrs a fydd yn rhoi rhai o’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer swydd dan hyfforddiant ar ôl i chi orffen.

Canfyddwch beth yw’r gofynion mynediad lle rydych chi’n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth â chwmni adeiladu yn ffordd dda i mewn i’r diwydiant.

Gallech gwblhau uwch brentisiaeth mewn peirianneg gweithgynhyrchu mecanyddol neu beirianneg cynnal a chadw i ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau.

Mae prentisiaethau yn agored i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi’n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad-wrth-weithio a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Canfyddwch beth yw’r gofynion mynediad lle rydych chi’n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad o weithio fel peiriannydd mecanyddol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau. Efallai y byddwch chi’n dechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd mecanyddol a pheiriannau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd gwella.

Profiad Gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i gael cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill hwn yn yr ysgol, drwy weithio ar benwythnosau a gwyliau â chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi’i restru ar eich CV.

Sgiliau

Ymhlith y sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau mae’r canlynol:

  • Y gallu i ddefnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Sgiliau a gwybodaeth dylunio
  • Y gallu i weithio’n dda â’ch dwylo
  • Sgiliau manylu rhagorol
  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau ymarferol ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw offer.

Cymwysterau

I ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau, gallech gwblhau:

  • NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau Adeiladu neu Gynnal a Chadw Peiriannau
  • Prentisiaeth Lefel 2 i ddod yn Weithredwr Peiriannau Adeiladu

I ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau, gallech gwblhau:

  • SVQ ar Lefel 5 a 6 SCQF mewn Cynnal a Chadw Peiriannau
  • Prentisiaeth fodern SCQF Lefel 5 a 6 mewn Peirianneg Sifil (Cynnal a Chadw Peiriannau)

I ddod yn beiriannydd mecanyddol a pheiriannau, gallech gwblhau:

  • Lefel 1, 2 a 3 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau Adeiladu
  • Prentisiaeth lefel 2 a 3 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau

Beth mae peiriannydd mecanyddol a pheiriannau yn ei wneud?

Fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau, byddwch yn gyfrifol am ddylunio, gweithredu, atgyweirio a chynnal a chadw cyffredinol peirianwaith. Gall hyn gynnwys ymchwilio i broblemau a dod o hyd i atebion.

Mae rôl peiriannydd mecanyddol a pheiriannau yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  •  Dylunio a gweithredu addasiadau offer i helpu i wella diogelwch a dibynadwyedd
  • Ymchwilio a phrofi syniadau i wella systemau presennol neu i oresgyn problemau peiriannau
  • Gwneud rhannau a gosod a phrofi peiriannau
  • Cynnal a chadw a nodi a thrwsio diffygion mewn offer
  • Datrys problemau cymhleth ag adrannau gweithgynhyrchu, isgontractwyr, cyflenwyr a chwsmeriaid
  • Rheoli prosiectau
  • Cynllunio a dylunio prosesau cynhyrchu newydd
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, o fewn a thu allan i’r sector peirianneg
  • Monitro a chomisiynu peiriannau a systemau

Faint allech chi ei ennill fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau?

Mae cyflog disgwyliedig peiriannydd mecanyddol a pheiriannau yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.

  • Gall peirianwyr mecanyddol a pheiriannau sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr mecanyddol a pheiriannau hyfforddedig sydd â rhywfaint o brofiad ennill rhwng £30,000 - £40,000
  • Gall uwch beirianwyr mecanyddol a pheiriannau ennill £40,000 - £50,000*.

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar leoliad, cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Cymerwch gipolwg ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr mecanyddol a pheiriannau:

Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy’n gysylltiedig â’ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau, gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr trafnidiaeth neu’n rheolwr logisteg a pheiriannau.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd mecanyddol a pheiriannau Fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau, byddwch yn archwilio, dylunio, gosod, ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr peiriannau Bod yn gyfrifol am yr holl beiriannau trwm sy’n cael eu defnyddio ar safleoedd a...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr trafnidiaeth Sicrhau bod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffordd yn cael eu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080