Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021: Llunio’r dyfodol
Rhwng 8 a 14 Chwefror, bydd y DU yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021.
“Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddysgu wrth ennill cyflog,” meddai’r Gweinidog dros Brentisiaethau a Sgiliau, Gillian Keegan, “ac maen nhw’n agor llwybrau gyrfa newydd a chyffrous a all drawsnewid bywydau”.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle cyffrous, felly rydyn ni wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i chi gael gweld beth fydd yr wythnos yn ei gynnwys a sut gall eich helpu chi.
Beth yw Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW)?
I’r rhai sy’n awyddus i ddechrau prentisiaeth, neu i ddysgu mwy am y rhai sydd ar gael, mae NAW yn hanfodol. Yn ystod yr wythnos ceir cymysgedd o sgyrsiau, digwyddiadau a chyngor gan ffigyrau allweddol am sut i wneud cais am brentisiaeth a’i defnyddio er budd eich gyrfa.
Mae thema newydd bob blwyddyn, sy’n tynnu sylw at agwedd benodol ar brentisiaethau, i helpu i hoelio’r drafodaeth. Yn anad dim, mae NAW yn agored i bawb.

Beth yw thema NAW 2021?
Y thema ar gyfer 2021 yw ‘llunio’r dyfodol’. “Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, ond rydyn ni eisiau i’r thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021 fod yn sbardun i edrych ymlaen at y ffordd y gall prentisiaethau ddiogelu gweithluoedd i’r dyfodol a hybu gyrfaoedd”, meddai Keegan.
Mae hyn yn golygu y bydd yr wythnos yn talu sylw penodol i’r effaith y gall prentisiaethau ei chael ar gymunedau, busnesau ac economïau lleol ymhell i’r dyfodol.
Byddwn hefyd yn edrych ar dechnolegau a datblygiadau newydd arloesol ym maes hyfforddiant prentisiaeth, yn enwedig gan y bydd y pandemig parhaus yn effeithio ar y flwyddyn hon.
Mae unigolion yn dibynnu mwy nag erioed ar dechnoleg a rhith-gyfarfodydd, felly bydd NAW 2021 yn wahanol, ond yr un mor gyffrous. Yn sicr, bydd ffocws ar y straeon ynghylch sut mae prentisiaid wedi helpu busnesau i addasu a datblygu yn ystod blwyddyn anodd.
Ceisiadau allweddol
Er mwyn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021, mae pawb o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chymunedau yn cael eu hannog i ddathlu prentisiaethau mewn tair ffordd benodol: hyfforddi, cadw a chyflawni.
- Dangos sut maen nhw’n hyfforddi prentisiaid, yn ogystal â diogelu eu gweithlu a’u gyrfaoedd at y dyfodol drwy brentisiaethau.
- Rhoi enghreifftiau o sut maen nhw’n cadw prentisiaid, yn enwedig sut maen nhw’n ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar y busnes, yn ogystal â dangos sut mae prentisiaid yn ffynnu ac yn cael effaith ar y busnes ar yr un pryd.
- Rhannu sut maen nhw’n elwa go iawn ar fuddsoddi mewn prentisiaid, gan wireddu manteision busnes prentisiaethau, gyda phrentisiaid yn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd dewisol.
Ffyrdd o gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau
Mae’r canllaw hwn y gellir ei lwytho i lawr yn egluro sut gallwch chi gymryd rhan ar y cyfryngau cymdeithasol a drwy ddigwyddiadau ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth a phecyn adnoddau hefyd ar gael yn gov.uk.
Ffordd dda o gymryd rhan yw llenwi Arolwg Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021, a rhannu’r gweithgareddau rydych chi wedi’u cynllunio.
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021 drwy ddilyn @Apprenticeships ar Twitter, a’r Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol ar LinkedIn.
Yr hashnodau i'w defnyddio ac i chwilio am y newyddion diweddaraf yw #NAW2021 #BuildTheFuture #ASKSeries ac #AskAnEmployer.
Mae’r hashnod #AskAnEmployer yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer clywed sut mae prentisiaethau wedi helpu busnesau i ffynnu. Bydd y sgwrs ar Twitter ddydd Mawrth y 9fed rhwng hanner dydd a 2pm.
Hoffech chi rannu eich profiad fel prentis? Defnyddiwch yr hashnod #AskAnApprentice ar Twitter rhwng hanner dydd a 2pm ddydd Mercher y 10fed ac annog darpar brentisiaid i’ch holi am eich prentisiaeth.
Ar Ddydd San Ffolant, bydd pobl yn cael eu hannog i greu postiad ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu’r hyn maen nhw’n ei hoffi am brentisiaethau.
Digwyddiadau NAW 2021
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein, gyda phawb sy’n ymwneud â phrentisiaethau’n cael eu hannog i rannu eu straeon a’u profiadau. Mae sesiynau Holi ac Ateb a chyflwyniadau byw yn ffordd wych o ddechrau, ond mae rhai digwyddiadau swyddogol yn cael eu cynnal:

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau adeiladu
Ar gyfer prentisiaethau sy’n benodol i’r diwydiant adeiladu, ewch i’n tudalennau defnyddiol:
Beth yw prentisiaeth adeiladu? a Pa brentisiaethau sydd ar gael? Mae tudalennau penodol ar gyfer gwneud cais am brentisiaethau yn yr Alban neu yng Nghymru.
A chofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Twitter, Instagram, a YouTube.