Sylw i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBTQ+) ar safleoedd: dod allan yn y diwydiant adeiladu

Yn ystod Mis Hanes LGBTQ+, rydyn ni’n dysgu sut beth yw dod allan yn y diwydiant adeiladu. Mae’r arweinydd a’r actifydd, Christina Riley, Uwch Gynllunydd yn Kier Group, yn sgwrsio â ni am ei phrofiadau.

Thema Mis Hanes LGBTQ+ eleni yw heddwch, actifiaeth a chymodi, a byddwn yn ymchwilio i’r rhain yn ein cyfres 3 rhan.

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, mae taith bersonol Christina Riley wedi cyffwrdd â’r tri.

Christina Riley Pride Llundain 2018
Christina Riley Kier

Rwy'n gwneud fy ngorau glas i fod y fersiwn orau ohonof fi fy hun.


Cymodi

Mae Christina’n dweud nad yw hi erioed wedi bod yn hapusach ers iddi fynd drwy broses drawsnewid yn 2014, ond mae hi’n barod iawn i gydnabod bod gwahaniaethu’n dal i fodoli ym maes adeiladu.

“Mae’n dal i fodloni mewn rhannau o’r diwydiant. Byddai’n dda pe bai mwy o gwmnïau’n datblygu polisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant cynhwysfawr. Nid oes gan lawer bolisi trawsnewid, fel sydd gennym ni yn Kier, ond mae mwy ohonynt yn mabwysiadu ‘polisïau peidio cadw’n dawel’ er mwyn atal pobl rhag esgus peidio â gweld ymddygiad sarhaus.”

“Wedi dweud hynny, rydw i’n gallu mynd ar safle ac rydw i’n cael fy nhrin fel unrhyw un arall. Rwy’n teimlo'n dawelach fy meddwl ac yn rhyfeddu o hyd pa mor dda mae wedi bod.”

“Do, fe wnes i golli ffrindiau agos pan wnes i fynd drwy’r broses drawsnewid. Ond rydw i wedi gwneud llawer iawn mwy ers hynny.”

“Yn y pen draw, rydw i eisiau cael fy nerbyn am bwy ydw i. Rydw i eisiau byw fy mywyd fel menyw drawsryweddol. Person ydw i sy'n gwneud fy ngorau glas i fod y fersiwn orau ohonof fi fy hun.” 
 
“Pan fydd pobl yn gallu bod yn nhw eu hunain, maen nhw’n hapusach, maen nhw’n meithrin perthnasoedd cryfach, ac maen nhw’n perfformio’n well.”

“Does dim rhaid i ddod allan yn y diwydiant adeiladu eich dal yn ôl. Gall fod yn beth da.”

Cael cymorth

Dywedodd Christina ei bod hi’n haws nag erioed i gael cymorth yn y sector.

“Dewch draw i ddigwyddiadau rhwydwaith LGBTQ+, oherwydd mae digon yn digwydd ac maen nhw’n fannau diogel i bobl LGBTQ+ yn ein diwydiant. Mae gan rai crefftau a phroffesiynau eu grwpiau eu hunain hefyd, fel InterEngineering ar gyfer peirianwyr. Mae llawer o gyngor ar gael a llawer o bobl sy’n gallu cynnig cymorth.”

Cael ysbrydoliaeth

Cyfres fer LGBTQ+:

Darllenwch am hanes LGBTQ+ yn yr amgylchedd adeiledig.

Tarwch olwg ar ein cyfranwyr #TakeoverTuesday gwych ar Instagram sy’n cynnig cipolwg ar eu diwrnod gwaith, gan gynnwys Christina!