Mae’r diwydiant adeiladu’n cynnig amrywiaeth anhygoel o rolau ac, yn yr un modd, mae nifer o lwybrau i mewn iddo hefyd, a does dim rhaid i chi ddechrau eich gyrfa ar amser penodol.

Mae pobl yn ymuno â’r diwydiant adeiladu ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau – ar ôl TGAU neu Safon Uwch, ar ôl iddynt gwblhau eu gradd, neu hyd yn oed yn hwyrach. Bydd y llwybr y byddwch yn ei ddilyn yn dibynnu ar y cyfnod rydych ynddo.

Gwybod pa rôl rydych chi eisiau ei gwneud

Cyn i chi ddechrau meddwl am y camau nesaf, mae angen i chi benderfynu pa rôl adeiladu yn union sydd o ddiddordeb i chi - ac mae cannoedd i ddewis o'u plith. I gael gwybod pa rôl allai fod yn addas i chi, edrychwch ar adnodd chwilota am yrfa Am Adeiladu

Unwaith y byddwch chi’n gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud, gallwch ddechrau cynllunio eich llwybr i gyrraedd yno.

Ar ôl TGAU

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i bobl sydd â diddordeb mewn adeiladu ar ôl eu TGAU.

Symud ymlaen i lefel A yw un opsiwn. Os ydych chi’n gwybod pa faes adeiladu rydych chi eisiau gweithio iddo, meddyliwch pa bynciau fydd yn ddefnyddiol i chi yn yr yrfa o’ch dewis cyn i chi wneud eich dewisiadau. 

Dewis arall yn lle Safon Uwch yw cyfuno rhywbeth academaidd â rhywbeth ymarferol. Mae cymwysterau galwedigaethol megis BTEC, HNC a HND yn cynnig cymysgedd ardderchog o brofiad ymarferol a theori.

Os ydych chi am fynd i rôl benodol iawn, efallai y bydd angen i chi ddilyn gradd neu gymhwyster galwedigaethol penodol. Dysgwch fwy am ddewis y cwrs iawn 

Opsiwn arall yw dechrau dysgu yn y gwaith gyda phrentisiaeth. Fel arfer, bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi ddilyn cymwysterau galwedigaethol a byddwch yn cael eich talu wrth i chi ddysgu. Unwaith y byddwch chi’n gwybod pa rôl sydd o ddiddordeb i chi, gallwch gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Mae hyfforddeiaethau ar gael hefyd. Mae’r rhain yn fyrrach na phrentisiaethau ac yn cyfuno hyfforddiant yn y gwaith gyda chymorth gyda Saesneg a mathemateg er mwyn datblygu eich sgiliau.

Dysgwch fwy am brentisiaethau a hyfforddeiaethau

Ar ôl Lefelau 'A'

Os ydych â’ch bryd ar yrfa ym maes adeiladu, efallai yr hoffech chi ystyried mynd ymlaen i ddilyn cymhwyster galwedigaethol ar ôl Safon Uwch. Gallwch astudio Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) mewn prifysgol yn amser llawn, neu gallwch chi eu hastudio fel rhan o brentisiaeth.

Mae angen gradd prifysgol ar gyfer rhai rolau adeiladu, fel peiriannydd sifil neu arolygydd meintiau. Fel gyda lefelau 'A', cadwch eich dewis gyrfa mewn cof wrth ddewis pwnc eich gradd.

Ar ôl graddio

Mae defnyddio eich gradd i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu yn dibynnu ar beth yw’r yrfa. Er enghraifft, byddai angen i’r rheini sy’n dymuno cael swydd marchnata, datblygu busnes neu TG ym maes adeiladu gael gwybodaeth benodol am y meysydd hynny.

Os ydych chi’n dymuno mynd i faes adeiladu nad yw’n gysylltiedig, efallai y bydd angen i chi ddilyn cwrs trosi. Mae’r rhain yn cael eu cynnig gan nifer o brifysgolion a bydd lleoliad yr astudiaeth yn dibynnu ar y rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Gallwch chwilio am gyrsiau ôl-raddedig ar Prospects

Dysgu mwy am sut mae dechrau arni ym maes adeiladu