Facebook Pixel

Pa brentisiaethau alla i eu gwneud ar ôl gorffen Safon Uwch?

Does dim rhaid i chi fynd i’r brifysgol ar ôl i chi sefyll eich arholiadau Safon Uwch. Os ydych chi eisiau dechrau ar eich gyrfa ar unwaith, ennill cyflog ac ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ar yr un pryd, beth am ddechrau prentisiaeth

Uwch Brentisiaethau

Yng Nghymru, mae’r mathau cyfatebol o brentisiaethau yn cael eu galw’n lefel Prentisiaeth.

Ar ôl sicrhau cymwysterau Safon Uwch, byddwch chi eisoes wedi cyrraedd y gofynion mynediad ar gyfer Uwch Brentisiaeth (fel arfer bydd cyflogwyr ond yn gofyn am bump TGAU ar raddau 9 i 4/A* i C). Mae uwch brentisiaethau yn ffordd wych o ennill sgiliau ymarferol yn y gwaith a phrofiad mewn swydd a sector penodol.  Mae mwy ohonynt nag y byddech chi’n meddwl hefyd – yn gynyddol mewn sectorau fel cyllid, cyfrifeg a TG yn ogystal â chrefftau mwy traddodiadol. 

Byddwch chi’n rhannu eich amser rhwng gwaith ag astudio. Gall eich cyflogwr drefnu eich bod chi’n astudio un diwrnod yr wythnos, neu osod eich cyfnodau astudio mewn blociau. Byddwch chi’n cwblhau eich prentisiaeth o fewn 2 i 4 blynedd. Mae’r cymhwyster yn cyfateb i NVQ Lefel 3.

Prentisiaethau Uwch

Gallech ddewis peidio â gwneud Uwch Brentisiaethau a chamu ymlaen yn syth i Brentisiaeth Uwch. Efallai y bydd y rhain yn teimlo fel y cam nesaf cywir i chi o safbwynt academaidd ar ôl cymwysterau Safon Uwch, gan eu bod yn gymwysterau NVQ Lefel 4. Mae cyflogwyr fel arfer yn gofyn am gymwysterau Safon Uwch fel gofyniad mynediad, ac efallai y byddant yn nodi pwnc perthnasol.

Gall gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau Prentisiaeth Uwch. Mae swydd barhaol ar ddiwedd llawer o brentisiaethau uwch. Os nad yw’r cwmni’n eich cyflogi ar ôl y brentisiaeth, neu os byddwch chi’n penderfynu edrych yn rhywle arall, byddwch chi’n dal i fod yn ymgeisydd hynod gyflogadwy.  

Gallai’r cymhwyster rydych chi’n ei ennill fod yn Ddiploma Cenedlaethol Uwch neu’n radd sylfaen.

Gradd-brentisiaethau

Ai’r prentisiaethau hyn yw’r ateb i’n holl freuddwydion?

Gyda gradd-brentisiaeth, byddwch chi’n cael eich talu i astudio mewn prifysgol, a gweithio i’ch cyflogwr ar yr un pryd. Does dim dyledion chwaith!

Does dim rheswm pam na allwch chi wneud cais am radd-brentisiaeth yn syth ar ôl sefyll eich arholiadau Safon Uwch. Er hynny, prentisiaethau Lefel 6 yw’r rhain, a does dim cymaint â hynny ohonynt ar gael. Mae’r broses ymgeisio yn gystadleuol iawn, a byddan nhw bron yn sicr o ofyn am brofiad perthnasol yn y diwydiant o’ch dewis. Mae gradd-brentisiaethau fel arfer wedi cael eu hanelu fwy at weithwyr presennol sydd wedi cael cryn dipyn o brofiad gwaith. Rhaid i’ch cyflogwr fod yn barod i fuddsoddi ynoch chi, gan fod gradd-brentisiaethau’n gostus.

Gall gymryd rhwng 3 a 6 blynedd i gwblhau gradd-brentisiaethau.

Beth os na fyddaf yn llwyddo yn fy Safon Uwch?

Peidiwch â bod yn rhy siomedig os na chewch chi’r graddau roeddech chi eu heisiau yn eich pynciau Safon Uwch. Mae’n dal yn bosibl i chi wneud cais am Uwch Brentisiaeth, gan mai dim ond am bump TGAU y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt fel arfer. Neu gallech chi ystyried ailsefyll eich arholiadau Safon Uwch a gwneud cais arall am Brentisiaeth Uwch.

Sut mae gwneud cais am brentisiaeth?

Mae llawer o ffyrdd o chwilio ac ymgeisio am brentisiaethau. Gallech chi edrych ar wefannau fel Talentview, TotalJobs, Indeed neu wasanaeth prentisiaethau’r llywodraeth. Gallwch chi wneud cais am brentisiaethau drwy lanlwytho eich CV neu wneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr.

Awgrym defnyddiol > ar Talentview, os deipiwch chi “Uwch Brentisiaeth” neu “Brentisiaeth Uwch” (gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y dyfyniadau dwbl) yn y bar chwilio Allweddeiriau, dim ond canlyniadau ar gyfer uwch brentisiaethau neu brentisiaethau uwch y byddwch chi’n eu gweld.

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Ydych chi wedi ystyried gwneud prentisiaeth adeiladu ar ôl Safon Uwch? Maen nhw’n ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym ni’r holl wybodaeth yma er mwyn i chi ddechrau arni, gan gynnwys canllawiau i dros 170 o wahanol swyddi. Bydd y rhain yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r math o swyddi sy’n addas i chi, y sgiliau sydd gennych a’r sgiliau rydych chi am eu hennill. 

Dyluniwyd y wefan gan S8080