A man and woman using a computer

Mae’n gallu bod yn ddrud cael yr addysg i gyflawni eich dyheadau gyrfa, yn enwedig ym maes adeiladu, peirianneg neu bensaernïaeth. Gall graddau prifysgol roi dyledion benthyciadau enfawr i raddedigion. Mae astudio pensaernïaeth, er enghraifft, yn cymryd saith mlynedd, gyda phum mlynedd o ffioedd dysgu yn y brifysgol.

Ond mae help ar gael. Mae amrywiaeth o raglenni ysgoloriaeth ar gael yn y DU sy'n gallu darparu cymorth ariannol, gyda rhai cynlluniau'n canolbwyntio'n benodol ar fyfyrwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Dyma rai sy’n derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. 

 

Ysgoloriaeth y Black Heart Foundation

Cenhadaeth y Black Heart Foundation yw gwella mynediad, ansawdd a chanlyniadau addysgol i blant o gefndiroedd difreintiedig a’r rhai a allai ei chael hi’n anodd fforddio cost addysg uwch. Ei brif nod yw chwalu’r rhwystrau i ddyheadau a chyflawniad pobl ifanc. Mae’r sefydliad yn cefnogi nifer o fentrau cymunedol sy’n gwella canlyniadau addysgol plant, gan ganolbwyntio ar iechyd corfforol a meddyliol, lles, chwaraeon a’r celfyddydau.

Cafodd Rhaglen Ysgoloriaeth Black Heart ei lansio yn 2013. Mae’n dyfarnu sawl bwrsariaeth flynyddol i ymgeiswyr cymwys i gefnogi eu cynnydd addysgol. Gall unrhyw un wneud cais, beth bynnag eu hethnigrwydd.

 

Rhaglen Ysgolheigion Santander Universities

Mae Santander Universities yn rhaglen fyd-eang sydd wedi buddsoddi dros €1.8m mewn mentrau academaidd ers 2002, gan ddarparu 430,000 o ysgoloriaethau, gwobrau teithio a grantiau prifysgol. Mae'n rhan o ymrwymiad mwy cyffredinol Santander i wella cyfleoedd addysgol, entrepreneuriaeth a chyflogaeth.

Ymhlith ei fentrau mae Rhaglen Ysgolheigion Santander Universities, sy'n ceisio gwneud addysg uwch yn bosibilrwydd mwy fforddiadwy. Mae'r rhaglen yn cefnogi 100 o israddedigion llawnamser presennol a fydd yn graddio yn 2025. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael £30,000 o gyllid dros dair blynedd academaidd, yn ogystal â mentora, datblygiad a hyfforddiant cyflogadwyedd. I wneud cais, dylai ymgeiswyr ystyried eu hunain yn perthyn i 1 o 10 grŵp sy’n cael eu tangynrychioli.

 

Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Stephen Lawrence

Mae Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Stephen Lawrence ym Mhrifysgol De Montfort yng Nghaerlŷr yn rhoi cymorth i dri myfyriwr bob blwyddyn ym mlwyddyn gyntaf eu cyrsiau gradd. Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio Pensaernïaeth, Newyddiaduraeth, y Gyfraith, neu’r Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol. Sefydlwyd yr ysgoloriaethau yn 2016 er anrhydedd i Stephen Lawrence, a gafodd ei lofruddio yn Llundain yn 1993 pan oedd yn 18 oed. Uchelgais Lawrence oedd bod yn bensaer.

Mae pob un o'r tair ysgoloriaeth yn darparu 50% oddi ar gost ffioedd dysgu a bwrsariaeth ariannol o £3,500 ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.

 

Ysgoloriaethau ym Mhrifysgol Westminster

Mae sawl ysgoloriaeth ar gael i fyfyrwyr o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol ym Mhrifysgol Westminster. Gall y rhain amrywio rhwng blynyddoedd academaidd ond ar hyn o bryd, un ohonynt yw Ysgoloriaeth Landsec i Raddedigion, sy’n cynnig £10,000 i fyfyriwr Meistr cartref gyda chynnig ar gyfer y cwrs MSc Datblygu Eiddo Tirol yn y Brifysgol. Un arall yw’r Ysgoloriaeth Level-Playing Field (ôl-raddedig) a gefnogir gan Raglen Llwybrau Gyrfa PlayStation, sydd hefyd yn cynnig yr un faint o gymorth ariannol i fyfyrwyr Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg y Brifysgol.

Dechreuwch eich gyrfa ym maes adeiladu heddiw

Ni ddylai unrhyw beth amharu ar eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu neu unrhyw faes arall. Dysgwch fwy am yr hyn mae adeiladu yn ei wneud i wella amrywiaeth ethnig yn y diwydiant, gwybodaeth ddefnyddiol am brentisiaethau adeiladu a dros 170 o broffiliau swyddi adeiladu.