Rwy’n sicrhau bod y safle’n cael ei redeg yn ddiogel ac yn gynhyrchiol, yn bodloni anghenion y cleient ac yn cael ei adeiladu i’r ansawdd gorau posibl.

Fy hoff agwedd yw’r ffaith fy mod yn dysgu gwahanol ddulliau adeiladu yn gyson bob dydd wrth ryngweithio ag amrywiaeth eang o bobl.

Case study
Category Information
Lleoliad Llundain
Cyflogwr Willmott Dixon Interiors

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud?

Rwy’n gweithio i Willmott Dixon Interiors, sef cwmni adeiladu cenedlaethol sy’n arbenigo mewn dodrefnu ac ailwampio. Ar hyn o bryd rwy’n adnewyddu swyddfa pum llawr yn Ninas Llundain. Mae'r gwaith yn cynnwys pecynnau dymchwel enfawr, gwaith dur newydd, lifftiau mewnol, cladin a rendr allanol, a llawer mwy. 

Dydy gyrfa ym maes adeiladu ddim ar gyfer y gwangalon, ond cyn belled â’ch bod yn mwynhau’r broses adeiladu a’ch bod yn gweithio’n galed, does ‘na unman gwell i fod

Tom Arkley

Rheolwr safle - hyfforddai rheoli

Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw?

Pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn i’n labro ar brosiectau adeiladu bach yn fy ardal leol, a hynny sbardunodd fy uchelgais i ddilyn gyrfa ym maes adeiladu. Yn sgil hynny, cofrestrais ar gwrs Diploma Cenedlaethol BTEC lefel 3 mewn Adeiladu ar ôl gorffen yn yr ysgol. Fe wnes i fwynhau’r cwrs hwn yn arw ac fe’m helpodd i ddilyn y llwybr i’r maes rheoli roeddwn i am ei ddilyn. Gorffennais y cwrs hwn gyda diplomâu, a oedd yn fy ngalluogi i symud ymlaen i wneud BSc Anrhydedd mewn Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol Anglia Ruskin. Rwy’n dilyn y cwrs hwn yn rhan-amser ac yn gweithio’n llawn amser gyda Willmott Dixon Interiors yn helpu i redeg prosiectau adeiladu yng nghanol y ddinas a gerllaw. 


Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Am fy mod i wrth fy modd ag adeiladu, fy hoff agwedd yw’r ffaith fy mod yn dysgu gwahanol ddulliau adeiladu yn gyson bob dydd wrth ryngweithio ag amrywiaeth eang o bobl.


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Marcio bod y gweithgareddau wedi’u cwblhau 100% ar y rhaglen adeiladu.


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

Rwyf am symud ymlaen i rôl uwch gyda Willmott Dixon.


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Dydy gyrfa ym maes adeiladu ddim ar gyfer y gwangalon, ond cyn belled â’ch bod yn mwynhau’r broses adeiladu a’ch bod yn gweithio’n galed, does ‘na unman gwell i fod.


A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu, a fyddai’n ysbrydoli eraill i ddilyn y llwybr gyrfa o’u dewis?

Mae’n hanfodol bod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol yn eich maes astudio os byddwch chi’n penderfynu cwblhau eich gradd yn rhan-amser oherwydd bydd yn rhaid i chi dreulio eich penwythnosau’n cwblhau aseiniadau’r brifysgol. Mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan y ffaith bod yr aseiniadau’n aml yn haws eu deall gan fod gennych y cysylltiadau a’r profiad o’ch swydd o ddydd i ddydd i’ch helpu.