Dod o hyd i’r rôl i chi
Dros 16? Rhowch gynnig ar ddefnyddio ein Chwilotwr Gyrfa i archwilio’r rolau adeiladu sydd fwyaf addas i chi yn seiliedig ar eich diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau.
Mae cymaint o resymau gwych dros ddilyn prentisiaeth adeiladu! O helpu eraill yn eich cymuned, i arbed arian, gwneud ffrindiau am oes, neu deithio’r byd, rydyn ni wedi rhestru rhai o’r manteision mwyaf, i’ch helpu i benderfynu a allai prentisiaeth fod yn addas i chi.
1. Gallwch ddysgu wrth weithio
Swydd gyda hyfforddiant yw prentisiaeth. Er na fyddwch yn ennill arian mawr yn syth, byddwch yn cael cyflog, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn ennill cymwysterau cydnabyddedig.
2. Fyddwch chi ddim yn mynd i ddyledion enfawr
Mae gan lawer o raddedigion prifysgol ddyledion mawr o fenthyciadau myfyrwyr, sy’n cymryd blynyddoedd i’w talu. Mae prentisiaeth yn rhad ac am ddim, waeth beth yw eich oed, ac ni fydd gennych unrhyw ddyledion i’w talu ar ddiwedd y brentisiaeth.
3. Ennill profiad ymarferol
Yn ystod prentisiaeth, byddwch yn cael profiad ymarferol. Byddwch yn gweld y gwaith yn cael ei wneud drosoch eich hun - ac yna byddwch yn gallu rhoi cynnig arni eich hun.
4. Dysgu sgiliau byw pwysig
Gwella eich prydlondeb, eich penderfyniadau a’ch gallu i gadw at derfynau amser – bydd yn rhoi hwb i’ch hyder. A byddwch yn dysgu pa mor bwysig yw noson dda o gwsg hefyd!
5. Cael dechrau da ar eich gyrfa
Hyd yn oed ar ôl gorffen yn y brifysgol, dydy rhai graddedigion ddim yn gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud. Ar ôl i chi orffen eich prentisiaeth, byddwch ar y trywydd iawn ar gyfer gyrfa amrywiol gyda digon o gyfleoedd, a bydd gennych siawns dda o aros gyda’ch cyflogwr.
6. Cymysgu â phobl newydd o bob cefndir
Mae prentisiaethau'n wych am fynd â chi allan a chwrdd â phobl newydd, ac efallai y bydd rhai ohonynt yn dod yn ffrindiau neu'n fentoriaid.
7. Mwynhau’r amrywiaeth sydd gan waith adeiladu i’w gynnig
Mae llawer o brentisiaid adeiladu yn dweud nad oes yr un dau ddiwrnod yr un fath. Efallai y byddwch chi yn y coleg ar ddydd Llun, ar y safle ar ddydd Mawrth, yn y swyddfa ar ddydd Mercher... mae yna amrywiaeth bob amser!
8. Teithio’r byd
Gallai eich prentisiaeth gynnig cyfleoedd i weithio ledled y byd. Mae gwaith adeiladu’n digwydd ym mhobman, felly mae galw mawr am sgiliau trosglwyddadwy.
9. Defnyddio’ch sgiliau’n nes adref
Drwy gwblhau prentisiaeth yn agos at eich cartref, gallech chi gael effaith fawr yr amgylchedd o’ch cwmpas, a gwella’r ardal leol ar gyfer pobl eraill yn eich cymuned.
10. Gallech chi gystadlu mewn digwyddiadau rhyngwladol
Fel prentis adeiladu, cewch gyfle i gystadlu yn Adeiladu Sgiliau, lle byddwch yn cystadlu yn erbyn prentisiaid yn y grefft o’ch dewis. Mae’r enillwyr yn cynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth WorldSkills
11. Ysbrydoli eraill
Os ydych chi wrth eich bodd ag adeiladu ac eisiau dweud wrth bawb pa mor wych ydyw, gallwch ddod yn Gennad Adeiladu ac ysbrydoli eraill i ddilyn eich ôl troed.
12. Mynd i'r brig
Mae prentisiaethau’n cynnig potensial enfawr ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa. Cymerwch Syr Terry Morgan CBE. Dechreuodd fel prentis peirianneg mewn ffatri ddarnau ceir ac aeth ymlaen i gael ei urddo’n farchog am wasanaethau i seilwaith, sgiliau a chyflogaeth. Mae’r posibiliadau’n enfawr!
13. Gadael cymynrodd
Fel gweithiwr adeiladu, mae gennych chi’r gallu i adeiladu rhywbeth a allai bara am byth – nendwr, os yw eich syniadau’n rhai mawr, neu brosiect yn eich cymuned, os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn lleol. Ni all llawer o swyddi eraill gynnig yr un peth i chi.
14. Mae swydd sy’n addas i bob personoliaeth
Mae adeiladu’n ymwneud â chymaint mwy na blaen esgidiau dur a pheiriannau cloddio. I gael gwybod pa swydd fyddai’n addas ar gyfer eich personoliaeth, rhowch gynnig ar ein Cwis Gorau Erioed. Neu, i ddod o hyd i rôl sy’n addas ar gyfer eich sgiliau, eich diddordebau a’ch cymwysterau, ewch i’n Chwilotwr Gyrfa.