Two female construction workers in hard hats and Hi Vis vests

Yn ein cyfres barhaus o broffiliau Mis Hanes Pobl Ddu, buom yn siarad â Simone Codrington, Rheolwr Cynaliadwyedd yn y cwmni adeiladu Willmott Dixon.

 

A allwch chi ddweud wrthym am eich cefndir a sut y gwnaethoch chi ddod i ymwneud â'r diwydiant adeiladu yn y lle cyntaf?

Simone: “Astudiais wyddor amgylcheddol o lefel TGAU i lefel gradd, gan fy mod yn angerddol dros gynaliadwyedd. Rwyf wedi bod â diddordeb mawr yn yr amgylchedd ers amser maeth, ac ar ôl cael athrawes wyddor amgylcheddol wirioneddol frwdfrydig yn yr ysgol, deuthum yn fwyfwy angerddol dros y pwnc. Arweiniodd hyn at fynd ar ei drywydd yn broffesiynol a dewis gweithio yn y diwydiant adeiladu lle roeddwn yn gwybod y gallwn chwarae rhan fwy yn lleihau effaith ddynol ar yr amgylchedd.”

 

Allwch chi rannu rhai enghreifftiau o brosiectau neu fentrau lle rydych chi wedi chwarae rhan arwyddocaol neu wedi cael effaith gadarnhaol ar eich tîm neu gwmni?

Simone: “Ychydig flynyddoedd i mewn fy rôl, penderfynais ddechrau trefnu sesiynau codi sbwriel gyda thîm yn y swyddfa, a gafodd effeithiau cadarnhaol iawn ar les a chymhelliant pobl. Bûm mewn partneriaeth hefyd â’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd leol ar gyfer y fenter hon, yr ydym wedi bod yn ei chefnogi ers hynny ac wedi helpu i ariannu rhannau o’u gwaith gwella camlesi.  

Rwyf wedi bod ar y grŵp llywio Amrywiaeth a Chynhwysiant lleol yn Willmott Dixon ers cwpl o flynyddoedd bellach hefyd, ac wedi cefnogi mentrau rhanbarthol a Grŵp cyfan, yn ogystal â rhedeg fy rhai fy hun.

Rwyf hefyd yn cefnogi mentrau gyrfa. Gan fod prinder sgiliau yn ein diwydiant, mae sefydliadau yn chwarae rhan bwysig wrth ysbrydoli cenedlaethau iau i ddewis gyrfa ym maes adeiladu. Fel menyw o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio ym maes STEM, rwy’n chwarae rhan weithgar wrth gefnogi cydweithwyr i godi ymwybyddiaeth bod gyrfaoedd gwych ar gael ym maes adeiladu i bawb – beth bynnag fo’u rhyw neu ethnigrwydd.”

 

Yn eich barn chi, beth yw manteision cael gweithlu amrywiol yn y diwydiant adeiladu?

Simone: “Po fwyaf amrywiol yw’r gweithlu, y mwyaf o safbwyntiau a syniadau sydd. Gall y diwydiant adeiladu fod yn araf i newid yn aml, ond bydd y safbwyntiau amrywiol hyn ein helpu i gadw i fyny â’r byd modern. Drwy groesawu amrywiaeth, gall ddod â ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan y diwydiant a gwneud adeiladu yn lle hapusach, mwy diogel a mwy effeithiol i fod ynddo.”

 

Ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau neu welliannau cadarnhaol yn y diwydiant o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod eich gyrfa?

Simone: “Rwyf wedi gweld llawer mwy o hyfforddiant ar gael a llawer mwy o ymgyrchoedd yn ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig yma yn Willmott Dixon. Mae’r rhain yn wych ar gyfer codi ymwybyddiaeth a dysgu pobl sut i herio ymddygiad gwael, ond rwy’n dal i feddwl bod cryn bellter i fynd eto cyn y bydd adeiladu, fel llawer o ddiwydiannau, yn wirioneddol amrywiol a chynhwysol.”

 

Sut gall cwmnïau a sefydliadau adeiladu ddenu a chadw talent o gefndiroedd ethnig amrywiol yn well? 

Simone: “Cael timau cyflogi mwy amrywiol, cynnig rhaglenni mentora, ymchwilio i ba rwystrau y gall pobl o gefndiroedd ethnig fod yn eu hwynebu wrth ymuno â chwmnïau, neu resymau pam y maent yn gadael. Ac, yn bwysicaf oll, drwy wneud mwy na siarad am amrywiaeth a chynhwysiant yn unig, ond trwy wir sicrhau bod pobl yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi am bopeth y gallant ei gynnig i sefydliad fel ei fod yn rhan o’r diwylliant.

Wedi eich ysbrydoli? Rhannwch eich straeon am weithwyr adeiladu proffesiynol dylanwadol heddiw.

Os ydych chi eisiau tynnu sylw at rywun ym maes adeiladu sydd wedi eich ysbrydoli, neu i rannu eich profiad o amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant, cysylltwch ag Am Adeiladu.