Facebook Pixel

Pwysigrwydd rhwydweithiau LHDTC+ yn y diwydiant adeiladu

Yn ôl Stonewall, mae tua 35% o’r gweithwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Cwiar a Mwy (LHDTC+) yn dal i deimlo bod angen iddyn nhw guddio eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol yn y gwaith am bod ofn arnynt y byddant yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn. Dyna pam mae rhwydweithiau LHDTC+ mor hanfodol, o fewn cwmnïau unigol ac fel sefydliadau ar y cyd.

Beth yw rhwydwaith LHDTC+?

Mae rhwydwaith LHDTC+ yn grŵp sy’n cael ei ffurfio gan weithwyr cwmni sy’n rhoi cymorth ar y cyd i aelodau o staff o’r gymuned LHDTC+.

Beth yw manteision rhwydweithiau LHDTC+ i unigolion ac i’r diwydiant yn gyffredinol?

Mae rhwydweithiau LHDTC+ yn cefnogi gweithwyr a allai fod yn teimlo bod eu hamgylchedd gwaith yn heriol. Efallai nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn gallu mynegi eu hunaniaeth rhywedd yn y gwaith neu fod angen mwy o hyder arnynt i wneud hynny. Mae rhwydweithiau LHDTC+ yn ‘fannau diogel’ lle gall staff fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt am eu hamgylchedd gwaith, edrych ar werthoedd cynhwysol eu cwmni a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb yn y sefydliad. Gall gweithwyr neu gyflogwyr sefydlu rhwydweithiau LHDTC+.

Enghreifftiau o rwydweithiau LHDTC+

Sefydliad LHDT

Mae’r Sefydliad LHDT, a sefydlwyd ym 1975, yn elusen genedlaethol sy’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau i bobl LDHTC+ sydd mewn angen. Mae’r Sefydliad yn dathlu ac yn grymuso unigolion LHDTC+ a chymunedau amrywiol i wireddu eu llawn botensial, gan gynnig gobaith a chefnogaeth i bobl ar eu teithiau unigol.

Pensaernïaeth LHDT+

Sefydlwyd Pensaernïaeth LHDT+ i gynnig lle diogel i benseiri a gweithwyr adeiladu proffesiynol. Mae’r rhwydwaith cenedlaethol, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, yn trefnu amrywiaeth o seminarau, digwyddiadau rhwydweithio LHDTC+, trafodaethau panel, partïon a digwyddiadau Balchder dros dro.

Meithrin Cydraddoldeb

Gweledigaeth y rhwydwaith Meithrin Cydraddoldeb yw diwydiant adeiladu cwbl gynhwysol sy’n rhydd o ragfarn ac sy’n croesawu pob cydweithiwr LHDTC+. Mae dros 60 o ganghennau ledled y DU yn cymryd rhan mewn mentrau ar y cyd sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion LHDTC+, ac yn cefnogi ac yn annog cynhwysiant ac amrywiaeth yn y diwydiant.

Interengineering

Rhwydwaith proffesiynol yw ‘Interengineering’ sy’n cysylltu, yn rhoi gwybodaeth ac yn grymuso pobl LHDTC+ sy’n gweithio ym maes peirianneg yn y DU. Mae’r aelodau’n cwrdd yn rheolaidd i rannu eu barn, eu profiadau a’u pryderon. Cynhelir digwyddiadau rhwydweithio ledled y wlad.

Rhwydweithiau LHDTC+

Paula McMahon o Sir Robert McAlpine yn sefyll o flaen set o ddrysau lliwgar, yn dal mwg
Paula McMahon o Sir Robert McAlpine
Lilly Connors, Senior Advanced Timetable Analyst at Network Rail
Lilly Connors of Network Rail

Buom yn siarad â Paula McMahon, Cyd-gadeirydd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw yn Sir Robert McAlpine, cyflogwr cofrestredig CITB a Lilly Connors, arweinydd cyfathrebu ar gyfer Archway (rhwydwaith LHDTC+ Network Rail), am bwysigrwydd rhwydweithiau LHDTC+ yn y diwydiant adeiladu.

Pam ydych chi’n meddwl bod rhwydweithiau LHDTC+ mor bwysig yn y diwydiant adeiladu?

Paula: Mae rhwydweithiau ar gyfer unrhyw bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn caniatáu i bobl wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain; mae angen i bob un ohonom ni wybod ein bod ni’n rhan o gymuned.

Lilly: O safbwynt y rheilffordd, yn hanesyddol mae’r diwydiant hwn wedi bod yn ofod a ddominyddwyd gan ddynion. Ond mae hefyd yn ddiwydiant sy’n esblygu ac yn newid yn aruthrol, ac mae angen gweithwyr a systemau cymorth sy’n adlewyrchu hyn. Gall rhwydweithiau LHDTC+ helpu i newid meddyliau a rhoi llais i bobl a allai fod wedi teimlo’n unig yn flaenorol. Yn logistaidd mae’r diwydiant yn cynnwys cymaint o rannau a chydweithwyr mewn cymaint o leoliadau, ac mae angen rhwydwaith LHDTC+ ar y bobl hyn. Fel eu bod yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a’u bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n rhan o rhywbeth mwy.

Ym mha ffyrdd mae rhwydweithiau LHDTC+ yn cyfrannu at y gymuned ehangach o bobl LHDTC+ yn ei chyfanrwydd?

Paula: Mae rhwydweithiau LHDTC+ yn cyfrannu mewn sawl ffordd; maen nhw’n rhoi fforwm i bobl sy’n cael eu tangynrychioli ac yn eu gwneud yn fwy gweladwy. Mae gwelededd yn bwysig, ac os ydyn ni’n treulio’n amser holl yn eistedd mewn seilos, byddwn ni’n meddwl bod y byd cyfan yn edrych, yn ymddwyn ac yn siarad fel ni.

Lilly: Mae gan rwydweithiau LHDTC+ gyfraniad enfawr i’r gymuned LHDTC+ ehangach. Boed hyn trwy gymryd rhan mewn gorymdeithiau Pride a rhoi’r amlygrwydd hwnnw i’r diwydiant fel gweithle cynhwysol, neu godi arian i elusennau lleol trwy weithgareddau pwrpasol. Gallant hefyd gael effaith dim ond wrth fodoli. Trwy sefyll i fyny a dweud ein bod yn rhwydwaith o gydweithwyr LHDTC+ yn y diwydiant hwn ac mae gennym gymaint i’w gynnig.

Ym mha ffyrdd y mae rhwydweithiau LHDTC+ yn helpu i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant adeiladu?

Paula: Mae gan lawer iawn o bobl y sgiliau sydd eu hangen arnom. Mae rhwydweithiau LHDTC+ yn agor y posibilrwydd o ehangu’r gronfa o bobl sydd ar gael i fod yn weithwyr adeiladu proffesiynol y dyfodol.

Pa heriau mae rhwydweithiau LHDTC+ yn eu hwynebu, a sut gellir eu goresgyn?

Paula: Diffyg cynghreiriaid, rhywbeth sy'n allweddol er mwyn cyflawni gwir gynhwysiant. Dylai pob rhwydwaith fod yn rhwydwaith affinedd sy’n croesawu’r rheini nad ydynt yn diffinio eu hunain yn LHDTC+.

Lilly: Un o’r heriau mwyaf y mae rhwydweithiau LHDTC+ yn ei hwynebu yw bod eu timau arwain yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n mynd y tu hwnt i’w swydd bob dydd, ac weithiau mae’n anodd dod o hyd i’r amser i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Un ffordd y gellir goresgyn hyn yw cael tîm arwain mawr â rolau amrywiol sy’n caniatáu i’r rhwydwaith weithredu, h.y. arweinydd cyfathrebu, arweinydd polisi ac ati. Gellir dyblu’r rolau hyn fel bod straen y llwyth gwaith yn cael ei ledaenu. Fodd bynnag, mae’n allweddol i’r cwmni ei hun gydnabod mai rolau gwirfoddol yw’r rhain a chefnogi hyn lle bynnag y gallant.

Sut ydych chi’n meddwl y bydd rhwydweithiau LHDTC+ yn esblygu yn y dyfodol?

Paula: Byddan nhw’n croesawu pawb.

Sut gall unigolion nad ydyn nhw’n rhan o’r gymuned LHDTC+ gefnogi a chynghreirio â’r rhwydweithiau LHDTC+?

Paula: Ymuno â nhw! Dod o hyd i’ch rhwydwaith lleol a chysylltu â nhw.

Lilly: Dysgu. Dyna’r peth gorau y gall cynghreiriaid ei wneud. Dylem fod yn addysgu ein hunain o hyd ac yn chwilio am gyfleoedd i gael ein haddysgu. Bydd hyn yn helpu cynghreiriaid i ddeall beth sydd ei angen ar bobl yn y gymuned a rhwydweithiau LHDTC+, a sut y gallant ddefnyddio eu llais i helpu.

Yn eich barn chi, beth yw cyflawniad mwyaf arwyddocaol eich rhwydwaith hyd yma?

Paula: Yn SRM, mae gennym Rwydwaith Affinedd LHTD+ a gynhaliodd ymgyrch yn ddiweddar i enwi ein Peiriant Dadlwytho Enfys. Cafwyd ymateb anhygoel ar sianeli cyfryngau mewnol ac allanol. Yn y pen draw, fe wnaethon ni ddewis ‘Dolly – Wheels of Pride’

Lilly: Yn fy marn i, cyflawniad mwyaf arwyddocaol Archway (Rhwydwaith Gweithwyr LHDTC+ Network Rail) fu ei ymgyrch ddiweddaraf lle gofynnwyd i gydweithwyr beth mae’n ei olygu i fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws fel rhan o ymgyrch ehangach i archwilio’r acronym LHDTC+. Roedd hon yn ymgyrch hynod bersonol ac addysgiadol y gobeithiwn y bydd yn addysgu ein cydweithwyr ac yn grymuso ein cymuned LHDTC+.

Pa neges hoffech chi ei rhannu â’r rheini a allai fod yn ystyried ymuno â rhwydwaith LHDTC+?

Paula: Ewch amdani!

Lilly: Ei wneud, yn bendant. P’un a ydych yn y gymuned LHDTC+, yn gynghreiriaid, neu os nad oes gennych unrhyw syniad ble rydych chi’n ffitio, ymunwch â’ch rhwydwaith LHDTC+. Byddwch yn cael eich addysgu, eich ysbrydoli, a’ch dyrchafu gan eich cydweithwyr. Mae’n ofod i bawb.

Awgrymiadau ar gyfer creu rhwydwaith gweithwyr LDHTC+

Cael eich cwmni i gymryd rhan

Ceisiwch sicrhau bod uwch aelodau o’ch sefydliad a’ch adran Adnoddau Dynol yn ymgysylltu â’ch cynlluniau i sefydlu rhwydwaith LHDTC+. Bydd cael eu cefnogaeth a’u cymorth yn gwneud gwahaniaeth mawr. Gallan nhw roi polisïau ar waith i ganiatáu i aelodau fynychu cyfarfodydd, helpu i ddarparu cyllid a chodi ymwybyddiaeth o’r rhwydwaith yn y cwmni.

Cynnwys pobl eraill

Mae angen pobl arnoch chi i ymuno â’r rhwydwaith! Gofynnwch i gydweithwyr rydych chi’n gwybod sydd wedi dod allan a fydden nhw’n hoffi cymryd rhan a hyrwyddo’r rhwydwaith yn fewnol. Mae’n debygol hefyd y bydd pobl nad ydyn nhw wedi cael yr hyder eto i ddod allan yn y gwaith, ond a fyddai’n gwerthfawrogi cael cymryd rhan yn y rhwydwaith LHDTC+.

Sefydlu pwyllgor rhwydwaith

Rhannwch y baich drwy greu pwyllgor o bobl i redeg y rhwydwaith. Chi sy’n penderfynu a fyddwch chi’n creu swyddi ffurfiol fel Cadeirydd, Ysgrifennydd neu Drysorydd, ond bydd gweithio ar y cyd yn helpu i gadw’r rhwydwaith yn ddemocrataidd gan adlewyrchu’r gwerthoedd amrywiol rydych chi’n anelu atyn nhw.

Sefydlu nodau clir

Cael dealltwriaeth glir o beth yw nodau eich rhwydwaith. Ysgrifennwch ddatganiad cenhadaeth neu gosodwch dargedau ar gyfer yr hyn rydych chi am ei gyflawni bob blwyddyn.

Hyrwyddo eich rhwydwaith

Gwnewch yn siŵr bod eich sefydliad yn gwybod bod eich rhwydwaith yn bodoli. Anfonwch neges e-bost i holl staff y cwmni, dechreuwch sianel ar eich llwyfan Teams neu Slack, gosodwch bosteri o amgylch yr adeilad, a gofynnwch i dîm cyfryngau cymdeithasol eich cwmni hyrwyddo’r rhwydwaith LHDTC+.

Wedi’ch ysbrydoli gan yr hyn rydych chi wedi’i ddarllen? Dysgwch fwy am amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant adeiladu!

Mae gennym ddigon o wybodaeth yn Am Adeiladu am yr hyn sy’n digwydd i wella amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant adeiladu, a straeon go iawn gan bobl sy’n gweithio yn y diwydiant.

Dyluniwyd y wefan gan S8080