Facebook Pixel

Peiriannydd Gosod Allan

A elwir hefyd yn -

Peiriannydd safleoedd

Mae peirianwyr gosod yn defnyddio cynlluniau safleoedd, technoleg ac offerynnau manwl cywir i nodi a marcio nodweddion strwythurol uwchlaw ac o dan y ddaear cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Maent yn defnyddio marcwyr clir i nodi ble mae strwythurau'n mynd i gael eu gosod, gan gynnwys mynediad ffyrdd, sylfeini, nwy, cyfleusterau trydan a dŵr, a systemau draenio. Maent yn sicrhau fod gweithwyr ar y safle yn cadw at y marciau hyn.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£55000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i ddod yn beiriannydd gosod

Mae yna sawl llwybr i ddod yn beiriannydd gosod. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth.

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Fel arfer, bydd gan beirianwyr gosod nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes adeiladu.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen wedi’i achredu gan y diwydiant, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd israddedig. Mae'r pynciau perthnasol yn cynnwys:

  • Peirianneg sifil neu strwythurol
  • Syrfeo adeiladau
  • Peirianneg adeiladu
  • Astudiaethau adeiladu.

Wedi hynny, gallech wneud cais am le ar gynlluniau hyfforddeion graddedig cwmnïau adeiladu neu gwmnïau peirianneg.

Gallech hefyd astudio am ddyfarniad ôl-raddedig mewn peirianneg, gan fod rhai cyflogwyr yn gofyn am y lefel hon o arbenigedd.

Yn gyffredinol, byddwch angen:

  • 1 - 2 o gymwysterau safon uwch, neu gyfwerth (gradd sylfaen neu HND)
  • 2 - 3 o gymwysterau safon uwch, neu gyfwerth (gradd israddedig)
  • Gradd gyntaf (dyfarniad uwchraddedig)

  • Dod o hyd i gwrs prifysgol
  • Cyngor ar gyllido

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig fel y cam cyntaf ar eich llwybr gyrfa i ddod yn beiriannydd gosod.

Yna, gallech gwblhau cymwysterau mwy penodol ynghylch peirianneg gosod yn y gwaith ar ôl i chi ganfod swydd barhaol.

Gwaith

Os oes gennych brofiad mewn maes adeiladu penodol yn barod, megis gosod brics, efallai y gallwch anfon cais uniongyrchol at gyflogwr am swydd peiriannydd gosod ac yna cwblhau hyfforddiant yn y gwaith gyda'ch cyflogwr.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.


Sut i ddod yn beiriannydd gosod

Fel peiriannydd gosod, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Gosod, lefelu a syrfeo safle adeiladu
  • Gweithio â chynlluniau safleoedd, lluniadau a modelau gwybodaeth adeiladu
  • Mapio terfynau strwythurol ar y ddaear gan ddefnyddio pegiau a marcwyr
  • Cysylltu â dylunwyr a pheirianwyr i sicrhau fod cynlluniau a lluniadau yn gywir
  • Goruchwylio rheoli ansawdd
  • Monitro iechyd a diogelwch
  • Cadw dyddiadur safle
  • Datrys problemau technegol
  • Gweithio mewn swyddfa ac ar safle adeiladu.

Faint allech ei ennill fel peiriannydd gosod?

  • Gall peirianwyr gosod sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr gosod wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £30,000 - £35,000
  • Gall uwch beirianwyr gosod ennill £35,000 - £55,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swydd wag

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr gosod allan:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Gallech gychwyn ar eich llwybr gyrfa fel peiriannydd gosod iau neu dan hyfforddiant. Ar ôl cael hyfforddiant penodol, gallech ddod yn beiriannydd adeiladu neu sifil, neu'n syrfëwr.

Gallech hefyd ddewis bod yn rheolwr safleoedd neu brosiectau. Mae rhai pobl yn sefydlu eu busnes eu hunain ac yn gweithio ar eu liwt eu hunain.

Gallech gynyddu eich cyflogadwyedd ac ennill cyflog uwch trwy gael statws siartredig trwy'r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) neu sefydliad proffesiynol arall.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr safle Mae rheolwyr safle yn rhedeg y gweithlu ar safle adeiladu. ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080