Facebook Pixel

Her Adeiladu Pont CREST - Lefel Efydd

Enw’r Gweithgaredd: 
Her Adeiladu Pont CREST - Lefel Efydd

Disgrifiad o’r Gweithgaredd: 
Mae hwn yn weithgaredd tîm lle mae’n rhaid i’r cyfranogwyr gynllunio pont i groesi’r Afon Ddysgu, gan ystyried disgwyliadau’r cleient o ran draenio, cynaliadwyedd, estheteg a’r amgylchedd.

Dylai’r prosiect ddechrau gydag ymweliad safle i weld o leiaf un pont. Nid oes angen i hwn fod yn safle ‘byw’.

Mae angen i fentor gefnogi’r cyfranogwyr yn eu gwaith. Gall y person hwn fod o ddiwydiant neu, fel arall, fod yn arweinydd gweithgareddau neu’n arweinydd grŵp.

Nod y Gweithgaredd:  Nod Gwobrau CREST yw codi ymwybyddiaeth o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymysg pobl ifanc, a thynnu sylw at y gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r pynciau hyn.

Erbyn diwedd y prosiect, dylai cyfranogwyr fod wedi llunio cynllun safle o’r bont a’r ardal gyfagos ac adroddiad unigol yn pwyso a mesur yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu. Dylent hefyd amlinellu rôl pob unigolyn yn y tîm

Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):  11-16 oed.

Her Adeiladu Pont CREST - Lefel Efydd

Maint y Grŵp:  Rydym yn argymell na ddylai’r grŵp fod yn fwy na 15-20, gyda phedwar neu bump ym mhob tîm. Efallai y bydd angen i gwmnïau sy’n cynnal ymweliadau safle gyfyngu ar y niferoedd sy’n defnyddio safle ‘byw’ ar yr un pryd.

Rhagor o wybodaeth:  I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i Daflen Flaen y Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Paratoi a’r Adnoddau y byddwch eu hangen
  • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Ymestyn
  • Amserlen a Awgrymir

Dogfennau i’w Llwytho i lawr

Llwytho Pob Dogfen i Lawr:

Her Adeiladu Pont CREST - Lefel Efydd
Maint y ffeil: 57.4MB

Llwythwch bob dogfen i lawr ar gyfer Her Adeiladu Pont Crest - Lefel Efydd.

LAWRLWYTHO - Her Adeiladu Pont CREST - Lefel Efydd
Dyluniwyd y wefan gan S8080