Facebook Pixel

Pa brentisiaethau alla i eu gwneud ar ôl TGAU?

Os ydych chi ar fin gadael yr ysgol, mae'n debyg y byddwch chi’n pwyso a mesur eich opsiynau gyrfa. Os ydych chi wedi penderfynu peidio ag aros mewn addysg amser llawn i wneud Safon Uwch, gallech chi neidio’n syth i fyd gwaith, dilyn hyfforddeiaeth, cwrs coleg neu wneud cais am brentisiaeth. Mae prentisiaethau’n cyfuno swydd go iawn â hyfforddiant galwedigaethol ac yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol a fydd yn eich helpu chi i symud ymlaen yn yr yrfa o’ch dewis.

Gallwch chi wneud dau fath o brentisiaeth ar ôl i chi sefyll eich TGAU – Canolradd ac Uwch.

Prentisiaethau Canolradd

Yng Nghymru, mae’r mathau cyfatebol o brentisiaethau yn cael eu galw’n Brentisiaethau Sylfaen.

Prentisiaethau Lefel 2 yw prentisiaethau canolradd ac fel arfer mae’n cymryd 12-18 mis i’w cwblhau. Mae'r cymhwyster y byddwch chi’n ei ennill yn cyfateb i bump TGAU, neu NVQ Lefel 2. Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Ganolradd, gallwch chi symud ymlaen i waith amser llawn, neu wneud cais am Uwch Brentisiaeth.

Sawl TGAU sydd eu hangen arnaf i wneud Prentisiaeth Ganolradd?

Fel arfer, gallwch chi wneud cais am Brentisiaeth Ganolradd gyda dau gymhwyster TGAU, ond bydd gan rai cyflogwyr ofynion mynediad gwahanol. Mae Saesneg a Mathemateg yn ddau bwnc y bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr am i chi eu pasio.

Uwch Brentisiaethau

Yng Nghymru, mae’r mathau cyfatebol o brentisiaethau yn cael eu galw’n lefel Prentisiaeth.

Prentisiaethau Lefel 3 yw Uwch brentisiaethau ac fel arfer mae’n cymryd 2 i 4 mlynedd i’w cwblhau. Mae'r cymhwyster y byddwch chi’n ei ennill yn cyfateb i ddwy Safon Uwch, neu NVQ Lefel 3. Mae cwblhau uwch brentisiaeth yn aml yn golygu eich bod yn gymwys i weithio mewn rhai crefftau, a byddwch chi wedi cael llawer iawn o brofiad a sgiliau i ddatblygu eich gyrfa.

Sawl TGAU sydd eu hangen arnaf i wneud Uwch Brentisiaeth?

Os ydych chi wedi pasio mwy na phump TGAU, gallech chi wneud cais yn syth am Uwch Brentisiaeth. Dylai Saesneg a Mathemateg fod yn ddau o’r rhain.

Pa raddau TGAU sydd eu hangen arnoch chi i wneud prentisiaeth?

Fel arfer, bydd angen i chi basio eich TGAU gyda graddau 9 i 4/A* i C.

Beth os na fyddaf yn llwyddo yn fy arholiadau TGAU?

Nid yw’r sefyllfa anobeithiol os nad fyddwch chi’n cael y graddau TGAU sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prentisiaeth Ganolradd neu Uwch Brentisiaeth. Gallwch chi gymryd hyfforddeiaeth, a allai wella eich sgiliau Saesneg a Mathemateg. Hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn hyfforddeiaeth, efallai y bydd cyflogwr yn eich derbyn ar gyfer prentisiaeth Ganolradd os byddwch chi wedi cael digon o brofiad gwaith neu bod gennych chi ddawn ar gyfer y swydd. Efallai y bydd y cyflogwr yn eich annog chi i ailsefyll eich TGAU Saesneg a Mathemateg fel rhan o’r brentisiaeth, gan y bydd yn bwysig i chi gyflawni’r cymwysterau hyn.   

Sut mae gwneud cais am brentisiaeth?

Mae llawer o ffyrdd o chwilio ac ymgeisio am brentisiaethau. Gallech chi edrych ar wefannau fel Talentview, TotalJobs, Indeed neu wasanaeth prentisiaethau’r llywodraeth. Gallwch chi wneud cais am brentisiaethau drwy lanlwytho eich CV neu wneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr.

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu ar fin gadael yr ysgol, ydych chi wedi meddwl am brentisiaeth adeiladu? Maen nhw’n ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym ni’r holl wybodaeth yma er mwyn i chi ddechrau arni, gan gynnwys canllawiau i dros 170 o wahanol swyddi. Bydd y rhain yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r math o swyddi sy’n addas i chi, y sgiliau sydd gennych chi a’r sgiliau rydych chi am eu hennill. 

Dyluniwyd y wefan gan S8080