Rydw i’n gweithio fel Prentis Asiedydd i Wynne Construction, ac rydw i yng nghanol ail flwyddyn fy mhrentisiaeth erbyn hyn. Wynne Construction ydy un o’r prif gwmnïau adeiladu yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr ac mae’n gontractwr ar Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

O oedran cynnar, roeddwn i’n mwynhau helpu gyda phrosiectau DIY gartref ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio ym maes gwaith coed.

Case study
Category Information
Lleoliad Cymru
Cyflogwr Wynne Construction

Beth mae eich rôl yn ei olygu?

Rydw i’n brentis asiedydd, ac yn ystod fy mlwyddyn gyntaf roeddwn i’n gallu gweithio ar y cynllun mwyaf mae Wynne Construction wedi’i gwblhau hyd yma – hyb chweched dosbarth newydd yn yr ardal.  Roedd y profiad a gefais wrth weithio ar y prosiect hwn yn amhrisiadwy gan ei fod yn gyfle i mi ymarfer popeth roeddwn wedi’i ddysgu yn ystod fy nghwrs Sylfaen Crefft Adeiladu yn y coleg. 

Mae’r gwaith yn hynod ddiddorol ac yn amrywio, ac rwy’n cael cyfle i weithio gyda’r gwahanol isgontractwyr yn ogystal â’n tîm o asiedyddion.

Fe welwch mai asiedyddion yw un o’r crefftau sy’n tueddu i dreulio’r amser hiraf ar unrhyw un prosiect.

Stephen Parsonage

Prentis asiedydd

Beth ydych chi’n ei hoffi am eich swydd?

Mae’r gwaith mae asiedydd yn ei wneud yn ymarferol ac yn gorfforol iawn, ond mae hefyd yn heriol yn feddyliol.  Rydw i’n berffeithydd felly rydw i’n hoffi i bethau fod yn 100% cywir. Mae hyn yn tueddu i helpu gyda fy swydd, wrth roi’r cyffyrddiadau olaf ar ystafelloedd o ran drysau, fframiau a sgyrtin.

Fe welwch mai asiedyddion yw un o’r crefftau sy’n tueddu i dreulio’r amser hiraf ar unrhyw un prosiect. Gall hynny fod yn fantais wrth i ni weld cynlluniau’n datblygu dros rai wythnosau ac fel arfer rydym yno pan fydd y prosiect yn cael ei gwblhau ac mae hynny'n rhoi boddhad mawr.


Sut beth yw eich diwrnod gwaith arferol?

Ar hyn o bryd, rydw i’n teithio dros 40 milltir i’r safle gyda’r tîm. Am 7am maen nhw’n dod i roi lifft i mi, felly mae’n rhaid codi’n gynnar.  Mae’r gwaith bob amser yn brysur ac yn ddiddorol pan fydd rhywbeth newydd.  Mae gwaith ailadroddus yn enwedig ar y prosiectau ysgol mawr, ond mae ein rheolwr safle’n rhoi amrywiaeth o waith i ni ei wneud - mae o’n asiedydd cymwys ac yn fentor gwych i mi. 

Mae cydbwysedd da o ran annibyniaeth a gwaith tîm ar safleoedd Wynne Construction ac rydw i’n dal i fynd i’r coleg am ddiwrnod yr wythnos felly mae’n dda cael sgwrs â fy ffrindiau a rhannu ein profiadau.  Yn ystod y diwrnod gwaith, rydyn ni’n cael egwyl yn y bore ac amser cinio ac fel arfer rydyn ni’n gadael y safle tua 4pm.


Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich swydd?

Rwy’n teimlo bod llygad am fanylion a’r gallu i fod yn fanwl gywir yn sgil bwysig i asiedydd.  Hefyd, mae angen i chi fod yn drefnus gyda’ch offer a chael y cyfarpar iawn wrth law. Mae’r ffaith fy mod wedi pasio TGAU mewn mathemateg a dylunio/technoleg wedi bod o gymorth mawr gyda’m theori a chynllunio gwaith ac astudio’r darluniau. 

Mae sgiliau cyfathrebu hefyd yn bwysig o ran gwrando a gofyn cwestiynau oherwydd gallai camgymeriadau fod yn gostus ac effeithio ar gynnydd y prosiect.


Sut wnaethoch chi fynd i’r maes adeiladu?

O oedran cynnar, roeddwn i’n mwynhau helpu gyda phrosiectau DIY gartref ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio ym maes gwaith coed. Mae fy niddordebau’n cynnwys chwaraeon modur ac mae bod yn dda gyda fy nwylo yn helpu i baratoi’r car ar gyfer y rasys. Fe wnes i gwblhau fy nghwrs Sylfaen Crefftau Adeiladu cyn dechrau fy mhrentisiaeth, felly mae hynny wedi helpu hefyd. 


Soniwch am rywbeth rydych chi’n falch iawn ohono yn eich gyrfa hyd yma.

Rydw i’n falch iawn o gael fy mhrentisiaeth gydag Wynne Construction gan ei fod yn gwmni dibynadwy yng Ngogledd Cymru a gall fod yn anodd dod o hyd i brentisiaethau.  Mae’r swydd wedi gwella fy hunanhyder ac wedi rhoi cyfle i mi basio fy mhrawf gyrru a phrynu fy nghar cyntaf! 

Pan oeddwn i’n gweithio ar brosiect Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, roeddwn i’n falch iawn o’m gwaith a’m sgiliau i gwblhau’r tasgau mewn pryd. 


Sut ydych chi’n bwriadu camu ymlaen yn eich gyrfa a pha gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Rwy’n siŵr y bydd gen i ddyfodol ym maes adeiladu ac y byddaf naill ai’n gweithio fel asiedydd neu efallai y byddaf yn rheoli safleoedd.  Mae nifer o gyn-brentisiaid gydag Wynne Construction bellach yn rheolwyr safle yn eu 20au, felly rwy’n gwybod bod hynny’n bosibl os wna i weithio’n galed a phrofi fy hun. Mae’r cwmni’n gefnogol iawn i hyfforddi a datblygu ac yn annog ein cynnydd.

Byddwn yn awgrymu dilyn y cwrs Sylfaen Crefftau Adeiladu yn gyntaf i weld pa grefft ym maes adeiladu rydych chi’n ei hoffi fwyaf ac yna cynllunio sut i fynd ati i’w wneud! Hefyd, mae lleoliadau gwaith yn gyfle gwych i gael profiad ar safle, felly byddwn yn argymell eich bod yn cael profiad o’r fath os gallwch chi.