Sut mae cystadleuaeth SkillBuild yn gweithio?
Mae’r Rowndiau Rhanbarthol yn cael eu cynnal ledled y DU, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn. Mae’r digwyddiadau undydd hyn yn dod â phrentisiaid a hyfforddeion at ei gilydd i gwblhau tasg benodol sy’n berthnasol i’w crefft. Ar ôl i’r cystadleuwyr orffen, mae’r marciau’n cael eu casglu ac mae’r wyth cystadleuydd sydd â’r sgoriau uchaf ym mhob sgil arbenigol yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf – Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild UK.
2. Cofrestru
Mae’r ffenestr gofrestru ar gyfer Rowndiau Rhanbarthol SkillBuild yn agor ym mis Chwefror i gystadleuwyr. Bydd y rheini sydd wedi cofrestru’n llwyddiannus yn cael gwybod cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cyfnod cofrestru ddod i ben ddechrau mis Ebrill.
3. Rowndiau Rhanbarthol SkillBuild
Rhwng mis Ebrill a diwedd mis Mehefin, cynhelir Rowndiau Rhanbarthol SkillBuild ledled y DU. Gwahoddir yr wyth cystadleuydd sydd â’r sgoriau uchaf ym mhob sgil i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild UK.
4. Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild UK
Bydd y cystadleuwyr sy’n cael y sgoriau uchaf yn y rowndiau rhanbarthol yn mynd ymlaen i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild, sy’n gystadleuaeth tri diwrnod.