Rwy’n helpu i sicrhau bod y safle’n rhedeg yn esmwyth, o anfon cyfarwyddiadau safle i isgontractwyr i gwblhau prisiadau o’r gwaith sydd ei angen.

Allwch chi ddim mynd o’i le yn y diwydiant adeiladu; mae gennych lawer o ryddid a bydd bob amser gennych chi grefft/proffesiwn.

Case study
Category Information
Lleoliad Gogledd-orllewin Lloegr
Cyflogwr Balfour Beatty

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud? 

Rwy’n gweithio i Balfour Beatty, cwmni adeiladu sy’n arbenigo mewn prosiectau seilwaith sy’n cael eu defnyddio gan y cyhoedd bob dydd.

Y dyddiau hyn, mae llawer o gwmnïau yn y diwydiant adeiladu yn chwilio am fwy o weithwyr a phrentisiaid yn enwedig

Ella Sherrington

Prentis Masnachol

Sut wnaethoch chi fynd i’r maes adeiladu?

Fe sefais i fy arholiadau lefel A yng Ngholeg Dinas Salford ac wedyn dilynais y llwybr Prentisiaeth gyda Balfour Beatty (ac rydw i’n dal i weithio iddyn nhw). 


Dywedwch ychydig yn fwy wrthym ni am yr hyn rydych chi’n ei wneud. 

Rwy’n cyflawni mesuriadau ar y safle, yn gwirio bod y ceisiadau a anfonwyd atom gan ein hisgontractwyr wedi cael y gwaith posibl ac yn cwblhau prisiad o’r gwaith hwn gan ddefnyddio ein gwybodaeth am fesuriadau a ffynonellau eraill i wneud hynny.

Byddaf hefyd yn anfon cyfarwyddiadau i safle’r isgontractwyr, yn cysylltu â nhw drwy gydol eu gwaith, ac yna’n sicrhau eu bod yn cael eu talu. Rydw i hefyd yn helpu gyda’r ffeil Iechyd a Diogelwch a’r rhestr Cymeradwyo Deunyddiau.


Beth ydych chi wrth eich bodd yn ei wneud yn eich swydd? 

Rydw i’n hoffi cael yr amrywiaeth o allu eistedd yn y swyddfa wrth fy nesg a gwneud gwaith, ac yna gallu mynd allan ar y safle i gwblhau mesurau a phrisiadau. Rydw i wir yn hoffi awyrgylch fy man gwaith ac rydw i’n cyd-dynnu’n dda â’r bobl rydw i’n gweithio gyda nhw. 

Mae’n wych mynd adref bob dydd, yn fodlon gyda’r gwaith rydw i wedi’i wneud y diwrnod hwnnw a’r effaith rydw i wedi’i chael ar y prosiect. 


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

Hoffwn fod yn Rheolwr Masnachol un diwrnod neu’n Gyfarwyddwr Masnachol a bod yn rhan o’r broses o dendro am swydd, lliniaru risgiau a chwilio am ffyrdd eraill o weithio. 


Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu? 

Ewch amdani! Allwch chi ddim mynd o’i le yn y diwydiant adeiladu; mae gennych lawer o ryddid a bydd bob amser gennych chi grefft/proffesiwn. 

Hefyd, os ydych chi’n ferch, peidiwch ag osgoi mynd i’r diwydiant adeiladu, mae angen mwy o ferched yn y diwydiant adeiladu, a gallwch gyflawni rôl broffesiynol ar lefel uchel. 

Does dim ots os nad oes gennych unrhyw gymwysterau ym maes adeiladu, neu os ydych wedi dewis y cwrs anghywir yn y coleg. Astudiais Gerddoriaeth Greadigol yn y coleg a sylweddolais tua diwedd fy nghwrs nad dyna roeddwn i eisiau ei wneud.

Roedd fy nhad yn gweithio ar safle adeiladu rownd y gornel o fy ngholeg, felly byddwn yn mynd draw ato ar ôl y coleg ac yn aros am lifft adref. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuais ddysgu un neu ddau o bethau ac roeddwn i’n hoffi’r awyrgylch ac yn meddwl bod y gwaith yn ddiddorol. Dyna pryd y penderfynais i fy mod i eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. 

Clywais fod gan Balfour Beatty sioe deithiol ar yrfaoedd ac yn chwilio am brentisiaid, felly penderfynais fynd i siarad mwy â rhywun am fod yn brentis. Fe wnes i gwrdd â Chyfarwyddwr Masnachol rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr a dweud wrtho beth roeddwn i’n dda am ei wneud a beth oedd fy nodau a’m dyheadau o ran gyrfa. Awgrymodd y dylwn i wneud cais am swydd Prentis Masnachol gan ei fod yn meddwl y byddwn i’n gwneud yn dda yn y rôl. Ymgeisiais am y swydd, a chefais fy ngwahodd i gyfweliad ym Mhencadlys Llundain ar ôl cwblhau’r asesiad ar-lein, a chefais y swydd! 

Y pwynt rwy’n ei wneud yw, hyd yn oed os nad oes gennych chi’r cymwysterau, gallwch bob amser fynd yn ôl i’w gwneud drosoch eich hun neu drwy gynllun prentisiaeth fel y gwnes i. Y dyddiau hyn, mae llawer o gwmnïau yn y diwydiant adeiladu yn chwilio am fwy o weithwyr a phrentisiaid yn enwedig, wrth iddynt geisio helpu cenedlaethau iau.