Facebook Pixel

Y camau nesaf i ffoaduriaid

Mae’r ddelwedd o adeiladu fel sector sy’n cael ei dominyddu gan ddynion yn hen ffasiwn.

Yn hytrach, mae’n ddiwydiant croesawgar ac amrywiol iawn, sy’n cyflogi pobl o amrywiaeth o gefndiroedd.


Sut gall ffoaduriaid ddechrau gwneud cais am swyddi adeiladu?

Gwneud Cais am swyddi adeiladu

Boed yn brentisiaeth, yn rôl ar y safle neu’n swydd weinyddol, mae adeiladu’n gweddu ar gyfer pob sgil. Mae ein Chwilotwr Gyrfa yn rhoi rhestr o rolau y gallai ffoaduriaid gymryd rhan ynddynt.

Wrth wneud cais am gyfle, efallai y bydd angen i ffoaduriaid gyflwyno’r dogfennau canlynol i gyflogwr:

  • Llythyr eglurhaol wedi’i deilwra a CV, yn amlinellu sgiliau neu gymwysterau perthnasol, ac unrhyw brofiad gwaith blaenorol o’u gwlad enedigol
  • Prawf o’u Trwydded Preswylio Biometrig a’u rhif Yswiriant Gwladol
  • Unrhyw ddogfennau eraill y mae darpar gyflogwr yn gofyn amdanynt, fel ffurflenni gan Gyllid a Thollau EM a’r Swyddfa Gartref

Pa gyfleoedd all y sector eu cynnig?

HANES AM LWYDDIANT

Y cyfle i ddechrau gyrfa newydd

Sut daeth daearegwr o Iran o hyd i lwybr gyrfa newydd yn y DU

Asiantaeth yn Llundain yw Transitions, sy’n helpu ffoaduriaid medrus i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith yn y DU. Dyma hanes am un o’u llwyddiannau, gan ddynes o’r enw Narges. 

Ar ôl gadael Iran, cafodd daearegwr o’r enw Narges rolau gwirfoddol a rolau gwasanaeth i gwsmeriaid i roi hwb i’w Saesneg ac i gael geirdaon. Ar ôl cysylltu â Chyngor y Ffoaduriaid a Transitions, cafodd ei hannog i fireinio ei CV a holi arbenigwyr er mwyn dysgu mwy am ei diwydiant.

Gyda chymorth pellach gan sefydliad dielw o’r enw Women in Construction, llwyddodd i sicrhau lleoliad gwaith am bythefnos i ddechrau gyda DSJV. Arweiniodd hyn wedyn at brentisiaeth peirianneg sifil gyda’r cwmni – a’r cyfle i ddechrau gyrfa newydd.

Y cyfle i ddechrau gyrfa newydd
Rydw i’n teimlo’n fwy hyderus bellach ac mae gen i obaith ar gyfer fy nyfodol.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yn y sector adeiladu ar gael ar ein tudalen Sut beth yw gweithio ym maes adeiladu? 

Mae rhagor o ganllawiau ar sut i gael mynediad i’r farchnad waith fel ffoadur ar gael gan Gyngor y Ffoaduriaid 

Dyluniwyd y wefan gan S8080