Facebook Pixel

Gweithredwr CAD

A elwir hefyd yn -

Technegydd CAD, peiriannydd CAD, technegydd BIM, technegydd dylunio digidol, gweithredwr CAD sifil, delweddwr 3D

Mae gweithredwyr dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) yn defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i gynhyrchu lluniadau 2D a 3D ar gyfer prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu. Fel gweithredwr CAD, efallai y byddwch yn dylunio adeiladau, peirianwaith neu gydrannau. Byddech yn cymryd gwybodaeth gymhleth ac yn ei defnyddio i gynhyrchu diagramau adeiladu technegol ar gyfer penseiri, peirianwyr a gweithredwyr adeiladu eraill.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

39-41

Y nifer sy’n gyflogedig yn y DG

208,050

Sut i ddod yn weithredwr CAD

Mae sawl llwybr i ddod yn weithredwr CAD. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth.

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ganfod pa un yw'r un cywir i chi. Er bod gan rai o'r opsiynau hyn ofynion penodol ynghylch cymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Gallai fod angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen neu israddedig mewn peirianneg, adeiladu neu beirianneg sifil.

I wneud gradd, bydd arnoch angen o leiaf:

  • 5 TGAU (gan gynnwys mathemateg, Saesneg a TG) ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gyfwerth
  • 2 Lefel A, neu gyfwerth

Darparwr coleg/hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau megis:

  • Tystysgrif BCS mewn Dylunio a Gynorthwyir gan Gyfrifiadur 2D (ECDL CAD) Lefel 2
  • Tystysgrifau a Diplomâu BTEC mewn Peirianneg Lefelau 2 a 3
  • Tystysgrifau a Diplomâu Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg Mecanyddol, Gweithgynhyrchu neu Sifil Lefel 3
  • Tystysgrif City and Guilds mewn Modelu Paramedrig Dylunio a Gynorthwyir gan Gyfrifiadur Lefelau 1 i 3
  • Tystysgrif City and Guilds mewn Dylunio 2D â Chymorth Cyfrifiadur Lefel 2, a Lefel 3.

Ar gyfer y rhain, yn gyffredinol bydd arnoch angen:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gyfwerth

Hyfforddeiaeth

Os ydych rhwng 16 a 24 oed efallai y byddwch yn gymwys i gael hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy'n eich helpu i ennill profiad gwaith yn eich rôl ddewisol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant.

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad ar y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Ar gyfer prentisiaeth bydd arnoch angen:

  • 5 TGAU (mewn gwyddoniaeth, mathemateg neu bynciau dylunio) ar raddau 9 i 4 (A i C), neu gyfwerth

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill hwn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.


Beth mae gweithredwr CAD yn ei wneud?

Fel gweithredwr CAD, gallech:

  • Ddefnyddio meddalwedd i gynhyrchu cynlluniau 2D a 3D, mapiau, gweddluniau, lluniadau technegol a chynlluniau adeiladu ar gyfer prosiectau a strwythurau adeiladu
  • Sicrhau bod lluniadau'n diwallu safonau ansawdd, technegol ac iechyd a diogelwch
  • Cynllunio a llunio manylion pontydd, priffyrdd a systemau rheoli dŵr gwastraff
  • Nodi problemau adeiladu a chanfod atebion ar eu cyfer
  • Dehongli lluniadau peirianwyr
  • Gwneud cyfrifiadau i gyfrifo onglau, pwysau deunyddiau a chostau prosiect
  • Archifo gwahanol fersiynau o waith dylunio a chynnal cofnodion
  • Ymweld â safleoedd adeiladu
  • Cydgysylltu â phenseiri, peirianwyr, gwasanaethau adeiladu a gweithredwyr adeiladu eraill
  • Defnyddio gwahanol becynnau meddalwedd i rannu neu addasu gwybodaeth am ddeunyddiau, manylebau technegol, gweithdrefnau cydosod, mesuriadau a gofynion safle. 
  • Defnyddio gwybodaeth gymhleth a thechnegol i greu neu addasu diagramau adeiladu
  • Gweithio ar safle adeiladu neu mewn swyddfa.


Faint allech chi ei ennill fel gweithredwr CAD?

  • Gall gweithredwyr CAD sydd newydd eu hyfforddi ennill tuag £17,000 - £20,000
  • Gall gweithredwyr CAD wedi'u hyfforddi â phrofiad ennill tua £20,000-£35,000
  • Gall gweithredwyr CAD uwch, siartredig neu feistr ennill tua £35,000-£50,000

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar leoliad, cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithredwyr CAD:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Fe gaiff cyfleoedd newydd eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Fel gweithredwr CAD, gallech chi hefyd weithio fel delweddwr/arbenigwr 3D, rheolwr BIM neu fodelwr CAD. Gallech symud ymlaen i ddod yn rheolwr prosiect neu ddylunio ac ennill cyflog hyd yn oed yn uwch.

Gallech gymryd cymwysterau amrywiol wedi'u seilio yn y gwaith a dysgu rhagor am dechnoleg beirianneg er mwyn datblygu'ch gyrfa.

Gall technegwyr CAD profiadol gofrestru â'r Cyngor Peirianneg i ennill statws EngTech ar gyfer datblygiad proffesiynol ac i wella rhagolygon swyddi.

Gallech hefyd sefydlu'ch busnes eich hun a gweithio fel gweithredwr CAD llawrydd.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithredwr CAD Y gweithredwr CAD, neu'r drafftsmon, sy'n dod â chyfrifiaduron a'r diwydiant ade...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr dylunio Rheolwr Dylunio sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith dylunio sy'n rhan o'r bros...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080