Mae chwilio am swydd yn gyffrous, yn enwedig os ydych chi’n gadael yr ysgol. Mae’n gyfle i ddechrau ennill rhywfaint o arian go iawn a rhoi cychwyn da i’ch bywyd gwaith, ond gall gyflwyno heriau hefyd.  

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu i chwilio am swydd.  


Pennu eich nodau gyrfa

Am beth ydych chi’n chwilio yn eich gyrfa? Beth sy’n eich cymell chi? Arian? Boddhad yn y swydd? Gweithio y tu allan a ‘baeddu eich dwylo’? Efallai y byddai’n well gennych weithio mewn swyddfa, neu efallai bod cyfle i weithio dramor yn eich cyffroi? Ydych chi’n dda gyda phobl ac yn meddwl y byddech chi’n gwneud rheolwr da?  

Bydd pennu eich nodau gyrfa yn eich helpu i ddeall pa fath o swydd y dylech chi ddechrau chwilio amdani.  

Gwnewch yn siŵr bod eich CV a’ch llythyr eglurhaol wedi’u teilwra ar gyfer y swydd

Dylai fod gennych Curriculum Vitae (CV) cyfredol, sy'n crynhoi eich cymwysterau addysgol a'ch profiad gwaith. Os ydych chi’n gwneud ceisiadau ar hap, dylech bob amser gynnwys llythyr eglurhaol gyda’ch CV, yn esbonio pam eich bod yn meddwl eich bod yn addas i weithio i’r cwmni dan sylw. 

Bydd gan y rhan fwyaf o bobl fersiwn o’u CV a llythyr eglurhaol. Y peth pwysig i’w wneud yw sicrhau bod eich CV a’ch llythyr eglurhaol yn cael eu diweddaru a’u teilwra i gyd-fynd â’r cwmni neu’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Does dim rhaid i chi ysgrifennu llythyr eglurhaol newydd bob tro – oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny. Dylech ei ddiweddaru fel na fyddai gan ddarpar gyflogwr unrhyw amheuaeth ei fod yn ymwneud â’r rôl y mae am ei llenwi. 

Cewch ragor o awgrymiadau ar ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer swyddi ym maes adeiladu.  

Bwrw golwg ar eich cyfryngau cymdeithasol

Pan fydd cyflogwr yn cael cais am swydd, efallai y bydd yn gwneud rhywfaint o waith ymchwil cychwynnol. Mae’n aml yn edrych ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol ymgeisydd, felly mae’n werth adolygu eich cyfrifon ar safleoedd fel Facebook, Twitter ac Instagram i wneud yn siŵr nad oes dim na fyddech chi eisiau i ddarpar gyflogwr ei weld, neu i ddiweddaru eich gosodiadau fel mai dim ond yr wybodaeth fwyaf sylfaenol amdanoch chi sydd ar gael i’r cyhoedd.  

Os oes unrhyw luniau, fideos neu bostiadau a allai, yn eich barn chi, greu argraff negyddol ohonoch chi yng ngolwg darpar gyflogwyr, dylech eu dileu.  

Neilltuo amser i chwilio am swydd

Faint o amser ddylech chi ei dreulio yn chwilio am swydd?  

Bydd y cyfan yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, ac a ydych eisoes yn gweithio, mewn addysg amser llawn neu'n ddi-waith. Does neb yn disgwyl i chi dreulio’r holl amser sydd gennych yn gwneud un cais am swydd ar ôl y llall. Os ydych chi yn yr ysgol neu os oes gennych swydd amser llawn, yna ceisiwch wneud ychydig o oriau y noson ac yna efallai yr un fath ar benwythnosau. Os ydych chi’n ddi-waith, yna mae’n debyg y bydd 20-25 awr yr wythnos yn fwy na’r rhan fwyaf o’ch cystadleuwyr am swyddi gwag, heb i’r broses o chwilio am swydd eich llethu neu roi gormod o straen arnoch.  

Buddsoddwch amser ynoch eich hun gyda hyfforddiant 

Fel yr ydym wedi dweud, nid oes rhaid treulio 8 awr y dydd a 40 awr yr wythnos yn chwilio am waith. Gellir defnyddio’r amser sydd gennych ar ôl i wella eich sgiliau drwy gyrsiau hyfforddi. Mae llawer o gyrsiau am ddim y gallwch eu dilyn ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y rhain yn helpu i ddangos eich ymrwymiad i ddysgu mwy am yrfa neu ddiwydiant penodol, a gellir eu hychwanegu at eich CV a’u crybwyll mewn unrhyw geisiadau am swydd neu lythyrau eglurhaol.  

Penderfynwch ar y diwydiant rydych chi am weithio ynddo 

Un o’r camau cyntaf i’w cymryd wrth chwilio am swydd yw setlo ar ddiwydiant neu’r math o swydd rydych chi eisiau ei gwneud neu’n meddwl y byddech chi’n addas ar ei chyfer. Yn amlwg, gallai hyn fod yn unrhyw beth – ond ceisiwch wneud yn siŵr ei fod yn realistig ar gyfer y cymwysterau sydd gennych neu yr ydych yn gobeithio eu cael.  

Ni all pawb fod yn ofodwr, yn llawfeddyg yr ymennydd neu’n bêl-droediwr, ond mae llawer mwy o gyfleoedd nag y tybiwch ar gael i chi. Os nad ydych chi'n siŵr beth rydych chi am ei wneud, gofynnwch am gyngor gyrfa. 


Meddwl am yrfa ym maes adeiladu?

Os ydych wedi dewis maes adeiladu, mae gennym ddigon o adnoddau i’ch helpu chi i chwilio am swydd.