P’un a ydych wedi cyflawni y tu hwnt i’r hyn yr oeddech yn gobeithio amdano, neu’n teimlo’n siomedig yn eich canlyniadau, efallai eich bod yn pendroni beth sy’n dod ar ôl TGAU. Pa brentisiaethau allwch chi eu gwneud ar ôl TGAU? Beth yw eich opsiynau ar ôl pasio? Beth yw’r camau nesaf os na wnaethoch chi basio? Gellwch fod yn hollol sicr bod rôl ddelfrydol yn aros amdanoch mewn diwydiant fel adeiladu. Rydyn ni’n mynd i ddadansoddi rhai o’r opsiynau sydd ar gael i chi yn seiliedig ar eich sefyllfa.

Student taking exam

Rwyf wedi pasio ambell TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg

Newyddion gwych! Fel y dywedwyd wrthych efallai yn yr ysgol, Saesneg a Mathemateg yw’r ddau bwnc sy’n darparu’r ystod ehangaf o gyfleoedd os byddwch yn eu pasio. Os ydych wedi pasio pwnc arall y mae gennych ddiddordeb arbennig ynddo, gallech ystyried mynd ar drywydd hwnnw ymhellach. Er enghraifft, os ydych yn mwynhau Daearyddiaeth ac yn cael canlyniadau da, gallech ystyried rôl adnoddau dynol neu mewn cynllunio trefi. Os mai Ffiseg oedd un o’ch pynciau gorau, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn peirianneg, y gallech ei dilyn â phrentisiaeth neu drwy gwblhau Lefelau A perthnasol ac yna cwrs prifysgol neu goleg.

Rydw i wedi colli allan ar gymhwyster Saesneg neu Fathemateg

Er y gallech deimlo eich bod yn colli cyfleoedd, gallwch barhau i gael gyrfa wych o’ch blaen. Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaethau sydd â Saesneg a Mathemateg yn gymhwyster gofynnol yn dal i’ch derbyn fel myfyriwr os oes gennych rinweddau eraill fel profiad gwaith gwych, ond byddant yn gofyn i chi ailsefyll Saesneg a Mathemateg yn ystod eich astudiaethau. Mae rhai prentisiaethau wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai na lwyddodd yn eu Saesneg a Mathemateg. Mae’n debygol y byddan nhw’n dal i ofyn i chi ailymgeisio’r pwnc, ond efallai y bydd y prentisiaethau yn fwy addas ar gyfer myfyrwyr y mae’n well ganddynt ddysgu wrth weithio’n bennaf.

Rwyf wedi pasio’r rhan fwyaf neu bob un o’m pynciau ond nid wyf yn siŵr beth i’w wneud

Mae’n normal i fod yn ddryslyd neu i gael eich llethu yn y sefyllfa hon oherwydd nifer yr opsiynau sydd ar gael i chi. Meddyliwch am unrhyw brofiad gwaith rydych chi wedi’i gwblhau yn ystod eich amser yn yr ysgol ac a wnaethoch chi ei fwynhau ai peidio. Os gwnaethoch chi ei fwynhau, canfyddwch fwy am yr yrfa a’r llwybrau a all eich arwain yno. Mae llawer o rolau i ddewis ohonynt ym maes adeiladu, a llawer o erthyglau ar Am Adeiladu, yn esbonio ystod o gyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu a’r camau gorau i’w cymryd.  

Rwyf wedi ennill graddau rhagorol ond nid wyf yn gwybod a wyf am fynd i’r brifysgol

Peidiwch â phoeni, nid oes angen i chi wneud y penderfyniad hwnnw eto. Os nad ydych wedi penderfynu rhwng prifysgol neu brentisiaethau, gallwch barhau i ddilyn Lefel A â’ch cyfoedion sydd eisiau mynychu’r brifysgol. Os ydych chi’n derbyn canlyniadau Lefel A gwych ond yn penderfynu peidio â mynd i’r brifysgol, ni fydd yn wastraff ymdrech, Mae yna nifer fawr o brentisiaethau, gan gynnwys prentisiaethau gradd, sydd â chanlyniadau Lefel A/AS fel gofyniadau mynediad. 

Laptops and papers

Os yw bywyd prifysgol i weld yn hwyl, ond nad ydych chi’n hoff o’r syniad o dreulio fwy o amser yn yr ystafell ddosbarth mewn darlithoedd, yna gallai prentisiaeth gradd fod yn berffaith i chi. Byddwch yn dal i dreulio cryn dipyn o amser yn gwneud gwaith ar y safle neu’n cysgodi, ond bydd y rhan ddysgu o’ch amser yn cael ei wneud mewn amgylchedd prifysgol. Mewn sawl ffordd, gellir ei weld fel y gorau o’r ddau fyd, o brentisiaethau a’r brifysgol ill dau.

Rydw i eisiau mynd i’r brifysgol ond dydw i ddim yn gwybod beth i’w astudio

Unwaith eto, nid oes angen i chi wneud y penderfyniad hwn eto. Fodd bynnag, bydd yr opsiynau sydd ar gael yn y brifysgol yn cael eu heffeithio gan ba Lefelau A y byddwch yn eu cymryd. Gallwch hefyd gyrraedd y brifysgol trwy gwblhau prentisiaeth sy’n arwain at brentisiaeth gradd, ond os cawsoch ganlyniadau da yn eich TGAU, yna efallai y byddai Lefel A yn ffordd well o gadw’ch opsiynau’n agored. Os byddwch yn newid eich meddwl yn y dyfodol ac yn penderfynu gwneud prentisiaeth yn lle hynny, bydd Lefel A yn dal i fod o fudd i chi.

Go Construct SkillBuild competitor at work

Rydw i eisiau gweithio ym maes adeiladu ond dydw i ddim yn siŵr sut i ddechrau

Mae adeiladu yn ddiwydiant gwych i’w ddewis! Rhagwelir y bydd angen 40-50 mil o bobl y flwyddyn yn y diwydiant dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan, o brentisiaethau sylfaen i brentisiaethau uwch, o hyfforddeiaethau i raddau prifysgol traddodiadol. Nid oes rhaid i adeiladu fod yn rôl ar y safle yn unig ychwaith. Gall llawer o raddau eich cael chi i rolau mewn cynllunio, rheoli a rolau busnes yn y diwydiant.

Camau Nesaf

Waeth beth fydd canlyniadau eich arholiadau, mae yna gam nesaf gwych i chi symud ymlaen yn eich gyrfa o hyd!

Dysgwch lawer mwy am gyfleoedd addysg a gyrfa ym maes adeiladu gydg Am Adeiladu. Chwiliwch am rolau sydd ar gael gan ddefnyddio Talentview.