Does dim ffordd fwy trawiadol o hyrwyddo amrywiaeth a dathlu hawliau LHDTC+ na goleuo rhai o adeiladau enwocaf y byd yn lliwiau’r enfys.

Mae hyn yn digwydd yn rheolaidd yn ystod dathliadau blynyddol Mis Balchder, neu ar achlysuron pwysig eraill. Isod rydym yn trafod rhai o’r strwythurau sydd wedi cael eu haddurno yn lliwiau’r enfys ar wahanol adegau.

One World Trade Center

Mae One World Trade Center, yr adeilad talaf yn yr Unol Daleithiau, yn falch o gael ei oleuo yn lliwiau’r enfys ar gyfer Mis Balchder.

Adeiladwyd y tŵr 94 llawr yn Manhattan Isaf i ddisodli Tŵr y Gogledd yn y World Trade Centre gwreiddiol, a ddinistriwyd yn yr ymosodiadau terfysgol ym mis Medi 11, 2001. Fe’i hagorwyd ym mis Tachwedd 2014, ac fe’i dyluniwyd gan David Childs o Skidmore, Owings a Merrill. Uchder One World Trade Center yw 546 metr. Mae’r Arsyllfa One World 386 metr i fyny’r tŵr a dyma’r man cyhoeddus â golygfa uchaf yn Ninas Efrog Newydd.

Taipei 101

Mae Taipei 101, yr ail adeilad talaf yn y byd, yn uwch na gweddill nendyrau Taipei yn Taiwan. Mae’n destun balchder i Taipei mewn mwy nag un ffordd. Cynhelir Balchder Taiwan bob mis Hydref, ac mae Taipei 101 bob amser yn un o uchafbwyntiau’r dathliadau (yn llythrennol), ac yn goleuo’r awyr yn lliwiau’r enfys.

Efallai nad dyma’r adeilad talaf yn y byd erbyn hyn, gyda’r Burj Khalifa yn Dubai bellach yn uwch nag o, ond mae pob hawl gan Taipei 101 i hawlio’r teitl am yr adeilad gwyrddaf y byd. Mae wedi arloesi ym maes effeithlonrwydd ynni, dylunio amgylcheddol ac ailgylchu dŵr, ac amcangyfrifir ei fod yn arbed 14.4 miliwn kWh o drydan bob blwyddyn.

Mae gan adeilad 102 llawr yr Empire State Building hanes hir o gefnogi dathliadau Balchder. Goleuwyd nendwr Art Deco eiconig Efrog Newydd am y tro cyntaf yn 1990, pan gafodd y 30 llawr uchaf eu goleuo mewn lafant, lliw a oedd yn cael ei gysylltu â Balchder Hoyw ar y pryd. Daeth yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae gweld brig yr Empire State wedi’i oleuo yn lliwiau’r enfys yn olygfa gyffredin ar nenlinell Manhattan gyda’r nos ym mis Mehefin. Mae Dathliadau Mis Balchder yn Ninas Efrog Newydd yn dipyn o barti.

Yr adeilad hwn, a agorwyd ym 1931, oedd adeilad talaf y byd am 39 o flynyddoedd nes cael ei drechu gan y World Trade Centre gwreiddiol ym 1970. Ar ôl ymosodiadau terfysgol 2001 dyma oedd adeilad talaf Efrog Newydd unwaith eto. Mae deciau arsylwi allanol ar loriau 86 a 102, a dec arsylwi dan do ar lawr 80. Mae’n adnabyddus am ei ymddangosiad yn y ffilm King Kong ym 1933 ac mae’n dal yn un o brif atyniadau twristaidd Efrog Newydd.

Y Tŷ Gwyn

Mae’r cyfeiriad enwocaf yn Washington D.C. hefyd wedi’i oleuo yn lliwiau’r enfys. Digwyddodd hynny ym mis Mehefin 2015, i nodi bod y Goruchaf Lys wedi pasio deddfwriaeth yn caniatáu priodasau o’r un rhyw yn yr Unol Daleithiau. Roedd yn foment bwysig i hawliau pobl hoyw yn y wlad, a heidiodd torfeydd mawr o gefnogwyr i’r seremoni oleuo.

Ar y pryd, dywedodd yr Arlywydd Obama fod y ‘Tŷ Gwyn yn edrych yn dda yn lliwiau’r enfys ... i weld pobl yn ymgynnull gyda’r nos ar noson hyfryd o haf ac i deimlo’n gyflawn a theimlo eu bod yn cael eu derbyn a theimlo bod ganddynt yr hawl i garu, roedd hynny’n eithaf cŵl.’

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r Tŷ Gwyn ym 1792, a dyma fu cartref a gweithle swyddogol pob Arlywydd yn yr Unol Daleithiau ers John Adams ym 1800.

Tŵr Eiffel

Fel un o dirnodau enwocaf Ffrainc, mae Tŵr Eiffel yn disgleirio'n llachar dros Baris bob nos. Mae Tŵr Eiffel wedi cael ei oleuo yn lliwiau’r enfys ar wahanol adegau er mwyn dangos undod â’r gymuned LHDTC+. Un achlysur o’r fath oedd ar Ddydd Bastille yn 2013, yn fuan ar ôl i Ffrainc gyfreithloni hawl cyplau o’r un rhyw i briodi a mabwysiadu, ac eto ym mis Mehefin 2016, ar ôl i 49 o bobl gael eu lladd mewn clwb nos hoyw yn Orlando. Mewn dinas sy’n ymhyfrydu yn y rhyddid i feddwl, moderniaeth a lle nad yw chwildro yn beth ddieithr, mae Tŵr Eiffel yn symbol o Falchder Parisaidd.

Balchder yn y Diwydiant Adeiladu

Mae’n wych bod adeiladau’n cael eu goleuo i ddathlu Mis Balchder, ond mae pethau eraill yn digwydd hefyd. Mae’r sector adeiladu yn y DU wedi ymrwymo i wneud y diwydiant yn fwy amrywiol a chynhwysol. Dysgwch fwy am yr hyn sydd wedi newid yn y diwydiant adeiladu, a straeon gweithwyr sydd wedi wynebu heriau ac wedi hyrwyddo hawliau LHDTC+.