Rhoi sylw i LGBT+ ar safleoedd
Dysgwch sut beth yw dod allan yn y diwydiant adeiladu gan yr Arloeswr a’r ymgyrchydd, Christina Riley.
O filoedd o adeiladwyr ar safleoedd ar draws Llundain yn clymu eu hesgidiau gyda chareiau yn lliwiau’r enfys i gefnogi cydraddoldeb LGBT+, i rwydwaith cynghori ar draws y diwydiant – mae’r diwydiant adeiladu’n croesawu amrywiaeth. Er mwyn dod ag agwedd fwy cynhwysol i’n gweithlu, mae cyflogwyr wedi cyflwyno amrywiaeth o strategaethau.
Mae ymchwil yn dangos bod gwneud y gweithle’n fwy cynhwysol ar gyfer gweithwyr LGBT+ yn dod â sawl budd i’r busnes, gan gynnwys:
Mae Fframwaith Be Fair CITB wedi darparu dull strwythuredig o ddatblygu tegwch, cynhwysiant a pharch mewn cwmnïau adeiladu. Ei nod yw creu gweithleoedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Mae hyn yn cael ei wneud drwy adnoddau rhad ac am ddim sy’n edrych ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a sut i weithredu hyn yn effeithiol yn y gweithle.
Mae llawer o gyflogwyr yn mabwysiadu polisi “peidio cadw’n dawel” i annog pobl i beidio â rhoi anogaeth i’r rheiny sy’n defnyddio iaith dramgwyddus – boed hynny’n ddiniwed neu’n fwriadol.
Fel y gwneir o fewn y gymuned ei hun, anogir staff LGBT+ i fod yn fodelau rôl ac y dylid rhoi’r amser iddynt i ysbrydoli eraill, gan atal gweithwyr rhag teimlo’n ynysig.
Dim ond swyddi gan gwmnïau sydd â pholisïau cynwysoldeb sefydledig sy’n cael eu rhestru ar safle swyddi LGBT+ Diversity Jobs. Mae’n cynnwys swyddi o sawl sector gan gynnwys adeiladu.
Gofynnir i staff lenwi arolygon dienw, gyda chwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol, er mwyn iddynt allu rhannu eu barn am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Defnyddir yr adborth i helpu i lunio polisïau a chynlluniau ar gyfer y cwmni cyfan.
Mae’r rhwydwaith yn darparu lle cefnogol, diogel a chyfrinachol i gyfarfod, rhannu a thrafod safbwyntiau, profiadau neu bryderon. Ei nod yw codi proffil gweithwyr proffesiynol LGBT+ ym maes adeiladu a bod yn gynghorydd ar ran ddefnyddwyr seilwaith LGBT+.
Hefyd, gellir cynnig hyfforddiant a gweithdai rhagfarn ddiarwybod. Rhagfarn ddiarwybod yw pan fyddwn yn barnu ein gilydd yn annheg ar sail anwybodaeth, dilyn llwybrau byr meddyliol, sy’n aml yn arwain at ddewisiadau gwael, anghywir neu ragfarnllyd.
Lluniau diolch i Christina Riley