Mae Tom yn gweithio ym maes dylunio trwy gymorth cyfrifiadur (CAD). Mae'n defnyddio gwybodaeth gan benseiri a pheirianwyr i greu modelau cyfrifiadurol 3D o strwythurau ac adeiladau. Ar hyd y ffordd, mae'n gwneud llawer o raglennu a chodio hefyd.

Roedd yn gyffrous cymryd syniad roeddwn wedi'i gael a'i wneud yn real.

Case study
Category Information
Oedran 23
Lleoliad Y Deyrnas Unedig
Cyflogwr Llawrydd

Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn beiriannydd CAD?

Yn yr ysgol, roeddwn i wrth fy modd yn defnyddio cyfrifiaduron i greu ac argraffu dyluniadau 3D. Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd yn tynnu llun, ac fe wnaeth CAD adael i mi gael fy lluniau o fy mhen ac i'r byd go iawn. Er fy mod i eisiau bod yn bensaer, doeddwn i ddim yn hoffi'r syniad o astudio am saith mlynedd i gymhwyso. Felly edrychais am yrfa yn CAD yn lle hynny, gan ei fod yn gadael i mi weithio gydag adeiladau a chynhyrchu lluniadau technegol.

Sut gwnaethoch chi ddod yn beiriannydd CAD?

Fe wnes i gwblhau prentisiaeth ar ôl gadael yr ysgol ac roeddwn i'n gallu dysgu'r holl sgiliau roedd eu hangen arnaf yn y swydd. Fe wnaeth fy nghyflogwr fy helpu i gael BTEC cyn i mi gael swydd amser llawn.


Faint o gyflog allwch chi ei gael?

Gall technegwyr CAD iau, fel fi, gael £20,000 - £30,000 y flwyddyn. Gallai uwch ddrafftsmyn CAD gael £40,000 neu fwy. 


Beth yw eich trefniadau byw?

Ar hyn o bryd, rwy'n byw gyda fy ffrind gorau (sy'n osodwr cegin), ond rwy'n cynilo i brynu fy nhŷ cyntaf ac yn gobeithio symud i fy lle fy hun yn fuan.