Sut mae manteisio i’r eithaf ar eich prentisiaeth sgaffaldiau

Mae Sgaffaldwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y diwydiant adeiladu, gan godi a datgymalu sgaffaldiau metel dros dro ar safleoedd adeiladu, er mwyn i’r gwaith adeiladu allu mynd rhagddo’n ddiogel ar lefelau uchel.

Mae gweithio ym maes sgaffaldiau yn gorfforol anodd ac mae angen gallu ymdopi ag uchelder. Gallwch ddod yn sgaffaldiwr drwy nifer o lwybrau, a phrentisiaeth yw un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd. 

Yma rydyn ni’n edrych ar beth mae prentisiaethau sgaffaldio yn ei gynnig, y gwahanol fathau o brentisiaethau sydd ar gael, a’r sgiliau a’r profiad maent yn eich galluogi chi i’w datblygu.


Sut mae dod yn sgaffaldiwr cymwysedig?

I fod yn sgaffaldiwr cymwysedig, gallech ddilyn cwrs coleg. Mae’r Dystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu a Thystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu yn rhoi cyflwyniad i’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant adeiladu. Ar gyfer mynediad, bydd angen cymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg arnoch.

Cymhwyster academaidd mewn sgaffaldiau yw prentisiaeth sgaffaldiau sy’n rhoi profiad yn y gwaith i brentisiaid gyda chyflogwr. Mae yna gymhwyster Canolradd a Lefel 2.

Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais i fod yn labrwr a chael profiad ar safle adeiladu gyda sgaffaldwyr cymwysedig. Gallai eich cyflogwr ddarparu cyfleoedd hyfforddi i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau.

Ar ba oed y gallwch chi fod yn sgaffaldiwr?

Bydd angen i chi fod yn 16 oed cyn gwneud cais am brentisiaeth sgaffaldiau neu ddilyn cwrs coleg.

Beth yw prentisiaeth mewn sgaffaldiau?

Mae prentisiaeth sgaffaldiau yn cwmpasu egwyddorion ymarferol ar gyfer codi a datgymalu gwahanol fathau o sgaffaldiau, gan gynnwys sgaffaldiau annibynnol, cewyll adar, tyrrau, cantilifrau, palmentydd a thoeau. Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant ar ddiogelwch cyffredinol yn y gweithle, arferion gwaith effeithlon, codi a chario, a sgiliau dysgu, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddulliau adeiladu sylfaenol, dehongli lluniadau ac amcangyfrif adnoddau.

Pa mor hir yw prentisiaeth sgaffaldiau?

Mae’n cymryd hyd at ddwy flynedd i gwblhau rhaglen brentisiaeth sgaffaldiau. Gallech ddilyn prentisiaeth Sgaffaldiau Canolradd sy’n cymryd 18 mis, neu’r Diploma Adeiladu Lefel 2 mewn Sgaffaldiau. Mae’r cymhwyster Lefel 2 yn cymryd dwy flynedd ac mae’n cynnwys 11 wythnos o hyfforddiant dros y cyfnod hwn, ynghyd â gweithio i gyflogwr am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Ar ddiwedd eich prentisiaeth, byddwch nid yn unig yn ennill eich cymhwyster ond hefyd eich cerdyn Cynllun Cofnodi Sgaffaliadau’r Diwydiant Adeiladu. Mae hyn yn dangos eich bod yn sgaffaldiwr cwbl gymwys.

Dod o hyd i brentisiaeth sgaffaldiau yn eich ardal chi

Manteisio i’r eithaf ar eich prentisiaeth

Mae’n bwysig manteisio i’r eithaf ar eich prentisiaeth

Dewis y darparwr hyfforddiant cywir

Mae llawer o ganolfannau hyfforddi sy’n darparu prentisiaethau sgaffaldio, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y dewis iawn i chi eich hun. A yw’n agos at lle’r ydych chi'n byw? Darllenwch adolygiadau i gael gwybod beth mae prentisiaid yn ei feddwl o’r darparwr hyfforddiant. A yw’r cwrs yn ymdrin â’r hyn sydd ei angen arnoch?

Gweithio’n galed

Gweithiwch mor galed ag y gallwch yn ystod eich cyfnod gyda’ch cyflogwr. Rydych chi eisiau gwneud yr argraff orau bosibl a rhoi’r cyfle gorau i chi eich hun gael swydd barhaol ar ddiwedd eich prentisiaeth.

Herio eich hun

Profwch eich hun - yn ystod eich cyfnod hyfforddi ac wrth weithio ar y safle. Mae prentisiaethau’n herio pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a’u personoliaeth, ac i weld sut gallant fodloni gofynion a disgwyliadau’r yrfa o’u dewis.

Ennill profiad gwaith go iawn

Mae prentisiaethau'n rhoi'r cyfle i chi gael profiad gwaith gyda chyflogwr, a chael eich talu ar yr un pryd. Weithiau nid oes ffordd well o ddysgu nag yn y gwaith. Bydd prentisiaid sgaffaldiau’n dysgu sut mae gweithio’n hyderus mewn mannau uchel, deall lluniadau a chynlluniau technegol a datblygu cydsymud rhagorol â llaw.

Dysgu mwy am brentisiaethau ym maes adeiladu

Gall Am Adeiladu ddarparu amrywiaeth eang o wybodaeth a chyngor am brentisiaethau yn y diwydiant adeiladu. Dysgwch am y gwahanol fathau o brentisiaethau, sut maen nhw’n cymharu â mynd i brifysgol a sut mae dod o hyd i gyflogwr.

Cael gwybod mwy am yrfa fel sgaffaldiwr

Os mai byd sgaffaldiau yw'r yrfa i chi, dysgwch fwy am faint allech chi ei ennill, beth mae sgaffaldiwr yn ei wneud a pha sgiliau sydd eu hangen arnoch, a darllenwch ein canllaw cyflawn ar sgaffaldiau.